Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Taith gerdded heriol drwy ddyffryn cudd. Cewch ddarganfod byd dirgel o ogofâu calchfaen, afonydd tanddaearol a choetir hynafol, cyn dod nôl i olau dydd ar un o draethau harddaf, diarffordd Penrhyn Gŵyr. Gall y rhai mwyaf sylwgar ddod o hyd i goed fel y gerddinen wyllt.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes Pentref Kittle, cyfeirnod grid: SS573893
Cam 1
Gan ddechrau ym maes pentref Kittle, cerddwch heibio i arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan gadw fferm Great Kittle ar eich ochr dde, a dilynwch y llwybr i lawr i’r coed. Mae’r llwybr yn mynd i lawr am ryw 0.25 milltir (0.4km) a gall fod yn llithrig ar ôl glaw. Pan gyrhaeddwch chi fforch yn y llwybr, cadwch i’r chwith gan fynd lawr y grisiau nes i chi gyrraedd ffens ar y dde.
Cam 2
Ewch ymlaen i lawr y llethr serth i’r gwaelod a throi i’r dde ar hyd gwely sych yr afon. Croeswch yr afon er mwyn cerdded ar yr ochr chwith, gan gymryd gofal ar arwyneb anwastad y llwybr am ryw 200 llath (180m). Mae’r llwybr yn croesi nôl dros yr afon i’r ochr arall yn y fan yma.
Cam 3
Mae’r llwybr fel arfer yn fwdlyd yma. Gwrandwch am sŵn yr afon wrth i chi agosáu at Guzzle Hole.
Cam 4
Gallwch weld mwynglawdd Long Ash ar y chwith. Cynhyrchwyd arian a phlwm yma hyd at 1854. Mae rhwystr wedi ei osod er mwyn gwarchod mannau clwydo ystlumod pedol mwyaf a lleiaf. Mae gweddillion hen fythynnod y cloddwyr gerllaw hefyd.
Cam 5
Croeswch yr afon a dringo ychydig o risiau, gan gadw at yr ochr chwith.
Cam 6
Cyn hir byddwch yn dod ar draws un o dair pont sy’n croesi’r afon ar hyd y dyffryn. Roedd y dyffryn unwaith yn lle prysur yn darparu bwyd, tanwydd a gwaith i nifer o bentrefi cyfagos ac mae nifer o lwybrau’n dal i gysylltu cymunedau â’r goedwig. Peidiwch â chroesi’r bont, ond ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr ar lan yr afon. Cadwch lygad am yr hen waliau cerrig ar y dde wrth i chi gerdded; mae’r rhain yn olion o gyfnod pan roedd anifeiliaid yn pori yn y dyffryn a phan roedd llawer llai o goed yma nag sydd heddiw.
Cam 7
Dilynwch y llwybr i mewn i’r ddôl o’ch blaen. Mae dolydd gwlyb y dyffryn wedi eu cofrestru’n dir comin. Mae gwartheg yn pori’r dolydd, ac maen nhw’n gynefin i sawl math o flodau gwyllt. Dilynwch y llwybr wrth iddo arwain allan o’r ddôl a throi nôl i ddilyn glan yr afon. Cyn hir byddwch yn cyrraedd pont arall, ond peidiwch â’i chroesi – ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr nes i chi gyrraedd fforch.
Cam 8
Wrth y fforch, cadwch i’r chwith. Cyn hir byddwch yn cyrraedd troad i’r dde yn y llwybr; ewch ymlaen ar hyd y llwybr wrth ochr yr afon gan ddilyn yr arwydd i Fae Pwll Du.
Cam 9
Ewch heibio’r ffens sydd ar ochr y llwybr a phan gyrhaeddwch y fforch dilynwch y llwybr i’r chwith i lawr y rhiw. Peidiwch â chroesi’r bont. Pan gyrhaeddwch yr ardd breifat trowch i’r chwith a cherdded at y traeth.
Man gorffen
Dyffryn Llandeilo Ferwallt, cyfeirnod grid: SS573893
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Cylchdaith Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Crwydrwch glogwyni a dyffrynnoedd coediog arfordir De Gŵyr ar y daith gerdded heriol hon. Ymysg yr uchafbwyntiau mae caer o oes yr haearn a thoreth o blanhigion prin.
Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.
Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)