Skip to content
Teras yr Orendy a Chastell Powys uwchlaw, Cymru
Teras yr Orendy a Chastell Powys uwchlaw, Cymru | © National Trust Images/Joe Wainwright
Wales

Taith gerdded hanesyddol Castell Powis

Grwydro Powis ar y llwybr cerdded hardd hwn. Ymlwybrwch ar hyd terasau Eidalaidd, o gwmpas yr ardd ffurfiol a thrwy goetir y Gwyllt. Mae digon o fannau i chi orffwys ar hyd y ffordd, a gallwch gael diod boeth a thamaid o gacen fel gwobr ym Mwyty’r Cwrt ar y diwedd.

Angen tocyn mynediad

Er mwyn dod i mewn i’r ardd, bydd angen i chi gasglu tocyn mynediad o’r Swyddfa Docynnau ym Mhowis.

Cyfanswm y camau: 6

Cyfanswm y camau: 6

Man cychwyn

Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369

Cam 1

Casglwch eich tocyn mynediad o’r swyddfa docynnau ac ewch i mewn i’r ardd. Dilynwch y llwybr, gan droi i’r chwith ar y pen. Ewch ymlaen ar y llwybr hwn ar y Teras Uchaf sy’n cynnig golygfeydd gwych ar draws yr ardd, Dyffryn Hafren a Bryn Breiddin.

Cam 2

Ar ben y teras, ewch i lawr y grisiau ar y dde i chi i Deras y Tŷ Adar. Gofalwch sylwi ar y cerfluniau o’r 18fed Ganrif o fugeiliaid yn dawnsio sy’n addurno’r balwstrad cyn mynd i lawr y grisiau nesaf i Deras yr Orendy. Ar y gwaelod, dilynwch y llwybr ar y chwith sy’n eich arwain trwy’r gwrych yw anferth.

Y ffin lysieuol 'oer' ar Deras yr Orendy yng Nghastell Powis, Cymru
Y ffin lysieuol 'oer' ar Deras yr Orendy yng Nghastell Powis, Cymru | © National Trust Images/Mark Bolton

Cam 3

Daliwch i fynd ar hyd y llwybr sy’n mynd ar i lawr rhwng dau wrych yw. Ar y gwaelod, trowch i’r chwith i’r Ardd Ffurfiol. Dilynwch y llwybr yn syth ymlaen, yna trowch i’r dde ar ben draw’r llwybr. Bydd hyn yn eich arwain heibio ein cartref gwyliau Y Bwthyn, adeilad du a gwyn ffrâm bren oedd yn gartref i arddwyr Powis yn y cyfnod Edwardaidd. Daliwch i fynd ar hyd y llwybr gan edmygu’r coed afalau 100 mlwydd oed wrth i chi fynd heibio iddyn nhw. Trowch i’r dde ac yna i’r dde eto i gwblhau eich taith o gwmpas yr ardd ffurfiol.

Cam 4

Wrth i chi adael yr ardd ffurfiol, trowch i’r chwith i ddilyn y llwybr syth rhwng dau wrych pren bocs tal. Ar y pen, trowch i’r dde ac yna i’r chwith yn union wedyn. Ar y dde fe welwch risiau bas fydd yn eich arwain i’r Gwyllt, coetir ffurfiol Powis. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn, gan aros yn y llannerch ar y dde i edmygu’r olygfa hardd o’r castell, terasau a’r Lawnt Fawr.

Cam 5

Daliwch i fynd hyd y llwybr, gan droi i’r dde yn y fforch. Dilynwch y llwybr hwn trwy goetir y Gwyllt, gan sylwi ar y golygfeydd o’r castell wrth fynd.

Cam 6

Wrth i chi gyrraedd Pwll y Stabl, ewch ymlaen gan gadw’r pwll ar y chwith i chi. Pan gyrhaeddwch chi’r groesffordd, cymrwch y llwybr mwyaf serth a fydd yn eich arwain yn ôl at y fynedfa i’r ardd. Ar ôl eich taith, mae croeso i chi wobrwyo chi eich hun gyda bwyd poeth a diod o Fwyty’r Cwrt.

Man gorffen

Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369

Map llwybr

Map yn dangos llwybr a grisiau taith y gaeaf yng Nghastell Powis
Taith y gaeaf yng Nghastell Powis | © National Trust/Robert Polley

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa ar draws tirwedd hydrefol
Lle
Lle

Castell a Gardd Powis 

Darganfyddwch ardd restredig Gradd I a chastell canoloesol gyda chasgliad eang o arteffactau De Asiaidd yng Nghastell a Gardd Powis yng Nghanolbarth Cymru.

Welshpool, Powys

Yn hollol agored heddiw
Wyneb Castell Powis yn dangos dilyniant y terasau oddi tano gyda’r yw anferth yng Nghastell Powis, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith hydref Castell Powis 

Wrth i’r aer oeri, daw’r ardd, y coetir a’r terasau yng Nghastell Powis yn fyw o liwiau’r hydref. Mwynhewch y dail yn crensian ac aroglau’r coed afalau ar y daith gerdded hawdd hon.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Spring apple blossom with a lawn and the red stone medieval Powis Castle behind, Welshpool, Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Powis 

Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Platiaid o gacennau cri ar gownter, gydag arwydd yn dweud ‘Welsh cakes/Cacen gri’, a phentwr o sgons yn y caffi yng Nghastell Powis, Cymru
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Powis 

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

A small white dog sat at a café table
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell a Gardd Powis gyda'ch ci 

Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 4 Medi - 28 Chwefror.

Walkers climbing rocks against a bright blue sky with the mountains in the distance at Sugarloaf, Monmouthshire

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.