Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig

Taith gylchol 3 milltir yw taith coetir Brryn-y-Cabanau yn Erddig ar hyd llwybr wedi ei nodi ag arwyddion porffor trwy gymysgedd o lwybrau glan afon a choetir.
Eiddo ger
Erddig Hall and GardenMan cychwyn
Maes parcio Erddig, cyfeirnod grid: SJ326481Gwybodaeth am y Llwybr
*Llwybrau troed a llwybrau graean gyda rhannau corslyd, yn ogystal â rhai llechweddau serth i fyny ac i lawr. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Nid yw’r llwybr yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Cadwch eich ci ar dennyn trwy’r amser. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Crwydrwch trwy goetir 300 mlwydd oed
Mae Coed Lewis 300 mlwydd oed heddychlon yn cynnig cyfoeth o fywyd gwyllt a chlychau’r gog yn y gwanwyn. Credir bod Coed Bryn-y-Cabanau wedi cael ei ddefnyddio fel maes saethu yn y 19eg ganrif, wedi ei ddewis oherwydd ei fod yn anghysbell a’r ochrau coediog serth.
Mwy yn agos i’r man hwn

Neuadd a Gardd Erddig
Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Taith Coed Mawr Erddig
Mwynhewch daith hamddenol o gwmpas parcdir Erddig ar y daith gylchol hon. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.

Taith glan yr afon Erddig
Taith gylchol wedi ei marcio o gwmpas ystâd Erddig, ar hyd Afon Clywedog, heibio’r nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif, adfeilion castell a chloddiau amddiffynnol hanesyddol.

Taith Dôl Ffrengig Erddig trwy barc pleser Emes
Mwynhewch daith gydag arwyddion trwy ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam, sy’n eich arwain heibio’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser enwog.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Crwydro parcdir Erddig
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig
Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.

Bwyta a siopa yn Erddig
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)