Skip to content

Hanes Pen Llŷn

Cloddiau a chaeau bach yn arwain at Fynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, Gwynedd, Cymru
Mynydd Rhiw ym Mhen Llŷn | © National Trust Images/Joe Cornish

Dilynwch drywydd hanes a dysgu mwy am y bobl a’r llefydd sydd wedi siapio Pen Llŷn. Darganfyddwch adeiladau i ymweld â nhw a dysgwch am y dirwedd unigryw.

Eglwys Aberdaron

Dilynwch drywydd hanes a darganfod yr orffwysfa olaf i bererinion cyn iddyn nhw groesi i Ynys Enlli. Dilynwch eu hôl troed ac ymweld ag un o’r llefydd harddaf yng Nghymru. Mae eglwys St Hywyn, neu ‘Gadeirlan Llŷn’, mewn lleoliad trawiadol ar ymyl y traeth ac yn werth ymweliad.

Mynydd Rhiw

Darganfyddwch un o ardaloedd mwyaf toreithiog Pen Llŷn o ran gweddillion archeolegol. Mae siambr gladdu Tan y Muriau a’r amddiffynfa gylch ddwbl ar ben y bryn yn cynnig cipolwg ar sut roedd pobl yn byw ar y penrhyn filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Ffatri fwyeill

Darganfuwyd y ffatri fwyeill ym Mynydd Rhiw yn y 1950au wrth losgi eithin. Tybir bod y safle’n dyddio o rhwng y 5ed a’r 3ydd mileniwm CC (y cyfnod Neolithig).

Mae’n cynnwys nifer o bantiau crwn lle roedd creigiau’n cael eu cloddio a’u naddu i gynhyrchu teclynnau amrywiol, fel bwyeill ac ysgrafellod. Roedd y rhain yn cael eu masnachu’n eang dros gyfnod hir iawn o amser yn ystod y cyfnod Neolithig a dechrau’r Oes Efydd.

Mae hyn yn cynnig cip ar fywyd ar lechweddau Mynydd Rhiw ar ddiwedd Oes y Cerrig. Mae’r gweddillion yn dangos bod y trigolion Neolithig yn chwarela math o graig sy’n arbennig o addas ar gyfer gweithgynhyrchu bwyeill carreg a theclynnau eraill a oedd yn hynod o bwysig i’w ffordd o fyw.

Prosiect Meillionydd

Gwnaeth gwaith cloddio ger Mynydd Rhiw ddarganfod ‘amddiffynfa ddwbl’ gylchol ym Meillionydd.  Lloc pen bryn yw hwn, ac ym Mhen Llŷn y mae’r rhain i’w gweld gan amlaf.  Mae’n cynnwys dau glawdd o bridd a charreg ar ffurf cylch, a dyrnaid o dai crynion mewnol. Roedd y lleoedd caeëdig hyn, fwy na thebyg, yn gartrefi parhaol i nifer o deuluoedd. Roedden nhw hefyd yn safleoedd i’r gymuned ymgynnull.

Mae’r amddiffynfa ddwbl yn adnodd unigryw ar gyfer astudio tarddiad anheddau'r Oes Efydd hwyr a’r Oes Haearn gynnar (tua 1000 – 600CC) - adnodd sydd eto i’w ddefnyddio i’w lawn botensial.

Mae gwaith cloddio gan dîm prosiect Prifysgol Bangor wedi dangos bod olion anheddu ym Meillionydd yn dyddio dros gyfnod hir.  Mae’r ffaith bod pobl wedi byw mewn llociau caeëdig dros gyfnod hir ac wedi ailadeiladu’r tai crynion yn yr un safle yn awgrymu’r awydd i gynnal cysylltiad parhaol â’r gorffennol - gan greu ymdeimlad arbennig o le a hanes ar y safle.

Golygfa o’r traeth a phentref arfordirol Porthdinllaen, Gwynedd, Gogledd Cymru
Pentref arfordirol Porthdinllaen | © National Trust Images/James Dobson

Pistyll

Cafodd yr hen eglwys hynod hon, sy’n swatio mewn dyffryn bach, ei sefydlu yn y chweched ganrif fel gorffwysfa a lloches i Beuno, cenhadwr diflino. Yn ddiweddarach daeth yn llety i bererinion a oedd yn teithio i Ynys Enlli. Mae’r arteffactau’n cynnwys ffynnon o’r 12fed ganrif a gweddillion murlun canoloesol.

Porthdinllaen

Ers canrifoedd, mae’r pentref bach hwn wedi bod yn gyswllt pwysig rhwng trigolion Llŷn a’r môr. Yn enwog am ei benwaig, cysylltodd y lle bach hwn y penrhyn â gweddill y byd drwy fewnforio ac allforio.

O gaer Oes yr Haearn ar y pentir, i’r syniad uchelgeisiol i droi’r harbwr yn brif borthladd rhwng Llundain a Dulyn ar droad y 18fed ganrif, i’r diwydiannau adeiladu llongau a physgota cynhyrchiol a ffynnodd yn ystod y 19eg ganrif, mae llawer o arwyddion o orffennol diddorol yr ardal i’w gweld hyd heddiw.

Golygfa o ffiniau caeau ar lethrau Braich-y-Pwll o Fynydd Anelog ym Mhen Llŷn, Gogledd Cymru
Ffiniau caeau traddodiadol ym Mhen Llŷn | © National Trust Images/Joe Cornish

Patrymau caeau hynafol ym Mhen Llŷn

Roedd llawer o’r dirwedd ar drwyn Pen Llŷn yn cael ei aredig yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae rhai o’r patrymau i’w gweld hyd heddiw ym Mynydd Gwyddal a Phistyll.

Mae’r ffiniau caeau traddodiadol – waliau cerrig a chloddiau – yn nodweddiadol o’r ardal ac yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer. Maen nhw’n gynefin pwysig i fywyd gwyllt hefyd.

Mae’r rhan fwyaf o ffiniau traddodiadol yn dal i wneud yr un gwaith – dangos rhaniadau rhwng eiddo a diogelu cnydau ac anifeiliaid. Ceisiwch ddod o hyd i’r lleiniau cul o gae sydd â chorneli lletach ar un pen lle byddai’r aradr wedi cael ei throi.

Mae’r ffiniau hefyd yn goridorau bywyd gwyllt pwysig, gan gynnig lloches a diogelwch i rywogaethau nad ydynt yn gallu goroesi ar dir agored. Mae’r ffiniau yn aml yn bwysig o safbwynt hanes a bywyd gwyllt, sy’n dyst i’r dulliau adeiladu sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Heddiw, rydym yn rheoli’r cloddiau’n ofalus i ddiogelu’r nodwedd draddodiadol hon.

Visitors walking among daffodils at Dora's Field, Ambleside, Cumbria

Ble fydd eich ymweliad nesaf?

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Bottlenose dolphin (Tursiops truncatus) adult in August, rolling over backwards in Moray Firth, Inverness-shire, Scotland, UK
Erthygl
Erthygl

Bywyd gwyllt Pen Llŷn 

Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar, darganfod bywyd gwyllt y gwlyptir neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.

Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn 

Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.

Tŷ a gardd ym Mhlas yn Rhiw ar ddiwrnod braf gyda’r bae yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Lleoliadau Llŷn 

Dysgwch fwy am yr ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn. Yn gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn, ei nod yw rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol.

Porth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd. Plant yn ‘Y Golau’
Lle
Lle

Porth y Swnt 

Dysgwch mwy am Ben Llŷn ym Mhorth y Swnt dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Pwllheli, Cymru.

Pwllheli

Yn hollol agored heddiw
Tu allan i Gastell Penrhyn ar ddiwrnod braf

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.