


Mae Cwm Idwal yn lle atmosfferig iawn, gyda’i greigiau danheddog gwyllt a grëwyd gan dân folcanig a’u naddu wedyn gan rew a’u curo gan y gwynt.
Cliwiau cudd i orffennol dirgel
Nôl yn y gorffennol pell roedd y crochan creigiog o gwmpas y llyn yng Nghwm Idwal yn gorwedd o dan y môr.
Tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl fe gafodd y creigiau hyn eu gwthio i fyny fel rhan o’r ymgodiad tanddaearol enfawr a greodd holl fynyddoedd Eryri. Roedd y mynyddoedd hyn ar un adeg mor uchel â Mynyddoedd Himalaia, ond mae eu copaon wedi cael eu sgwrio a’u treulio gan y gwynt a’r tywydd i’r maint a welwn heddiw.
Charles Darwin yn ymchwilio
Am ganrifoedd roedd hanes ffurfio Cwm Idwal yn ddirgelwch. Ond pan gyrhaeddodd Charles Darwin yma yn 1831 i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei lyfr enwog ond dadleuol ‘On the Origin of Species', fe welodd y cliwiau a fyddai’n helpu rhoi’r eglurhad.
Sylwodd fod y creigiau a’r clogfeini gwasgaredig yn cynnwys ffosiliau bychan o greaduriaid a phlanhigion morol, a ddangosai’n glir eu bod unwaith wedi gorwedd ar wely creigiog y Cefnfor Iapetus.
Ail ddarganfyddiad Darwin
Roedd y darganfyddiadau hyn mor bwysig fel y methodd Darwin a’i gyd-ddaearegwr Adam Sedgwick â sylwi ar gliwiau mwy amlwg fyth i’r bennod arwyddocaol nesaf yn hanes y cwm.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe ddychwelodd Darwin a sylweddoli fod y dirwedd wedi’i cherfio gan rewlifau anferth. Roedd afonydd anferth o iâ wedi gadael cwm ar eu hôl ac mae’r dystiolaeth am y cyfnod hwn wedi ei hysgythru ar bob craig.
Mae Cwm Idwal yn enghraifft berffaith o gwm rhewlifol a daw miloedd o bobl yma bob blwyddyn i astudio’r nodweddion daearegol pwysig.
Yn 1954 dynodwyd Cwm Idwal yn Warchodfa Natur Genedlaethol, y gyntaf yng Nghymru.