Parc Ceirw Marloes

Merlod yn pori ar y Parc Ceirw

Nôl yn Oes yr Haearn roedd pobl yn byw yn y Parc Ceirw, ym mhen pellaf penrhyn Marloes. Heddiw, dyma’r llecyn gorau ar y penrhyn i wylio morloi yn y baeau islaw ac i ddysgu mwy am hanes.

Gallwch ddringo lan trwy furiau amddiffynnol y  gaer Oes Haearn yn y Parc Ceirw. Mae’n dyddio’n ôl dros 2,000 o flynyddoedd a dyma’r enghraifft fwyaf yn Ne Cymru o gaer ar benrhyn.

Gyda’r fath safle arfordirol sy’n sefyll yn uchel dros y tir a’r môr o’i amgylch, mae’n hawdd gweld sut roedd y gaer yn cael ei hamddiffyn mor dda.

Parc Ceirw heb geirw ...

Er gwaetha’r enw, does dim ceirw yma. Rhoddwyd cynnig ar sefydlu parc ceirw yma ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ond methiant oedd y cwbl.

Yn hytrach, chwiliwch am forloi ac adar; mae digon i’w gweld yn yr ardal. Fe welwch forloi llwyd a’u morloi bach ar y glannau ar ddiwedd yr haf ac mae sawl pâr o frain coesgoch yn nythu yn yr ardal hon hefyd.

Mae’r gweundir arfordirol yn cynnig digon o liw a theimlad o fod mewn ardal wyllt wedi ei chreu gan natur. Ond i gynnal y cynefin yn y cyflwr gorau posibl, mae merlod mynydd Cymreig hefyd yn pori yma.

Video

Marloes Deer Park

Join National Trust Ranger Matt Thompson as he explains why it's such a special place for seals, seascapes and taking a break from it all.


Pwynt Wooltack –Panorama Wych

Ym mhen draw’r Parc Ceirw mae Pwynt Wooltack; mae’n rhaid i chi ddod yma i weld yr olygfa banoramig o Fae Sant Ffraid a’r morlun ehangach. Cewch chi ddim mo’ch siomi!

Gerllaw mae hen gwt ceidwaid y glannau; y ‘National Coastwatch Institute’ sy’n gyfrifol am hwn erbyn hyn.