Skip to content

Casgliadau yng Nghymru

Dyfrlliw o Edward Herbert, yr Arglwydd Herbert 1af o Cherbury (1581/3-1648), gan Isaac Oliver, yn dangos dyn mewn dwbled a tharian yn gorffwys ger nant mewn coetir wedi ei amgylchynu gan goed gyda’i weision a’i geffyl yn y cefndir
Dyfrlliw o Edward Herbert, Arglwydd Herbert 1af o Cherbury gan Isaac Oliver | © National Trust Images/Todd-White Art Photography

O balasau bendigedig i beiriannau diwydiannol a thrysorau teuluol, mae casgliadau cyfoethog ac amrywiol i’w darganfod ym mhob cwr o Gymru. Ymwelwch â rhai o’r llefydd arbennig rydym yn gofalu amdanynt a darganfod trysorau cudd, straeon teuluol a chyfrinachau y tu ôl i’r llenni.

Casgliadau yng Ngogledd Cymru

Golygfa o’r Salŵn yng Nghastell y Waun, gyda nenfwd aur addurnedig iawn, harpsicord o bren golau, y simnai a’r soffas dolennog â’r cadeiriau cefn hirgrwn i gyd-fynd â nhw, â’r pedwar tapestri yn hongian ar y waliau
Y Salŵn yng Nghastell y Waun yng Nghymru | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel
Casgliad Castell y Waun
Pan mae teulu’n byw yn yr un lle am 400 mlynedd, maen nhw’n cronni casgliad amrywiol o gelf, dodrefn a rhyfeddodau. Mae’r trysorau yng Nghastell y Waun yn cynnwys Cwpwrdd y Brenin, a roddwyd i Syr Thomas Myddleton II gan Siarl II i ddiolch iddo am ei rôl yn adfer y frenhiniaeth, a Chist Lledr Garw Siapaneaidd o tua 1600 gyda phaneli cain yn dangos golygfeydd o anifeiliaid, planhigion a thai.Darganfyddwch gasgliad Castell y Waun
Y Beibl Cymraeg cyntaf
Mae’r beibl Cymraeg cyntaf bellach yn rhan o’r casgliad diddorol yng Nghastell y Waun. Hwn yw’r llyfr pwysicaf yn hanes Cymru ac fe’i hysgrifennwyd gan yr Esgob William Morgan a aned mewn tŷ arall rydym yn gofalu amdano, Tŷ Mawr Wybrnant, Eryri. Wedi’i gyhoeddi ym 1588, gosododd y safon ar gyfer iaith nad oedd iddi unrhyw statws swyddogol ar y pryd, ac fe’i canmolir fel yr un peth a achubodd yr iaith rhag difodiant.
Casgliad Erddig
Yn Erddig y mae ail gasgliad mwyaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gyda chyfanswm o 30,000 o eitemau i ofalu amdanynt, mae’n dipyn o her i’r tîm o gadwriaethwyr a gwirfoddolwyr, a dweud y lleiaf. Mae’r darn mwyaf diddorol o’r casgliad yn cynnwys portreadau, ffotograffau a barddoniaeth sy’n dathlu gweision Erddig. Wedi’u cofnodi dros gyfnod o 200 mlynedd, nid oes unrhyw beth tebyg yn bodoli ledled y byd.Darganfyddwch gasgliad Erddig
Casgliad Plas yn Rhiw
Yn wreiddiol o Nottingham, prynwyd Plas yn Rhiw gan y tair chwaer Eileen, Lorna ac Honora Keating ym 1938. Roedd eu cariad at eu cartref a Phen Llŷn yn fythol, ac mae’r casgliad personol hwn yn ategu’r fath naws. Darganfyddwch gasgliadau o ddodrefn, dillad cain a tsieni o’r 1930au, yn ogystal â chasgliad hyfryd o weithiau celf.Darganfyddwch gasgliad Plas yn Rhiw

Casgliadau yng Nghanolbarth Cymru

Yr Ystafell Giniawa Swyddogol gyda’i phaneli pren yng Nghastell Powis, Powys, Cymru, gyda bwrdd bwyta hir a chadeiriau ar garped sy’n goch yn bennaf. Portreadau ar y waliau, a phortread o Violet Lane Fox, Iarlles Powis, gan Ellis Roberts ar y chwith.
Yr Ystafell Fwyta Swyddogol yng Nghastell Powis, Powys, Cymru. Portread o Violet Lane Fox, Iarlles Powis, gan Ellis Roberts ar y chwith. | © National Trust Images/James Dobson
Y casgliad yng Nghastell a Gardd Powis
Trawsnewidiwyd Castell Powis, a fu unwaith yn gaer ganoloesol fygythiol, yn gartref teuluol cyfforddus gyda chasgliad sy’n adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau newidiol y teulu Herbert. Darganfyddwch weithiau celf neilltuol gyda phaentiadau, cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia. O gerflun marmor o gath a gerfiwyd yn Rhufain yr Henfyd i bortread bychan cain Isaac Oliver o Syr Edward Herbert wedi’i addurno â metelau gwerthfawr, mae cyfoeth o drysorau i’w darganfod.Darganfyddwch gasgliad Castell a Gardd Powis
Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis
Mae’r amgueddfa’n gartref i gasgliad preifat mwya’r DU o arteffactau o Dde a Dwyrain Asia. Mae’n cynnwys mwy na 1,000 o eitemau a gasglwyd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dysgwch am rôl Robert Clive yn yr East India Company a sut y dylanwadodd ar ddiddordebau Prydeinig yn yr isgyfandir Indiaidd, gan elwa’n ariannol a materol yn y broses.Darganfyddwch gasgliad Amgueddfa Clive
Casgliadau Llanerchaeron
Darganfyddwch gasgliadau diddorol, a roddwyd i’r wlad gan ddau gasglwr brwd i bawb eu mwynhau. Yn y fila fe welwch dros bum mil o eitemau rhyfeddol o siop hen bethau Pamela Ward. Ac yn y tiroedd, daw hanes amaethyddol Cymru’n fyw o flaen eich llygaid gyda chasgliad Geler Jones - a arferai fod yn un preifat - o drysorau amaethyddol, diwydiannol a domestig o’r oes a fu.Darganfyddwch gasgliadau Llanerchaeron
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o gennin Pedr yn yr ardd gyda Chastell Powis ar y bryn yn y cefndir ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Tu allan i Gastell Penrhyn ar ddiwrnod braf

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Rhywun yn sleisio mewn i gacen Victoria sponge

Llefydd i fwyta a siopa yng Nghymru 

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.