Taith chwedlonol Dinas Emrys

Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin yn troedio unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu. Ar y copa fe welwch adfeilion tŵr sgwâr a muriau amddiffynnol yn perthyn i hen dywysogion Gwynedd.
Eiddo ger
Craflwyn and BeddgelertMan cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, cyfeirnod grid: SH600489Gwybodaeth am y Llwybr
*Taith rwydd ar i fyny yn bennaf gyda darn serth a chreigiog at y diwedd. Am ragor o fanylion, edrychwch ar yr adran Tirwedd.
**Arwyneb anwastad, grisiau a chamfeydd ar hyd y llwybr. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar yr adran Mynediad.
***Croeso i gŵn ar dennyn. Am ragor o fanylion, edrychwch ar yr adran Cyfleusterau.
Mwy yn agos i’r man hwn

Taith bedd Gelert
Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.

Taith Aberglaslyn, Bryn Du a Beddgelert
Taith gylchol trwy goetir hynafol, ar draws golygfeydd mynyddig sydd hefyd yn mynd heibio bedd Gelert ym Meddgelert a Bwlch Aberglaslyn.

Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Dysgwch am chwedl y ddwy ddraig
Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.