
Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Y Nadolig hwn, beth am greu atgofion hudolus wrth i chi grwydro Castell y Waun. O 29 Tachwedd i 4 Ionawr, cewch ganfod theatrau pypedau cysgod chwareus ac ystafelloedd hardd, gydag addurniadau wedi’u hysbrydoli gan hanes cyfoethog y castell - o’i darddiad fel caer ganoloesol o’r 13eg ganrif i’w drawsnewidiad i gartref teuluol mawreddog ar gyfer y teulu Myddelton.
29 Tachwedd 2025 – 4 Ionawr 2026 – ar agor yn ddyddiol 10am-4pm. Bydd y tŷ ar agor 11am-4pm, gyda’r mynediad olaf am 3.30pm
Ar gau 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Dros dymor y Nadolig, dewch ar daith hudolus drwy 700 mlynedd a mwy o hanes yng Nghastell y Waun. O’i darddiad fel caer ganoloesol gadarn i’w drawsnewidiad i gartref teuluol mawreddog ar gyfer y teulu Myddelton am dros 400 mlynedd, daw’r castell yn fyw gyda theatrau pypedau cysgod chwareus ac ystafelloedd wedi’u haddurno’n drawiadol wedi’u hysbrydoli gan hanes Castell y Waun.
Camwch i’r Ochr Ddwyreiniol, lle mae’r llyfrgell yn disgleirio â naws Nadoligaidd, a’r Ystafell Ddarllen yn eich gwahodd i fwynhau gemau bwrdd clasurol fel gwyddbwyll a draffts neu ymlacio gyda llyfr Nadoligaidd clyd.
Y tu allan, mae’r gerddi yn llawn o ryfeddodau tymhorol. Cewch ddilyn llwybr darganfod anifeiliaid y coetir, a gweld a allwch ddod o hyd i rai o’r creaduriaid sy’n galw’r ystâd yn gartref, gan gynnwys draenogod, gwiwerod, ac ysgyfarnogod.
P’un a ydych yn chwilio am hwyl yr ŵyl, ychydig o hanes, neu ddihangfa aeafol heddychlon, mae Castell y Waun yn cynnig profiad Nadoligaidd i’w gofio.
Pob penwythnos y Nadolig hwn, beth am ymweld â Groto o Chwith Castell y Waun er budd Banc Bwyd Croesoswallt a'r Gororau, gan helpu’r rhai mewn angen drwy gyfrannu eitemau hanfodol. Byddwn yn casglu eitemau bwyd annarfodus gan gynnwys tuniau tomatos, cawl, ffa pob, tuniau cig, te, coffi, sudd a llaeth UHT, yn hwb y ceidwad yn Fferm yr Ystad yn ystod oriau agor arferol. Cewch gwrdd â Siôn Corn rhwng 10.30am a 3.30pm ar ddyddiau Sadwrn a Sul o 29 Tachwedd i 21 Rhagfyr.
Taith gerdded aeafol ar ystad 480 acer Castell y Waun yw’r cyfle perffaith i arafu a mwynhau adegau syml i’w trysori y Nadolig hwn. Gofynnwn yn garedig i chi gadw cŵn ar dennyn bob amser.
Dysgwch fwy am archwilio’r ystâd yma
Os oes awydd bwyd arnoch, camwch i’n hystafell de glyd lle cewch wledd o ddanteithion Nadoligaidd. Cewch fwynhau dewis eang o opsiynau, o brydau ysgafn i ginio Nadolig sylweddol, yn cynnwys dewisiadau figan a llysieuol. Tretiwch eich hun i un o’r ffefrynnau tymhorol, fel mins-pei, siocled poeth a gwin cynnes.
Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop anrhegion ar Fferm yr Ystad, sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau. Rhowch anrheg arbennig i’ch anwyliaid neu i chi'ch hun. Mae pob rhodd a phryniant a wneir yn ystod eich ymweliad yn ein helpu ni i ofalu am natur, harddwch a hanes y lle arbennig hwn - diolch am roi sglein ar ein Nadolig ni hefyd.
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.