Mae’r elusen gadwraethol wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW) i fonitro poblogaeth adar drycin Manaw ar yr ynys, a gofnodwyd ddiwethaf yn 1998 pan ddigwyddodd cyfrifiad Adar Môr 2000.
Ynghyd â’r ynysoedd cyfagos, Sgomer a Sgogwm, mae ynysoedd sir Benfro yn gartref cydnabyddedig i gytrefi magu mwyaf y byd o adar drycin Manaw, ac mae tua 50 y cant o boblogaeth y byd yma.
Mae monitro cytref yr adar drycin Manaw yn hanfodol ar gyfer asesu iechyd y boblogaeth, deall statws gadwraethol ein adar môr sydd o bwys rhyngwladol, ynghyd ag effaith newid hinsawdd ar amgylcheddau morol.
Dau ddegawd yn ôl roedd 3,000 pâr o adar drycin Manaw yn magu ar yr ynys bellennig hon sy’n gorwedd ger Penrhyn Marloes.
Dyna pam fod monitro’r rhywogaeth mor bwysig nawr, meddai James Roden, ceidwad ardal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Sir Benfro: “Trwy gyflawni’r cyfrifiad hwn, ein gobaith yw gweld bod poblogaeth adar drycin Manaw wedi aros yn gyson neu gynyddu, gan gyfateb i’r hyn ry’n ni wedi ei weld ar ynysoedd cyfagos Sgomer a Sgogwm.
“Er bod ynys Middleholm lawer yn llai na’r ynysoedd cyfagos hyn, mae’n dal i gynnal canran arwyddocaol o boblogaeth adar drycin Manaw y DU, fel sy’n cael ei gydnabod trwy ei dynodiad fel Ardal o Warchodaeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
“Wrth i ni weld nifer o gytrefi adar môr o gwmpas y DU mewn trafferthion, mae’n hanfodol cynnal cyfrifiadau, ac ry’n ni’n hapus i weithio ar y cyd â WTSWW i gyflawni hyn.”