
Mae tirwedd Marloes yn gyfuniad lliwgar o arfordir a chefn gwlad gyda thraethau anferth a gwlyptir llawn bywyd gwyllt. Gallwch dreulio oriau yma os y’ch chi’n dwlu bod ar y traeth neu’n hoffi gwylio adar a bywyd gwyllt – ac mae’n hawdd cyrraedd y cyfan.
Traeth Marloes
Mae’r traeth ei hun yn dywodlyd ac yn ddiogel ar gyfer nofio a sblashio. Dyma un o draethau gorau Sir Benfro ac mae’n hawdd cyrraedd ato o’n maes parcio ar y safle.
Ewch am dro ar lan y môr ac fe welwch mai tywodfaen gwaddodol yw’r graig ar ochr ddeheuol y penrhyn. Mae’r pyllau llanw yn wych yma hefyd, ac maen nhw’n gartref i bob math o anifeiliaid y môr.
Cors Marloes
Yng nghanol y penrhyn, ac yn agos at y maes parcio, mae darn o dir gwlyb sy’n llawn bywyd gwyllt – Cors Marloes. Mae’n werth rhoi cynnig ar wylio bywyd gwyllt yma, felly cofiwch eich binocwlars a swatiwch yn un o’r cuddfannau sy’n edrych dros y safle.
Mae’r Gors yn bwysig oherwydd yr adar sy’n nythu, yn ymfudo ac yn gaeafu yma. Mae adar dŵr ac adar ysglyfaethus i’w gweld yn aml yn ystod misoedd y gaeaf ac yn y gwanwyn mae’r gors yn llawn sŵn adar yn canu.