Taith glan yr afon Erddig

Mwynhewch daith gerdded gylchol fer sy’n eich arwain o gwmpas y llwybr wedi ei farcio’n wyrdd ar yr ystâd 1,200 erw gyda chasgliad o nodweddion naturiol ac archeolegol. Edmygwch nodwedd ddŵr Cwpan a Soser enwog Erddig o’r 18fed ganrif, a ddyluniwyd gan William Emes, a dilynwch Afon Clywedog ar hyd troed Clawdd Wat a Choed y Llys i bentref hanesyddol Felin Puleston.
Eiddo ger
Erddig Hall and GardenMan cychwyn
Maes parcio Erddig, cyfeirnod grid: SJ326481Gwybodaeth am y Llwybr
*Rhai llethrau serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Tir eithaf hawdd gydag un ddringfa serth fer. Llwybrau troed a graean. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Cadwch gŵn ar dennyn os gwelwch yn dda gan fod anifeiliaid yn pori ar yr ystâd yn barhaus. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Mwy yn agos i’r man hwn

Neuadd a Gardd Erddig
Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Taith Coed Mawr Erddig
Mwynhewch daith hamddenol o gwmpas parcdir Erddig ar y daith gylchol hon. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.

Taith Dôl Ffrengig Erddig trwy barc pleser Emes
Mwynhewch daith gydag arwyddion trwy ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam, sy’n eich arwain heibio’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser enwog.

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig
Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Crwydro parcdir Erddig
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig
Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.

Bwyta a siopa yn Erddig
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.