Skip to content
Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Ymwelydd yn cerdded ym Mae Cemlyn, Ynys Môn | © National Trust Images/John Millar
Wales

Taith Esgair Gemlyn

Dewch ar daith ar hyd cefnen o raean a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cemlyn. Bydd y daith gylchol hon yn eich arwain ar draws cefnen o raean a ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr a’r rhai sy’n chwilio am fywyd gwyllt. Mae croeso i gŵn ymuno â chi hefyd.

Llifogydd

Mae maes parcio Bryn Aber a’r bont sy’n arwain at Esgair Gemlyn yn gallu mynd dan ddŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw uchel cyn eich ymweliad.

Cyfanswm y camau: 5

Cyfanswm y camau: 5

Man cychwyn

Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936

Cam 1

Ewch allan o’r maes parcio a throi i’r chwith, dros y bont ac ar yr esgair o raean. Ffurfiwyd Esgair Gemlyn gan broses drifft y glannau.

Cam 2

Cerddwch ar hyd yr Esgair at faes parcio’r dwyrain. Ar y dde i chi mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cemlyn, cynefin i adar môr sy’n bwysig yn rhyngwladol. Mae mynediad i’r Esgair yn cael ei gyfyngu pan fydd y môr-wenoliaid yn nythu, mae’r ardal hon yn cael ei gwylio gan Wardeiniaid Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Môr-wenoliaid pigddu aeddfed ac ifanc ar draeth cerigos yn Blakeney Point, Norfolk
Nythfa o fôr-wenoliaid pigddu | © National Trust Images / Ian Ward

Cam 3

Pan fyddwch yn cyrraedd y maes parcio ar ben dwyreiniol yr Esgair, trowch i’r dde a cherdded i lawr y lôn heibio fferm Tyddyn Sydney.

Cam 4

Yn y gyffordd, cadwch i’r dde a cherdded ar hyd y lôn heibio fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas Cemlyn.

Cam 5

Trowch i’r dde ar y gyffordd a dilyn y lôn yn ôl dros yr Esgair a heibio Bryn Aber, yn ôl i’r maes parcio.

Man gorffen

Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936

Map llwybr

Map taith ar gyfer taith ar gefnen raean, Cemlyn, Cymru
Map taith ar gyfer taith ar gefnen raean, Cemlyn | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa ar draws Afon Menai i Blas Newydd o Lan Faenol, Ynys Môn, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol 

Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Cwpl yn cerdded yn yr ardd ym Mhlas Newydd gyda mynyddoedd yn y cefndir
Llwybr
Llwybr

Taith cilfachau cudd Plas Newydd 

Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Machlud dros fae eang Cemlyn
Llwybr
Llwybr

Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn 

Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Llwybr
Llwybr

Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys 

Dilynwch y daith gylchol dair milltir hon yng Nghemlyn, Ynys Môn, i weld golygfeydd o’r môr, ffurfiannau’r creigiau, safleoedd crefyddol a bywyd gwyllt. Gall ymwelwyr lwcus hyd yn oed weld morloi, ac os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)

Cysylltwch

Cemlyn Nature Reserve, Cemlyn, Cemaes Bay, Anglesey, LL67 0DY

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Erthygl
Erthygl

Gwylio adar yng Nghemlyn 

Ewch am dro ar hyd arfordir garw gogledd Ynys Môn er mwyn gweld os gallwch chi adnabod yr amrywiaeth eang o adar anarferol sy’n ymweld â’r ardal.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Two walkers and one person using an all-terrain mobility vehicle look out from a grassy hill, across the sea and to a coastal town
Erthygl
Erthygl

Cyngor ar gerdded ar yr arfordir 

Darllenwch gyngor ar gerdded ar yr arfordir, gan gynnwys y dillad a'r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch a beth i'w wneud cyn dechrau arni. (Saesneg yn unig)

Walkers climbing rocks against a bright blue sky with the mountains in the distance at Sugarloaf, Monmouthshire

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)