Skip to content

Taith Coed Mawr Erddig

Cymru

Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro ar daith y Coed Mawr yn Erddig | © National Trust Images/Natalie Overthrow

Taith gerdded gylchol fer yw taith Coed Mawr Erddig sy’n mynd â chi o gwmpas yr ystâd 1,200 erw. Cewch weld dôl gudd ac amrywiaeth o nodweddion archeolegol ar hyd y daith. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.

Man cychwyn

Maes parcio Erddig. Cyfeirnod grid: SJ 32782 48091

Pa Mor Heriol*

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Hyd 30 munud to 1 awr
Addas i gŵn**
  1. *Taith trwy barcdir gyda grisiau yn agos i’r castell tomen a beili. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.

  2. **Croeso i gŵn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.

Arwyddion oren

Chwiliwch am yr arwyddion oren sy’n dangos y llwybr hwn trwy’r ystâd.

  • Cyfanswm y rhannau: 13

    Cyfanswm y rhannau: 13

    Man cychwyn

    Maes parcio Erddig. Cyfeirnod grid: SJ 32782 48091

    Rhan 1

    Cychwynnwch oddi wrth y colomendy a cherdded i’r dwyrain trwy’r parc bysiau gan ddal i fynd yn syth i’r trac caregog. Ewch heibio’r dderwen farw (Quercus robur) ar y dde i chi sy’n gartref i dylluan wen ac infertebratau dirifedi.

    Rhan 2

    Dilynwch y llwybr i’r chwith a heibio’r ha-ha (nodwedd i gadw ceirw o’r ardd).

    Y giât haearn bwrw addurnedig yn Erddig, Cymru
    Y giât addurnedig yn Erddig | © National Trust Images/Rupert Truman

    Rhan 3

    Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i’r Coed Mawr.

    Rhan 4

    Dilynwch y llwybr i’r chwith a chymryd y llwybr ar y dde, gan ddilyn yr arwydd oren.

    Rhan 5

    Ewch yn syth ymlaen, fe welwch chi goed ffawydd wedi syrthio wrth i chi gerdded.

    Rhan 6

    Ewch yn syth ymlaen gan fod y llwybrau eraill yn mynd i’r dde. Wrth i chi ddilyn y llwybr i’r chwith, mae’r coetir yn agor allan ychydig. Ar y chwith mae rhodfa syth trwy’r Coed Mawr i Ffau’r Blaidd a’r ardd.

    Rhan 7

    Ewch ymlaen ar hyd y llwybr nes y bydd yn mynd i lawr i’r dde – dyma waelod y castell tomen a beili. Os hoffech chi gerdded ar y domen a’r beili ewch i lawr y llethr at y panel dehongli ac yna ewch ymlaen i fyny’r bryn serth. Byddwch yn ofalus ar y llethrau, yn arbennig mewn tywydd gwlyb pan fydd hi’n llithrig. Os nad ydych am fynd at y domen a’r beili, ewch ymlaen i gam 10.

    Rhan 8

    Pan gyrhaeddwch chi gopa’r bryn serth mae’n agor allan yn ardal wastad o laswellt. Yr ardal hon fyddai’r pentref, gyda thai a siopau, gan gynnwys siop fara, cigydd, arfdy a gof mae’n debyg. Erbyn hyn mae yma rodfa o ffawydd ac oestrwydden (carpinus betulus).

    Rhan 9

    Hanner ffordd i lawr y rhodfa ar y chwith, dilynwch y llwybr i lawr lle gallwch chi weld tomen fawr, dyma domen y castell.

    Rhan 10

    Ar ôl i chi grwydro trwy’r domen a’r beili, ewch yn ôl at y panel dehongli ac i fyny’r llethr. Cadwch i’r dde a mynd yn syth ymlaen trwy’r Coed Mawr. Byddwch yn cyrraedd ffens bren a giatiau. Dilynwch y llwybr i lawr i’r dde, lawr y bryn. Hanner ffordd i lawr y grisiau ar y dde mae un rhan o Glawdd Wat, yr ail o’n Henebion Hynafol Rhestredig.

    Rhan 11

    Ar waelod y bryn ewch trwy’r giât mochyn ddu a throi i’r chwith. Er mwyn gweld y Gwpan a’r Soser lle mae dŵr yn rhaeadru, ewch dros y bont bren i’r dde.

    Rhaeadr y Gwpan a’r Soser yn Erddig, Cymru lle mae dŵr yn llifo i lawr agoriad crwn, tra bod teulu yn gwylio gyda choed hydrefol yn y cefndir.
    Ymwelwyr wrth nodwedd ddŵr y Gwpan a Soser yn Erddig | © Natalie Overthrow

    Rhan 12

    Ewch yn ôl y ffordd daethoch chi i’r llwybr a mynd trwy’r giât mochyn bren wrth ochr grid gwartheg i’r ffordd darmac.

    Rhan 13

    Ewch ymlaen i fyny’r bryn a thrwy’r coed. Anelwch i’r chwith at y colomendy lle gwnaethoch gychwyn y daith.

    Man gorffen

    Maes parcio Erddig. Cyfeirnod grid: SJ 32782 48091

    Map llwybr

    Map taith ar gyfer llwybr y Coed Mawr yn dilyn yr arwyddion oren
    Map taith ar gyfer llwybr y Coed Mawr yn dilyn yr arwyddion oren | © National Trust Images/Smart Graphic Designers

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Neuadd a Gardd Erddig 

Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Wyneb gorllewinol Erddig, Wrecsam, yn yr hydref, wedi ei orchuddio mewn iorwg Boston

Taith glan yr afon Erddig 

Taith gylchol wedi ei marcio o gwmpas ystâd Erddig, ar hyd Afon Clywedog, heibio’r nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif, adfeilion castell a chloddiau amddiffynnol hanesyddol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Tad a’i fab yn pwyso ar barapet pont garreg yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig 

Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Grisiau yn y coetir yn Erddig, Cymru, wedi eu gorchuddio â charped hydrefol o ddail coch

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig 

Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Grisiau yn y coetir yn Erddig, Cymru, wedi eu gorchuddio â charped hydrefol o ddail coch

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Y parcdir yn Erddig, Wrecsam, yn yr hydref.

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

A beige sofa with a green and gray throw blanket, and a black coffee table with a wooden tray, a green diffuser, ceramic vases and greenery.

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig 

Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.

Tri o bobl yn rhedeg drwy’r parcdir.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.  (Saesneg yn unig)

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors