Llwybr at fedd Gelert y ci, Beddgelert
Wrth ddilyn y daith hon fe ddowch i ddeall pam yr oedd Beddgelert mor boblogaidd gyda theithwyr cynnar fel Thomas Pennant ac arlunwyr fel JMW Turner.

Dechrau:
Pont droed dros yr Afon Glaslyn, i’r de o ganol y pentef. Cyfeirnod grid: SH595485
1
Trowch i’r dde cyn y bont droed dros yr Afon Glaslyn a dilynwch y llwybr penodol, amlwg. Mae Eglyws Santes Fair ar eich llaw dde
Eglwys Santes Fair
Credir fod adeilad yr eglwys wedi ymgorffori darnau o Briordy Awgwstinaidd o’r 13eg ganrif. Mae’n debyg nad yw’r caeau o amgylch yr eglwys wedi newid rhyw lawer ers y cyfnod pan oedd mynachod y priordy yn ffermio’r tir.
2
Dilynwch y llwybr ar hyd yr Afon Glaslyn a throwch i’r dde ar hyd y llwybr. Mae’r clawdd sy’n dilyn ymyl y llwybr yn un o’r terfynau cynharaf yn yr ardal hon, Mae’n nodwedd amlwg yn y dirwedd ac mae’n dweud rhywfaint wrthym am y sgiliau traddodiadol a’r dulliau rheoli tir oedd yn cael eu defnyddio ganrifoedd yn ôl. Heddiw mae’n gynefin pwysig i fywyd gwyllt.
3
Trowch i’r chwith ar hyd y llwybr a chroeswch y cae. Byddwch wedyn yn cyrraedd y gofeb garreg ar fedd Gelert y ci.
Bedd Gelert y ci
Mae chwedl Gelert yn sôn am y Tywysog Llywelyn a’i gi fyddlon, nôl yn y 13eg ganrif. Un tro, gadawyd Gelert y ci i warchod baban newydd Llywelyn tra roedd ef allan yn hela. Ar ôl dychwelyd daeth Gelert allan i’w groesawu ond roedd y ci yn waed i gyd. Rhuthrodd y Tywysog i ystafell y baban – roedd y crud yn wag ac olion gwaed ym mhob man. Yn ei dymer fe laddodd Gelert gyda’i gleddyf. Ond eiliadau wedyn fe glywodd ei faban yn crio o gornel y ‘stafell a gwelodd flaidd yn gorwedd yn gelain wrth ei ymyl. Roedd Gelert wedi lladd y blaidd ac achub y baban.
4
Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr ac at Feudy Buarth Gwyn. Mae ‘na gerflun efydd o Gelert y ci yn yr adfail. Bydd y llwybr wedyn yn eich arwain nôl at lan yr afon. Cadwch lygad ar agor am fronwen y dŵr, aderyn bach du a gwyn sy’n plymio i’r afon i hel bwyd. Weithiau fe welwch grehyrod amyneddgar llwyd a gwyn, yn sefyll fel pysgotwyr llonydd. Croeswch is-afon fechan dros bont droed ac fe welwch ynys fach goediog, o’r enw Ynys Dol-leian, yn yr Afon Glaslyn
5
Mae’r enw ‘Ynys Dol-leian’ yn awgrymu bod cymuned Gristnogol wedi bodoli ym Meddgelert ar un adeg. Mae’r afon Glaslyn yn afon bwysig gan fod eogiaid yn silio neu’n bwrw grawn ynddi. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y giât y byddwch chi’n mynd drwyddi yn y fan hon. Ewch ar hyd glan yr afon hyd nes y byddwch chi’n cyrraedd pont droed dros yr afon Glaslyn.
Caeau Bryn Eglwys
Mae Caeau Bryn Eglwys, sydd ar eich llaw dde, yn hafan ar gyfer planhigion ac anifeiliaid gwyllt sy’n byw mewn dolydd llaith. Yn y gwanwyn a’r haf mae’n bosib y gwelwch chi blanhigion fel y gribell felen,llysiau’r-milwr coch, y garwy droellennog a charpiog y gors.
6
Croeswch y bont droed dros yr afon. Roedd hen bont rheilffordd yn arfer croesi’r afon fan hyn, ond cafodd ei chau yn y 1990au. Rhai cannoedd o fetrau i lawr yr afon o’r fan hon mae ceunant dramatig Aberglaslyn. Dilynwch y llwybr wrth iddo droi nôl arno’i hun a dilyn glan yr afon ar yr ochr draw. Yn uchel uwch eich pennau mae Craig y Llan; roedd hwn dan drwch o lwyni ymledol Rhododendron ponticum tan ychydig o flynyddoedd yn ôl.
7
Dilynwch yr afon nôl at Feddgelert ac fe ddowch at giât arall wedi ei gosod mewn wal. Mae’r giât hon wedi ei gwneud o bren lleol. Mae’r llun o drên stêm sydd arni, a hwnnw wedi ei weithio mewn copor, yn adlewyrchu hanes mwyngloddio copor yn yr ardal a’r cysylltiad gyda Rheilffordd yr Ucheldir.
8
Rydych chi nawr yn agos at ddiwedd y daith. Byddwch yn pasio drwy’r giât olaf, sydd unwaith eto wedi ei gwneud o bren lleol. Mae’r giât yn adlewyrchu’r cerfiadau sydd i’w gweld y tu mewn i’r eglwys leol. Wrth i chi ddod nôl mewn i’r pentref fe fyddwch yn pasio lle picnic yng Nghae Gel. Crëwyd hwn i goffáu Alfred Bestall a ddarluniodd gartŵns enwog Rupert the Bear. Roedd yn byw mewn bwthyn gerllaw’r safle picnic.
Diwedd:
Pont droed dros yr Afon Glaslyn, i’r de o ganol y pentef. Cyfeirnod grid: SH595485