Llwybr hygyrch drwy’r ardd yng Nghastell y Waun

Crwydrwch y llwybr hygyrch drwy ardd drawiadol 5.5 erw Castell y Waun, sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau tramper a choetsis. Mae’r llwybr hardd yn troelli heibio'r tocwaith o goed yw hyfryd, yr Ardd Rosod bersawr a'r Tŷ Hebog hanesyddol, gyda’r castell canoloesol yn gefndir godidog i'r cyfan.
Eiddo ger
Chirk Castle and GardenMan cychwyn
Maes parcio Castell y Waun Castell Y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF Cyfeirnod grid: SJ275388 Maes parcio - what3words: ///brechu.noswyl.brwdfrydeddCyfanswm y rhannau: 7
Cyfanswm y rhannau: 7
Man cychwyn
Maes parcio Castell y Waun Castell Y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF Cyfeirnod grid: SJ275388 Maes parcio - what3words: ///brechu.noswyl.brwdfrydedd
Rhan 1
Ewch allan o'r maes parcio ac i’r ganolfan croesawu ymwelwyr i gasglu eich tocynnau neu i sganio’ch aelodaeth. Yna, ewch ymlaen i’r man casglu bws gwennol, lle bydd bws yn mynd â chi i fyny at y castell. Am well hygyrchedd yn yr ardd, mae gennym un cerbyd tramper trydan ar gael i’w logi o’r Swyddfa Docynnau- galwch ni i archebu.
Rhan 2
Wedi i chi gyrraedd y porthcwlis, ewch tuag at giât yr ardd. Ewch drwy’r giât ac yna’n syth ymlaen, a chymerwch olwg ar y tocwaith ywen sydd bob ochr i'r llwybr. I’r dde, sylwch ar furiau’r castell sydd wedi’u gorchuddio â Gwinwydden Virginia, sy’n newid o wyrdd yn y gwanwyn a’r haf i goch llachar yn yr hydref.
Rhan 3
Dilynwch y llwybr wrth iddo droelli i’r dde, gan eich tywys tuag at y border blodeuog. I’r chwith, sylwch ar yr Ardd Rosod sydd yn ei llawn ogoniant yn yr haf, gan gynnig golygfa liwgar ac arogleuon melys. Ewch o dan y bwa ac yna parhau ar hyd y llwybr.

Rhan 4
Trowch i’r chwith wrth y goeden ywen fawr a gwerthfawrogi’r border hir sy’n llawn llwyni tymhorol a phlanhigion blodeuog ar eich llaw chwith.
Rhan 5
Dilynwch y llwybr wrth iddo wyro i’r dde, lle gwelwch y gwair pampas yn symud yn osgeiddig, ac ar ei orau cyn y barrug cyntaf. Wrth i chi barhau, edmygwch yr ardd gerrig ar eich llaw chwith a chofiwch am y Tŷ Hebog yn syth o’ch blaen, wedi’u guddio ymysg y dirwedd.

Rhan 6
Ewch yn syth yn eich blaen hyd nes i chi gyrraedd y Ha-Ha, lle caiff tirwedd drawiadol Williams Emes ei datgelu. O’r fan hon, gallwch ddewis cerdded i’r chwith i gael rhagor o olygfeydd, gan gynnwys Y Deml neu droi i'r dde i barhau ar hyd y llwybr hygyrch.
Rhan 7
Parhewch ar hyd y llwybr, gan fynd heibio'r ardd o fonion coed ar eich llaw chwith a’r pwll ar y dde. Yn yr haf, fe ddewch ar draws amrywiaeth lliwgar o goed rhododendron yn eu blodau. Yn olaf, dilynwch y llwybr yn ôl at giât yr ardd.
Man gorffen
Giât gardd Castell y Waun
Map llwybr

Cysylltwch

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Ymweld â Chastell y Waun
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Dyddiau i’r teulu yng Nghastell y Waun
Mae digonedd o hwyl i’w gael yng Nghastell y Waun, lle gall eich rhai bach redeg, chwarae a dysgu drwy gydol y flwyddyn.