Skip to content
Dyfroedd llonydd Llyn Ogwen, yn adlewyrchu mynyddoedd dan eira
Dyfroedd llonydd Llyn Ogwen | © National Trust Images / Joe Cornish
Wales

Taith gylchol Llyn Ogwen

Profwch olygfeydd gwych o Dryfan a’r Glyderau o’r llwybr glan llyn hwn heb orfod mentro ar daith heriol i gopaon Eryri. 

Tir gwlyb a cherdded ar y ffordd

Cofiwch y gall rhan gyntaf y daith fod yn wlyb iawn a chorslyd (yn arbennig yn y gaeaf) tra bod yr ail ran yn dychwelyd ar hyd y briffordd. 

Cyfanswm y camau: 5

Cyfanswm y camau: 5

Man cychwyn

Bwthyn Ogwen a Chanolfan y Wardeiniaid, Nant Ffrancon, Bethesda, LL57 3LZ. Cyfeirnod grid: SH 650603

Cam 1

O Fwthyn Ogwen, croeswch y briffordd a throi i’r chwith, croesi’r bont ac yna troi i’r dde dros y gamfa (bwlch yn y wal).

Golygfa o’r cefn o grŵp o gerddwyr ar y palmant wrth ochr wal gerrig, yn anelu at adeilad carreg
Cychwyn ar y daith | © National Trust

Cam 2

Dilynwch yr afon ar i fyny at y llyn trwy ddringo dros y cerrig mawr, a all fod yn eithaf heriol. Gall fod yn hawdd colli’r llwybr yma, ond daliwch i anelu am y llyn a daw’r llwybr yn fwy amlwg gydag arwyddion cyfeirio yma ac acw.

Cam 3

Dilynwch lan y llyn a’r arwyddion am hanner milltir cyn dringo bryn bychan oddi wrth y llyn. Croeswch y gamfa a mynd yn eich blaen.

Golygfa o’r cefn o ddau gerddwr wrth ochr y llyn yn Llyn Ogwen yn y gaeaf oer, gyda’r llethrau o’u blaenau dan eira
Taith wych ar ddiwrnod oer o aeaf | © National Trust Images / Chris Lacey

Cam 4

Wrth i chi nesáu at y ffermdy wrth ben y llyn, croeswch gamfa arall ac yna cadw i’r chwith tuag at y bont droed a dilyn y llwybr uchaf, sy’n osgoi buarth y fferm ac yna’n croesi camfa cyn mynd i lawr i ymuno â ffordd y fferm.

Cam 5

Dilynwch y ffordd hon oddi wrth y ffermdy nes y cyrhaeddwch chi’r briffordd. Trowch i’r dde a dilyn y palmant ar hyd glan y llyn yn ôl at Fwthyn Ogwen.

Man gorffen

Bwthyn Ogwen a Chanolfan y Wardeiniaid, Nant Ffrancon, Bethesda, LL57 3LZ. Cyfeirnod grid: SH 650603

Map llwybr

Map o daith gylchol Llyn Ogwen
Map o daith gylchol Llyn Ogwen | © National Trust

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith Cwm Idwal 

Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith chwedlonol Dinas Emrys 

Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.2 (km: 3.52)
Gate from Walled Garden in winter at Penrhyn Castle
Llwybr
Llwybr

Taith darganfod natur Castell Penrhyn 

Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Amserlen bws wennol trydan sy'n rhedeg rhwng Bethesda a Chapel Curig, Gwynedd

Bws Ogwen

Ffordd i osgoi problemau parcio a theithio'n fwy cynaliadwy gyda Bws Ogwen, gwasanaeth bws trydan lleol sy'n rhedeg rhwng Bethesda a Chapel Curig. Tocynnau dwyffordd: Oedolyn - £3, plentyn £2 (dan 2 am ddim). Croeso i gŵn. Mynediad cadair olwyn ar gael, e-bostiwch cludiant@ogwen.org i drefnu ymlaen llaw.

Cysylltwch

National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Cerdded a dringo ar Dryfan 

Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.

Walkers climbing rocks against a bright blue sky with the mountains in the distance at Sugarloaf, Monmouthshire

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.