Skip to content

Y Bwa Tresi Aur yng Ngardd Bodnant

Visitors standing underneath the laburnum arch in bloom at Bodnant Garden, taking photos and laughing with each other.
Ymwelwyr yn edmygu’r Bwa Tresi Aur yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Bob blwyddyn, mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i Ardd Bodnant i fwynhau’r Bwa Tresi Aur byd-enwog yn ei holl ogoniant euraidd. Yn ei flodau oddeutu diwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin, dysgwch ragor am y bwa 55 metr o hyd a sut i archebu tocynnau ymlaen llaw.

Mae'r Bwa Tres Aur wedi gorffen blodeuo am 2024.

Rydym yn edrych ymlaen at weld hi eto o ddiwedd mis Mai/dechrau mis Mehefin 2025.

Oriau agor hirach i weld y Bwa Tresi Aur

Rydym yn ymwybodol faint o bobl sydd wrth eu boddau’n gweld y Bwa Tresi Aur yn blodeuo, felly eto eleni, bydd Gardd Bodnant yn agor yn gynnar ac yn cau’n hwyr o ddydd Llun 20 Mai i ddydd Sul 9 Mehefin, 9am-8pm Llun i Iau, mynediad olaf am 7.30pm, a 9am-6pm Gwener i Sul, mynediad olaf am 5pm).

Os hoffech chi ymweld â'r bwa yn ystod amser tawelach o'r dydd, pan fydd llai o dorfeydd o gwmpas, efallai bod ein hamseroedd agor gyda'r hwyr yn fwy cyfleus ichi. Mae ymdeimlad hamddenol yn perthyn i’r ardd gyfan yn ystod yr adeg hon o’r dydd, gyda’r haul fin nos yn tywynnu’n hyfryd drwy’r dail gwyrdd llachar a’r blodau euraidd. Os mai ond yn ystod y dydd rydych wedi gweld y bwa erioed, mae’n werth ichi ymweld fin nos i fwynhau profiad hollol wahanol.

Archebu eich tocynnau ymlaen llaw 2024

Mae'n hanfodol eich bod yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw i ymweliadau yn y bore a phnawniau buan rhwng 20 Mai a 9 Mehefin gan ein bod yn disgwyl iddi fod yn brysur. Mae hyn yn hanfodol i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd. Gallwch archebu ymlaen llaw drwy ddilyn y ddolen yma neu drwy ffonio’r Llinell Archebu Ganolog ar 03442 491895.

Hanes Y Bwa Tresi Aur yng Ngardd Bodnant

Crëwyd Y Bwa Tresi Aur, rhodfa 55 metr o hyd o flodau euraidd, gan sylfaenydd Fictoraidd yr ardd Henry Pochin yn 1880. Cyflogodd e Edward Milner, prentis i Joseph Paxton, i helpu gyda dylunio’r ardd ffurfiol o amgylch Neuadd Bodnant, yn cynnwys Y Bwa Tresi Aur a leolir ar lwybrau pergola’r 16eg a’r 17eg ganrif. Credir iddi fod yr hiraf a’r hynaf ym Mhrydain.

Dros 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yr arddangosfa flodeuog yw’r digwyddiad mwyaf poblogaidd y tynnir y mwyaf o luniau ohono, y mae pobl yn edrych ymlaen fwyaf eiddgar amdano ym mlwyddyn Gardd Bodnant, gan ddenu oddeutu 50,000 o ymwelwyr dros dair wythnos ddiwedd Mai a dechrau Mehefin.

Y Bwa Tresi Aur gyda’i flodau melyn adnabyddus ar ddechrau mis Mehefin yng Ngardd Bodnant yng Ngogledd Cymru
Y Bwa Tresi Aur ar ddechrau Mehefin yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images / Joe Wainwright

Maes parcio yn ystod flodeuo Laburnum

Bydd y tîm yn cynnig help llaw yn y maes parcio yn ystod y cyfnod prysur hwn, gan eich tywys at fannau parcio rhydd ar ôl ichi gyrraedd ar eich amser penodedig. Os byddwch angen man parcio hygyrch, argymhellwn eich bod yn dod draw ar adegau llai prysur – yn gynnar yn y bore neu’n hwyrach yn y prynhawn. Hefyd, ceir mannau gollwng a chasglu gyferbyn ag Ystafell De’r Pafiliwn.

Ystyriwch rannu car neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (mae safle bws y tu allan i gatiau’r ardd ar gyfer gwasanaeth Arriva 25 o Landudno). Os nad ydych yn ymweld â’r gerddi, ond yn dod i siopa yng Nghanolfan Arddio Bodnant neu unedau crefft, yna ystyriwch ddod yn ystod oriau llai prysur pan fydd y maes parcio a rennir yn dawelach.

Mynediad i’r bwa

Mae’r Bwa Tresi Aur yn agos at y fynedfa i’r gerddi ar lawr eithaf gwastad sy’n addas i gadair olwyn. Rydych yn ei gyrraedd drwy fynd ar hyd llwybr graeanog llydan, cadarn a darn o lawnt. Rhowch wybod i ni o ymlaen llaw neu ar y diwrnod os oes gennych unrhyw ofynion arbennig megis anawsterau symudedd, ac fe wnawn ein gorau i helpu.

Evening visitors take their dogs into the Laburnum Arch at Bodnant Garden, North Wales
Ymwelwyr gyda’r nos yn mynd â’u cŵn i mewn i’r Bwa Tresi Aur yng Ngardd Bodnant, gogledd Cymru | © ©National Trust Images/Rod Kirkpatrick

Dod â’ch ci i Bwa Tresi Aur

Cofiwch fod croeso i gŵn yn yr ardd ar ddyddiau Iau, Gwener, Sadwrn a Sul, os ydych chi’n dymuno dod â’ch cyfaill pedair coes gyda chi. Gweler ein tudalen Croeso i Gŵn am fanylion llawn. Rhaid cadw eich cŵn ar dennyn byr drwy gydol yr amser a chofiwch ddod â digon o fagiau baw ci gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Cadw llygad ar y Tresi Aur!

Byddwn yn postio diweddariadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a byddem wrth ein boddau’n gweld eich lluniau, rhannwch drwy ddefnyddio’r hashnod #BwaTresiAur a #Gwylio’rTresiAur drwy gydol mis Mai a Mehefin.

Dail hydrefol yr acers (coed clwt) yng Ngardd Bodnant

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant

Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Dog portraits from the Dog Fest at Bodnant Garden, Conwy
Erthygl
Erthygl

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant 

Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.

Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy
Erthygl
Erthygl

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Llannerch Acer yn yr hydref yng Ngardd Bodnant, Conwy
Erthygl
Erthygl

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Two visitors sat eating sandwiches outside the cafe at Gibside Tyne & Wear.
Erthygl
Erthygl

Bwyta yng Ngardd Bodnant 

Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.