Taith gerdded pentir Rhosili
Wrth gerdded ar hyd y pentir mae golygfeydd godidog ar draws Bae Rhosili ac i Ben Pyrod, cyn troi nôl drwy'r Vile, lle mae gweddillion tirwedd hynafol.

Dechrau:
Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
1
Gyda’ch cefn at yr arhosfan bws, trowch i’r dde a cherdded ar hyd y ffordd gan fynd yn eich blaen rhwng y maes parcio a Gwesty’r Worms Head. Mae siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ychydig yn bellach lawr ar y chwith.
Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Roedd siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn arfer bod yn un o fythynnod gwylwyr y glannau.
2
Wrth edrych i’r dde fe welwch chi draeth Rhosili sydd yn dair milltir o hyd. Bu’r llanw nerthol a symudiadau’r tywod yn gyfrifol am sawl llongddrylliad. Gallwch weld gweddillion yr Helvetia hyd heddiw ar draeth Rhosili, pan fydd y llanw isel.
3
Daliwch i ddilyn y llwybr drwy’r gât sydd ar y llwybr gwastad.
4
Ar ochr dde’r llwybr mae cyfres o dwmpathau. Dyma olion caer o Oes yr Haearn. Mae golygfeydd godidog o’r fan hon ac felly gallai trigolion y gaer weld eu gelynion am filltiroedd i bob cyfeiriad.
5
Wrth i chi barhau i gerdded ar hyd y trac fe welwch gaeau a chloddiau ar eich llaw chwith. Roedd rhain yn rhan o system o gaeau agored, cul, o’r Canol Oesoedd. Y Normaniaid gyflwynodd y system hon o ffermio yn y 12fed ganrif.
6
Pan fydd y llwybr gwastad yn troi’n sydyn i’r chwith, cerddwch yn syth ymlaen gan ddilyn y llwybr llydan drwy’r gwair at adeilad gwylwyr y glannau. Yma cewch olygfa wych o Ben Pyrod. Codwyd adeilad gwylwyr y glannau yn Oes Fictoria a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yma heddiw.
Pen Pyrod
Daw’r enw Saesneg ‘Worm’s Head’ o’r gair Llychlynnaidd ‘Wurm’ sy’n golygu sarff neu ddraig.
7
O’r man gwylio, trowch i’r chwith ar hyd pen y clogwyni i ymuno â’r llwybr sy’n rhedeg wrth ochr wal gerrig. Mae’r llwybr yn mynd lawr llethr byr at gât mochyn. Ar y chwith i chi, ochr draw i’r wal, mae ardal sy’n cael ei hadnabod fel y Vile.
Y Vile
Mae’r Vile yn enghraifft brin o system o gaeau agored, cul, o’r Canol Oesoedd sydd wedi goroesi hyd heddiw. Y Normaniaid a gyflwynodd y system hon yn ystod y 12fed ganrif.
8
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr gan ddilyn y wal. Ar ôl ychydig o funudau bydd y llwybr yn disgyn yn eithaf serth, ac yna dilynwch y wal wrth iddo droi’n sydyn i’r chwith. Dilynwch y llwybr sydd ag ôl traul arno, gan ddringo’n raddol. Byddwch yn ofalus o’r cerrig sy’n aml yn llithrig. Gwrandewch am gân y bras melyn ar y rhan hon o’r llwybr. Maen nhw’n aml i’w gweld ar frigau uchaf llwyni’r ddraenen ddu, yn edrych yn hardd iawn yn eu plu melyn ac yn reit debyg i ganeri.
9
Cadwch at y chwith a bydd y llwybr yn dod â chi yn y pen draw at ysgol fetel a grisiau pren sy’n codi dros wal. Croeswch dros y wal a dilyn y llwybr wrth iddo fynd nôl i mewn i’r tir at Middleton. Cyn i chi gyrraedd Middleton trowch ar eich union i’r chwith pan gyrhaeddwch y fforch yn y llwybr a cherdded nôl drwy’r Vile i bentref Rhosili, ac at ddiwedd y daith.
Diwedd:
Pentref Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881