Skip to content

Llwybr arfordirol Porthgain i Abereiddi

Cymru

Y machlud o’r Morlyn Glas, Sir Benfro
Y machlud o’r Morlyn Glas, Sir Benfro | © Crown Copyright (2015) Visit Wales

Mwynhewch rai o olygfeydd arfordirol gorau Sir Benfro tra’n darganfod ei hanes diwydiannol. Un tro, roedd porthladd pysgota pitw Porthgain yn allforio cerrig ffordd i bob rhan o’r DU, tra bod Morlyn Glas enwog Abereiddi yn hen chwarel lechi. Yn ogystal, mae Ynys Barri yn gartref i amrywiaeth arbennig o fywyd gwyllt.

Man cychwyn

Porthgain, cyfeirnod grid: SM816325 Cod post: SA62 5BP

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 4 (km: 6.4)
Hyd1 awr 20 munud
Addas i gŵn***
  1. *Gwastad ar y cyfan, ond gyda rhai darnau serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd. 

  2. **Ddim yn addas i bobl sydd â gofynion mynediad arbennig. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad. 

  3. ***Rhaid i gŵn gael eu cadw ar dennyn byr ger anifeiliaid. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.  .

  • Cyfanswm y rhannau: 8

    Cyfanswm y rhannau: 8

    Man cychwyn

    Porthgain, cyfeirnod grid: SM816325 Cod post: SA62 5BP

    Rhan 1

    Cerddwch ar hyd ochr ddeheuol Harbwr Porthgain o dan yr hopranau brics. I gyrraedd llwybr yr arfordir, dringwch y grisiau ger adeilad gwyn.

    Rhan 2

    Ar ôl tro sydyn i’r chwith, yng nghornel y cae, mae’r tŵr uwchben Abereiddi yn dod i’r golwg. Dilynwch lwybr yr arfordir ar hyd clogwyni uchel dramatig.

    Rhan 3

    Mae grisiau o’r fan hon yn arwain i lawr i draeth bach o’r enw Traeth Llyfn. Yn anghysbell a diarffordd, mae’r glannau wedi’u gorchuddio’n llwyr pan mae’r llanw’n uchel iawn. Gall fod ceryntau cryf hefyd, felly ni ddylech nofio yma, dim ond padlo ac adeiladu cestyll tywod.

    Rhan 4

    Mae llwybr yr arfordir yn parhau dros laswelltir agored, gan ddilyn ymyl y clogwyni cyn igam-ogamu i lawr at draeth Abereiddi. Os nad ydych chi eisiau parhau â’r gylchdaith lawn, neidiwch ar y bws (Gwibiwr Strwmbl) i Borthgain, Tyddewi neu Abergwaun.

    Rhan 5

    Dilynwch yr arwyddion melyn i fyny llethr byr ac ymunwch â llwybr glaswelltog llydan sy’n arwain tua’r tir mawr.

    Rhan 6

    Ewch dros gamfa, torrwch ar draws cornel y cae a dringwch dros gamfa arall ger pentwr o greigiau. Dilynwch y trac llydan i’r dwyrain i Barry Island Farm.

    Rhan 7

    Dilynwch y trac i lawr i’r ffordd a chroeswch i’r ochr arall, gan ddringo rhai grisiau llechi i mewn i gae.

    Rhan 8

    Ewch yn syth ar draws y cae, dros gamfa, ac ar hyd y clawdd at gât mochyn. Dilynwch y llwybr hwn yn ôl i Borthgain.

    Man gorffen

    Porthgain, cyfeirnod grid: SM816325 Cod post: SA62 5BP

    Map llwybr

    Y gylchdaith o Borthgain i Abereiddi, Sir Benfro
    Map o’r gylchdaith o Borthgain i Abereiddi | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey 100023974

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr coedwig a thraeth Abermawr 

Dilynwch y gylchdaith fer hon o draeth Abermawr, drwy goedwig clychau’r gog, dolydd a chors.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Golygfa o draeth Abermawr yn Sir Benfro

Cysylltwch

Abereiddi: SA62 6DT, Abermawr: SA62 5UX

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr

Darganfyddwch y Morlyn Glas yn Abereiddi 

Mae Abereiddi yn boblogaidd ar gyfer arfordira a chaiacio ym misoedd yr haf, ond gall cerddwyr fwynhau’r arfordir garw a’r golygfeydd godidog o ben y clogwyni hefyd. Darganfyddwch harddwch y rhan hon o Sir Benfro a’n gwaith i addasu i rymoedd natur.

Yr olygfa o ben clogwyn yn edrych i lawr tua childraeth creigiog sydd bron yn amgylchynu’r Morlyn Glas yn Abereiddi, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel tu draw.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.  (Saesneg yn unig)

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire