Gwreiddiau creigiog
Chwarel lechi oedd y Sinc (neu’r ‘Shinc’ ar lafar) ‘slawer dydd, ac roedd gwaith chwarela’n digwydd yno tan 1910, cyn i’r lle gael ei adael a’i lenwi â dŵr. Mae ei wreiddiau creigiog wedi creu cyfleoedd i bob math o brofiadau anturus, yn cynnwys plymio, arfordira a cherdded bendigedig.
Chwarel lechi gynt
Fe chwaraeodd Sir Benfro ran fawr yn y diwydiant llechi, ac roedd tua 100 o chwareli yn y sir yn niwedd y 18ed ganrif.
Byddai llechi a gloddiwyd yn Abereiddi yn cael eu cludo ar hyd y lein fach i Harbwr Porthgain gerllaw ac yna i ffwrdd ar longau. Roedd chwarela’n digwydd yma tan yn gynnar yn yr 20ed ganrif, ond cafodd y chwarel ei gadael wedyn, a llifodd y dŵr mewn.
Ffurfiwyd y Shinc pan ffrwydrwyd y sianel oedd yn cysylltu’r chwarel a’r môr, gan adael i’r môr lifo mewn.
Mae adfeilion adeiladau’r chwarel i’w gweld o hyd ar ben y clogwyni, ac olion tai’r gweithwyr drws nesa i’r maes parcio, ar hyd Y Row, fel y galwyd y rhes. Gallwch weld tŷ’r fforman a’r storfa bowdwr hefyd.