![Parc Ceirw Penrhyn Marloes, Sir Benfro](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/marloes-peninsula-deer-park-1197221-1.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Martin’s Haven – llwybr y parc ceirw
Mwynhewch olygfeydd arfordirol dramatig a bywyd gwyllt bendigedig ar y llwybr byr ond trawiadol hwn o gwmpas Penrhyn Marloes. Does dim ceirw i’w gweld, ond mae llawer o forloi (gan gynnwys rhai bach yn yr hydref), grug a blodau gwyllt, creigiau campus a golygfeydd o’r môr. Gallwch weld y rhan fwyaf o ynysoedd Sir Benfro o’r fan hon.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio Martin's Haven, cyfeirnod grid: SM760090
Cam 1
Ym mhen pellaf y maes parcio, ewch drwy’r gât i’r chwith a dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y cae y tu ôl i Rath Cottage.
Cam 2
Dilynwch y llwybr ar hyd yr arfordir yn y parc ceirw, gan fwynhau’r golygfeydd o’r ynysoedd. Mae Sgogwm i’w gweld i’r de (i’r chwith ohonoch), ac mae Gwales a’i mulfrain llwyd ar y gorwel. Mae dyfroedd peryglus Jack Sound yn byrlymu rhwng y parc ceirw ac Ynys Ganol. Os nad yw hi’n rhy wyntog, eisteddwch am eiliad a gwylio adar y môr.
Cam 3
Mae’r baeau creigiog o dan y clogwyni’n cael eu defnyddio gan forloi.
Cam 4
Trowch i’r dde a cherddwch tua’r tir mawr gan groesi’r parc gyda chaban gwylwyr y glannau i’r chwith ohonoch. Mae caban gwylwyr y glannau bellach yn wylfan weithredol sy’n cael ei gweithredu gan y National Coastwatch Institute. Mwynhewch y golygfeydd – mae hwn yn lle gwych am bicnic ar ddiwrnod braf.
Cam 5
Dilynwch y llwybr ar hyd pen uchaf amddiffynfeydd y gaer arfordirol – mae hon yn gaer 3,000 oed o Oes yr Haearn.
Cam 6
Aildroediwch y llwybr yn ôl tua’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Martin's Haven, cyfeirnod grid: SM760090
Map llwybr
![Map llwybr y Parc Ceirw ym Mhenrhyn Marloes, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/deer-park-walk-2.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Ymwelydd yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn Nhraeth Marloes, Sir Benfro](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/summer/visitor-walking-pembrokeshire-coast-path-marloes-sands-1434587.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded arfordirol Penrhyn Marloes
Llwybr cylchol gyda golygfeydd hyfryd o arfordir Sir Benfro sy’n berffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt ar y tir a’r môr. A pheidiwch â cholli gweddillion caerau o Oes yr Haearn ar eich taith.
![Yr olygfa o Garn Llidi dros Fae Porth Mawr, Sir Benfro, Cymru, gydag Ynys Dewi yn y pellter.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/st-davids-peninsula/library/whitesands-bay-and-ramsey-island-pembrokeshire-wales-42411.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi
Dilynwch lwybr ar hyd pentir arfordirol mwyaf dramatig Sir Benfro, dafliad carreg o Dyddewi, i ddarganfod henebion cynhanesyddol ac adar amrywiol.
![Cerddwyr ar lwybr yr arfordir yn Nhreginnis yn Sir Benfro, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/st-davids-peninsula/library/treginnis-coastline-pembrokeshire-wales-1360210.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Treginnis o Borthclais
Taith gerdded 6 milltir o amgylch pentir Treginnis yn Sir Benfro sy’n cynnwys rhai o ffurfiannau craig hynaf Cymru, caer o’r oes haearn, mwynglawdd copr o’r 19eg ganrif a harbwr hanesyddol Porthclais.
![Ymwelydd ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yn Stagbwll](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/stackpole-estate/library/visitor-pembrokeshire-coast-path-stackpole-wales-.973073.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/cwm-bychan-view-from-mynydd-sygun.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Golygfa eang o Draeth Marloes, Sir Benfro. Mae nifer o bobl ar y tywod euraidd, ac ar ymyl y traeth mae clogwyni geirwon yn codi.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/beach-marloes-sands-pembrokeshire-1434583.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Ymweld â Thraeth a Chors Marloes
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/lake-district/library/1603189-family-walking-alongside-lake-windermere-at-fell-foot-during-winter-cumbria.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)