Porth i ogledd Eryri
Fe’i lleolir ar fan cychwyn ystod eang o lwybrau heicio a dringo yn yr ardal oddi amgylch. Y llwybr mwyaf poblogaidd yw’r llwybr troed i Warchodfa Natur Genedlaethol cyntaf Cymru - y trawiadol Cwm Idwal. Mae’n lyn rhewlifol gyda chefndir mynyddig. Mae’r daith i fyny at y llyn yn lefel eithaf isel (dringfa o oddeutu 100m). Galluoga hyn i filoedd o bobloedd ymgolli yn y mynyddoedd heb orfod mentro’n rhy uchel.
Profiadau awyr agored
O ystyried yr amgylchedd hardd, nid yw’n syndod fod Bwthyn Ogwen wedi’i gysylltu â mynydda. Heddiw, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Outward Bound i gynnig profiad awyr agored cofiadwy i bobl ifainc o ledled y wlad.
Dalier sylw
Nid oes maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y safle. Ond ceir maes parcio Talu ac Arddangos cyfyngedig gan Barc Cenedlaethol Eryri. Yn ystod amseroedd brig fel gwyliau banc a phenwythnosau, mae’n llenwi’n sydyn. Mae gwasanaethau bws tymhorol ar gael.