Taith Cwm Idwal
Ar y daith hon fe welwch rai o’r golygfeydd mynyddig mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig yn un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol hynaf Cymru.
Edmygwch olygfeydd mynyddig trawiadol
Mae'r daith yn mynd â chi i amgylchedd mynyddig sydd fel arfer yn anhygyrch, a thrwy Gwm Idwal a gerfluniwyd yn hardd gan yr iâ. Yma cewch weld powlen o lyn ar waelod cwm, â’i lond o ddŵr clir ; hwn yw Llyn Idwal. Mae'r safle yn fyd enwog am ffurf y creigiau a'i blanhigion prin a bregus.

Dechrau:
Maes Parcio Ogwen
1
O’r maes parcio, cerddwch i’r dwyrain o gaban y wardeniaid a dilynwch y llwybr o amgylch yr adeilad. Mae’r llwybr yn dringo’n serth am rhyw 56 llath (50m) gan arwain drwy’r grug tuag at giât y mynydd.
2
Ewch drwy’r giât a thros y bont dderw. Cafodd pont newydd ei gosod yn haf 2010; mae hon wedi ei gwneud o bren coed derw digoes wedi’i gynaeafu yn gynaliadwy o Blas Newydd, un arall o safleoedd lleol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r bont yn rhoi cyfle ardderchog i dynnu llun o gopa’r Garn, gydag Afon Idwal yn y blaendir.
3
Mae’r llwybr yn troelli i gyfeiriad de-ddwyreiniol am 550 llath (500m) cyn rhannu’n ddau. Trowch i’r dde tuag at y gorllewin ar hyd y llwybr arwyneb cerrig mwy ffurfiol, a dilynwch y llwybr am 500 llath (500m) eto tuag at y llyn.
4
Ger Lyn Idwal, gallwch ddewis naill ai lwybr sy’n mynd gyda’r cloc neu lwybr gwrthgloc o amgylch y warchodfa natur. Mae’r canllaw hwn yn eich tywys ar hyd y llwybr gyda’r cloc. Cyn i chi gychwyn ar lan ddwyreiniol y llyn, edrychwch i’r chwith, ychydig lathenni uwchben y llwybr. Yno fe welwch gasgliad o greigiau toredig a elwir yn Glogfeini Darwin Idwal.
Clogfeini Darwin Idwal
Cafodd y cerrig hyn, sy’n cael eu hadnabod fel Clogfeini Darwin Idwal, eu dyddodi yn wreiddiol trwy agen rewlifol. Sylwodd Charles Darwin arnynt yn gyntaf yn ystod ei ymweliad â Chwm Idwal yn 1842.
5
Mae’r llwybr yn dilyn glan y llyn i’r de am 550 llath (500m), nes i chi gyrraedd giât yn y wâl. Mae’r wal yno i atal anifeiliaid rhag pori’r warchodfa natur ac i alluogi llystyfiant ucheldir naturiol ail-dyfu. Gyferbyn â’r wal mae yna ynys fechan o greigiau yn y llyn. Mae’r llystyfiant sy’n tyfu yno yn rhoi syniad i ni o sut allai’r Cwm ymddangos mewn blynyddoedd i ddod, heb ddefaid a gwartheg yn pori’n drwm.
6
Ar ôl mynd trwy’r giât mae’r llwybr yn dechrau codi’n raddol wrth i chi ddringo dros dwmpathau o falurion creigiau (marianau) a gafodd eu gadael ar ôl wrth i’r rhewlifau gilio o’r cwm tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
7
Rydych nawr yn nesáu at y Slabiau Idwal enwog, lle bu nifer o fynyddwyr arloesol yn ymarfer – yn cynnwys Edmund Hillary a lwyddodd i ddringo Everest gyda’r Cymro Charles Evans yn aelod o’i dîm. Tua 55 llath (50m) cyn gwaelod Slabiau Idwal dilynwch y llwybr i lawr at ardal wastad, gan ddefnyddio’r cerrig camu i groesi’r nentydd. O.N: Gallwch ddilyn llwybr lefel uwch o’r fan hon trwy ddilyn y llwybr tuag at Slabiau Idwal ac i fyny tuag at waelod y clogwyni uwch eich pen. Cerddwyr bryniau cymwys yn unig ddylai ddilyn y llwybr hwn gan ei fod yn cynnwys tir garw a serth iawn yn ogystal â nentydd anodd eu croesi.
8
Edrychwch i fyny i’r chwith ac fe welwch y clogwyni serth sy’n ffurfio cefnfur Cwm Idwal, sy’n cael ei adnabod fel y ‘Twll Du’.
Twll Du
Yr hafn dywyll yng nghefnfur Cwm Idwal sydd wedi rhoi’r enw Cymraeg i’r clogwyni hyn. Mae’r llethr o dan y clogwyni yn frith o glogfeini anferthol a ddisgynnodd o’r Twll Du, gan ffurfio sgri. Mae’r clogwyni uwchben yn cynnwys creigiau mwy basig sy’n cynnal llawer o blanhigion prin a bregus, yn cynnwys planhigion Arctig-Alpaidd fel lili’r Wyddfa, y derig a sawl aelod o deulu’r tormaen.
9
Mae’r llwybr yn codi’n raddol nes i chi gyrraedd y gyffordd gyda’r llwybr lefel uchaf wrth iddo ddisgyn trwy’r llethr o glogfeini. Trowch i’r dde ar y llwybr hwn a cherddwch i ardal o fryncynnau sydd wedi eu gorchuddio â grug.
10
Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy’r marianau cyn disgyn yn araf tuag at lan y llyn. Unwaith i chi groesi’r bont droed dros Afon Clyd, sy’n llifo’n serth o ddyffryn crog ar eich ochr chwith, ewch trwy’r giât yn y wal. Rydych nawr ar draeth graeanog ar lan ogledd-orllewinol Llyn Idwal. Cymerwch funud i edrych nôl ar gefnfur y Cwm ac i edmygu mawredd yr amffitheatr naturiol hon. Ceisiwch ddychmygu'r ardal yn gorwedd o dan flanced o iâ gannoedd o fetrau o drwch, fel yr oedd 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Marianau rhewlifol
Mae’r bryncynnau sydd wedi’u gorchuddio â grug yn dystiolaeth o farianau rhewlifol, a gafodd eu dyddodi wrth i’r iâ gilio i fyny’r Cwm 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ardal rhwng y llwybr a’r llyn wedi cael ei ffensio er mwyn atal da byw rhag pori yno ac i arbed y gors fawnog rhag cael ei herydu gan bobl. Gallwch weld effaith y pori drwy gymharu trwch y llystyfiant ar ddwy ochr y ffens.
11
Ewch yn eich blaen gan gerdded o gwmpas glan y llyn tua’r dwyrain, nes i chi gyrraedd giât drwy wal, sy’n arwain at bont lechi sy’n croesi Afon Idwal wrth iddi lifo allan o’r llyn. Ar ôl i chi groesi hon, byddwch wedi cwblhau’r daith gylchol o amgylch y llyn ac yna gallwch ddilyn eich camau cyntaf yn ôl i’r maes parcio yn Ogwen.
Diwedd:
Maes Parcio Ogwen