Skip to content

Cyfleoedd i wirfoddoli yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd

Grwp o staff a gwirfoddolwyr yn eistedd yn glanhau yr eitemau copr yng nghasgliadau'r castell yn y Geginau Fictoraidd
Grwp o staff a gwirfoddolwyr yn glanhau yr eitemau copr yn y casgliadau. | © National Trust Images/Sioned Griffiths

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o dîm Castell Penrhyn. Maent yn cefnogi’r gwaith cynnal a chadw ac yn croesawu ymwelwyr i’r castell bob dydd. Os ydych chi’n berson brwdfrydig ac ymroddedig pam ddim ymuno hefo’r tîm arbennig?

Cyfleoedd i wirfoddoli yn y Penrhyn

Mae gennym wirfoddolwyr yn ystafelloedd y castell sy’n sôn am yr hanes a’r casgliadau, gwirfoddolwyr sy’n cyfarfod pobl a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas y castell a’r ardd. Mae gennym hefyd yrwyr bygis gwirfoddol, yn ogystal â chyfleoedd yn yr ardd, y siop, y caffi, y Gegin Fictoraidd, a gyda’r tîm cadwraeth.

Ewch i MyVolunteering a chwilio am Castell Penrhyn i ddarganfod pa gyfleoedd gwirfoddoli sydd gennym ar hyn o bryd.

Dewch i gyfarfod rhai o Dywyswyr y Castell

Mae ystafelloedd y castell, sy’n llawn gwrthrychau prydferth, gwaith crefft arbennig a hanesion difyr, yn rhoi’r cefndir i ble mae ein gwirfoddolwyr yn croesawu miloedd o ymwelwyr. Buom ni’n siarad gyda rhai o ein gwirfoddolwyr am eu hoff ystafell a gwrthrych yn y castell, eu hoff beth am wirfoddoli a be sy’n eu cadw nhw’n dod yn ôl.

Gwirfoddolwr yn sefyll ar y Grisiau Mawreddog addurniedig
Tecwyn yn sefyll ar y Grisiau Mawreddog addurniedig | © Kristina Banholzer

Tecwyn a'r lantarn wydr

Mae Tecwyn wedi bod yn gwirfoddoli yng Nghastell Penrhyn ers ei ymddeoliad yn 2018. Yn ystod ei yrfa, bu’n dod a myfyrwyr i ymweld â Chastell Penrhyn a chafodd ei ysbrydoli i wirfoddoli wedi gorffen ei waith. Wrth wirfoddoli, mae o wrth ei fodd yn siarad gydag ymwelwyr, gan rannu elfennau o hanes a diwylliant lleol gyda rhai o bell i ffwrdd yn ogystal â phobl ar ein stepen drws. Dyma fo ar y Grisiau Mawreddog, ei hoff ran o’r castell am ei bod hi mor olau, diolch i’r ffenest lantarn uwch ei ben. Wrth i ymwelwyr gyrraedd y grisiau, mae Tecwyn wrth ei fodd yn eu gweld yn cael eu syfrdanu gan y gwaith crefft arbennig sydd yn y rhan yma o’r castell. Mae digon i siarad am wrth i’r cerfiadau ddehongli bob math o ryfeddodau ac adrodd amryw o straeon.

1 of 5

Cwestiynau Cyffredin

Os ydych yn ystyried gwirfoddoli ond yn ansicr beth mae’n ei olygu neu beth fyddech chi’n ei gael o’r profiad, rydym wedi casglu gwybodaeth i chi i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.

A oes angen i mi wybod yr hanes ymlaen llaw?

Does dim rhaid i chi boeni os nad ydych yn gwybod llawer o hanes Castell Penrhyn. Fe fyddwn yn rhoi’r manylion i chi fel rhan o’ch cynefino. Wrth i chi barhau i wirfoddoli yn y Penrhyn, byddwch yn casglu rhagor o wybodaeth, gan ddysgu am gefndir y teuluoedd a fu’n byw yma ac o ble daeth y cyfoeth.

Pa mor aml allaf i wirfoddoli?

Bydd unrhyw amser y gallwch chi ei roi fel gwirfoddolwr yn werthfawr, ac mae llawer o’n gwirfoddolwyr yma yn y Penrhyn yn defnyddio rota ar-lein i archebu’r amser y maent yn gallu ei roi ymlaen llaw, gan ein galluogi i gynllunio. Hyd yn oed os mai am gyfnod byr yr ydych yn gallu gwirfoddoli, fe fyddwn yn ceisio darparu ar eich cyfer a gallwn drefnu i chi weithio’n hyblyg ar draws nifer o adrannau gwahanol.

Waeth beth yw eich gallu neu eich diddordeb, fe fyddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i rôl wirfoddol sy’n addas i chi ac yn eich gwneud yn rhan o’r tîm yma yng Nghastell Penrhyn.

Teithio i’r castell ac oddi yno

Gallwn ad-dalu i chi am deithiau o’ch cartref i’r castell ac yn ôl bob tro y byddwch yn gwirfoddoli, gydag uchafswm o 40 milltir o radiws, os ydych yn teithio mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dysgwch ragor am wirfoddoli yng Nghastell Penrhyn

Os ydych wedi cael eich ysbrydoli ac awydd rhoi cynnig ar wirfoddoli, gallwch ddysgu rhagor trwy fynd i’r wefan swyddi gwirfoddol gwag a chwilio am Gastell Penrhyn a’r Ardd. Os byddai’n well gennych gael sgwrs ymlaen llaw i weld a fyddai gwirfoddoli yn addas i chi, ffoniwch ni yn y castell ar 01248 353084.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Erthygl
Erthygl

Streic Fawr y Penrhyn 

Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.

Dyfrlliw yn cael ei ddangos fel delwedd ffotograffig ddu a gwyn. Yn nodi’r lleoliad fel Jamaica yn dangos bryniau, palmwydd a chychod. O gasgliad Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Castell Penrhyn a hanes fasnach gaethwasiaeth 

Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.

Daffodils blooming in grass in the park at Penrhyn Castle and Garden, Gwynedd, Wales, with bare-branched trees and the castle in the background
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant 

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.