Carneddau a Glyderau
CymruProfwch dirlun anial Eryri.
National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ

Ll Ma Me Ia Gw Sa Su Agored
Ar gau
Oriau agor ar gyfer 19 Chwefror 2026
Asset Opening time Cefn gwlad Gwawr - Cyfnos - Ciosg
Ciosg a chanolfan wardeiniaid sydd yn cael ei redeg gan Parc Cenedlaethol Eryri. Mynediad i Gwm Idwal yma, oddi ar yr A5.
- Croeso i gŵn
Caniateir cŵn ar dennyn. Byddwch yn ystyriol o da byw.
- Maes parcio
Parcio yn Llyn Ogwen oddi ar yr A5 - nid Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Toiled
Cyfleusterau toiledau yn Llyn Ogwen - nid yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Lleoliadau mynyddig gyda thirwedd serth, greigiog, gorsiog ac anwastad mewn mannau. Gallai fod ambell i gamfa hefyd.
- Grisiau/tirwedd anwastad
Tir garw, llwybrau anwastad, serth a chul mewn mannau, llwybrau â cherrig, amodau wedi'u dylanwadu gan y tywydd.
- Parcio dynodedig
Parcio hygyrch ym maes parcio Llyn Ogwen. Nid yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg y maes parcio yma.
- Toiled hygyrch
Toiledau hygyrch ym maes parcio Llyn Ogwen. Nid yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg y maes parcio yma.
- Ar y ffordd
- O Fangor / A55, cymerwch yr A5 i gyfeiriad Bethesda. Parhewch drwy Fethesda i Nant Ffrancon nes cyrraedd Llyn Ogwen ar y chwith. O Fetws y Coed teithiwch ar hyd yr A5 i Gapel Curig ac i Llyn Ogwen.Parcio: Mae maes parcio yn Llyn Ogwen (nid parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
- Ar droed
- Llwybrau amrywiol, yn ogystal â Lôn Las Ogwen sy’n rhedeg o Fangor i Gapel Curig.
- Ar y trên
- Gorsaf drên agosaf yw Bangor, 10-12 milltir. Hefyd gorsaf Betws y Coed, 13 milltir.
- Ar fws
- T10 Traws Cymru o Fangor a Bethesda i Lyn Ogwen.
- Beicio
- Llwybr beicio Lôn LasOgwen o Gapel Curig i Fangor.
National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ
Cynllunio eich ymweliad
Ymweld ag Eryri gyda'ch ci
Dilynwch yn ôl troed chwedlau o amgylch Eryri. P'un a ydych am dro hamddenol neu daith gerdded fynyddig, isod mae detholiad o llefydd i flino'r pedwar cymal (a'ch rai chi!).

Uchafbwyntiau
Cadwyni mynyddoedd
Mae’r 21,000 erw, a drosglwyddwyd ym 1951 o ystâd Penrhyn, yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cwm Idwal a naw copa dros 3,000 troedfedd.
Cwm Idwal
Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru, llyn rhewlifol wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd dramatig y Glyderau a Thryfan.
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Cerdded a dringo ar Dryfan
Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.

Prif lwybrau
Taith Cwm Idwal
Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.

Taith gylchol Llyn Ogwen
Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd o Gwm Idwal a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma le mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.

Lleoedd i aros

Tal Y Braich
A cosy stone built cottage in the heart of Eryri (Snowdonia), in the shadow of Tryfan, perfect for adventurers and walkers.

Glan yr Afon
This cosy stone-built farmhouse in the heart of the Eryri (Snowdonia) National Park is the perfect spot for a peaceful retreat.

The Chalet at Tan yr Ogof
Close to Beddgelert and sitting in secluded woodland, this is the perfect base for exploring Eryri (Snowdonia).

Hen Dy
Characterful stone-built cottage on the Hafod Y Llan estate, great for exploring Eryri (Snowdonia).

Y Wenallt
Perfect for walkers, this cosy and simple first-floor escape is in the stunning setting of the Eryri (Snowdonia) mountain range.

Dyffryn Mymbyr Cottage
A rustic but restored cottage with walks from the front door.

Dyffryn Mymbyr Farm House
This restored Victorian farmhouse has mountain views all around.
Digwyddiadau i ddod
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Ynghylch Carneddau a Glyderau
Mae man mynyddig 21,000 erw, a brynwyd ym 1951 o stad y Penrhyn, yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cwm Idwal sy’n enwog am ei phlanhigion Arctig alpaidd. Mae wyth fferm ucheldir tenantiaid ar y tir hwn, naw copa uwch na 3,000 troedfedd a mynydd enwog Tryfan lle bu Edmund Hilary yn hyfforddi i ddringo Everest. Mae’r ardal yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt fel dyfrgwn, llygod y dŵr, merlod gwyllt ac adar prin fel y dotr a’r hebog tramor a lili’r Wyddfa, sy’n brin iawn. Mae’r 100km o lwybrau troed yn boblogaidd gyda 500,000 o gerddwyr bob blwyddyn, ac mae’r tirweddau llwm, ffotogenig wedi bod yn boblogaidd gydag artistiaid a pheintwyr. Fe welwch chi dros 1,000 o safleoedd archeolegol yma gan gynnwys saith heneb gofrestredig.
Hanes
Hanes a chwedlau Cwm Idwal
Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir

Ein gwaith
Harddwch ac etifeddiaeth crawiau yn Eryri
Yn nhirweddau garw Eryri roedd crawiau llechi ar un adeg yn olygfa fwy cyffredin yn yr ardal. Helpwyd y strwythurau nodedig hyn, a wnaed o wastraff llechi, i lunio cymeriad y cefn gwlad gyfagos am genedlaethau.

Creu gweirgloddiau yn Eryri
Mae wardeiniaid yn Eryri’n gweithio’n galed i greu ac adfer glaswelltir llawn blodau yma fydd yn dod â budd i amrywiaeth o fywyd gwyllt o loÿnnod byw i adar prin.

Meddwl fel dafad i blannu coeden
Darllenwch ragor am brosiect sy’n annog wardeiniaid a gwirfoddolwyr yng Nghymru i feddwl fel defaid wrth blannu coed yn Nyffryn Mymbyr, Carneddau a Glyderau, Eryri.
Y newyddion diweddaraf
Gweithdy Pentre - cyfle masnachol ar osod yn Nant Ffrancon, Eryri
Rydym yn hysbysebu cyfle masnachol cyffroes, gyda Gweithdy Pentre ar osod yn Nant Ffrancon, Eryri.

Offer newydd yn helpu dringwyr i warchod rhywogaethau planhigion prin yng Nghwm Idwal
Bydd synwyryddion tymheredd newydd sy’n cael eu gosod yng Nghwm Idwal yn helpu i warchod planhigion prin y Warchodfa Natur Genedlaethol rhag cael eu niweidio yn ystod misoedd y gaeaf.

Mainc arbennig yn nodi hanes cysylltiad a newid yng Nghwm Idwal, Eryri
Tri phâr o ddieithriaid sydd â chysylltiad arbennig â Chwm Idwal yn dod ynghyd i fynegi eu gobeithion a’u hofnau am yr ardal mewn hinsawdd sy’n newid. Mae’r themâu o'u sgyrsiau wedi ysbrydoli mainc wedi'i cherfio'n arbennig i ymwelwyr ei mwynhau, wedi'i lleoli ar hyd y llwybr i'r llyn.
