Taith gerdded arfordirol Penrhyn Marloes

Dewch i grwydro’r penrhyn hwn o rostir hyfryd, sydd â golygfeydd gwych dros lannau Sir Benfro, ac sy’n llawn bywyd gwyllt fel morloi llwyd, adar môr a llamidyddion. Mae’r llwybr cylchol hwn yn eich tywys dros dir amaeth, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a thrwy weddillion caerau o Oes yr Haearn.
Eiddo ger
Marloes Sands and MereMan cychwyn
Maes parcio Traeth Marloes, cyfeirnod grid: SM789082Gwybodaeth am y Llwybr
*Llwybrau cymedrol i arw, rhai llethrau a stepiau. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Mae’r llwybr yn un garw, ond mae darn hygyrch yn arwain o faes parcio Martin's Haven. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Mae croeso i gŵn. Cadwch nhw ar dennyn o gwmpas anifeiliaid ac ar lwybr yr arfordir. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Beth yw’r parc ceirw?
Mae’r ardal ym mhen pellaf y penrhyn wedi’i henwi ar ôl ymgais aflwyddiannus i greu parc ceirw ar ddiwedd y 18fed ganrif a throad y 19eg ganrif. Mae’n gartref i gaer bwysig o Oes yr Haearn, a dyma’r lle gorau i weld morloi bach ar ddiwedd yr haf.
Mwy yn agos i’r man hwn

Martin’s Haven – llwybr y parc ceirw
Llwybr byr ond trawiadol o gwmpas Penrhyn Marloes gyda llawer o forloi (rhai bach yn yr hydref), grug a blodau gwyllt, creigiau campus a golygfeydd o’r môr.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymweld â Thraeth a Chors Marloes
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.