Taith arfordirol Penmaen Dewi
Dewch i archwilio pentir arfordirol mwyaf trawiadol Sir Benfro ychydig o filltiroedd yn unig o ddinas leiaf Cymru, Tŷ Ddewi.
Galwch heibio’r siambr gladdu Neolithig sy’n 4,000 o flynyddoedd oed
Edrychwch draw dros forlun llawn ynysoedd bychain o bentir creigiog, gwyllt sy’n llawn olion cynhanesyddol a chasgliad rhyfeddol o fywyd gwyllt ar y gylchdaith arfordirol ac arw hon.

Dechrau:
Maes parcio traeth Porth Mawr, cyf grid: SM734272
1
O faes parcio Porth Mawr, ewch drwy fwlch yn y clawdd ar ôl mynd heibio Capel Sant Padrig. Dringwch lethr tywodlyd i gyrraedd llwybr y clogwyn. Ar ôl tua ½ milltir (0.8km) fe gyrhaeddwch giât fochyn ac arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol arni. Daliwch i fynd at gopa’r bryn.
2
O’r fan hon, mae Coetan Arthur i’w weld yn erbyn yr awyr. Crëwyd Penmaen Dewi o graig folcanig hen iawn; mae rhan ohoni’n dyddio’n ôl bron i 500 miliwn o flynyddoedd. Cynrychiolir y ddaeareg hon orau gan Garn Llidi, y brigiad garw uwchben, ac yn ynysoedd creigiog Ynys Dewi a’r Bishops and Clerks rai milltiroedd allan i’r môr. Mae ein prif lwybr yn dilyn yr arfordir, yn disgyn i’r cwm o’ch blaen ar hyd cyfres o stepiau llydan nes cyrraedd ffynnon uwchben bae bychan Porth Melgan. Mae dewis o lwybr arall yn anelu i fyny’r rhiw yn raddol o gylch cefn Carn Llidi gyda golygfeydd braf tua’r dwyrain, neu fe all y rhai mwy anturus sgramblo i gopa’r bryn hwn.
3
Croeswch y nant ger pont a throi i’r dde neu tua’r gogledd ddwyrain i gerdded i fyny’r cwm hwn. Fe all yr ardal hon fod yn llithrig ac yn fwdlyd yn y gaeaf.
4
Ar eich llaw dde mae ardal gorsiog gyda thwmpathau o laswellt y gweunydd sy’n wyrdd yn yr haf ac yn lliw arian-frown yn y gaeaf. Yn uwch i fyny, ar lethrau Carn Llidi, gallwch weld patrymau caeau hynafol. Chwiliwch am adar fel clochdar y cerrig, corhedydd y waun ac ehedydd yn y gwelyau cyrs a helyg. Mae’r telor Dartford prin hefyd wedi cael ei weld yn y blynyddoedd diwethaf.
5
Ar y pwynt uchaf fan hyn mae copa Pen Beri ac ehangder Bae Ceredigion yn ymddangos yn y pellter. Dau bentir i ffwrdd, tua’r gogledd, mae goleudy Pen Strwmbwl gyda chopa Garn Fawr uwchben. Ewch i lawr i ailymuno â llwybr yr arfordir a throwch i’r chwith tuag at Benmaen Dewi.
Rhostir arfordirol
Mae grug ac eithin yn troi Penmaen Dewi yn garped llachar o liw porffor ac aur ar ddiwedd yr haf. Maen nhw hefyd yn darparu cartref i loÿnnod byw, gwyfynod a chwilod, yn ogystal ag adar fel clochdar y cerrig a’r llinos. Mae hyd at 50 o ferlod mynydd Cymreig yn pori Penmaen Dewi. Maen nhw’n cynnal y llystyfiant agored a’r amodau priodol fel bod planhigion y gweundir arfordirol, fel grug, eithin a’r aurfanhadlen flewog, yn gallu ffynnu.
6
Ar y llwyfandir gwelir creiglun agored rhyfeddol. Adlewyrchir meini dyfod danheddog ar y tir gan broffil garw Ynys Dewi allan yn y môr. I’r gogledd o Ynys Dewi mae’r Bishops and Clerks, ynysoedd bychain; mae un yn gartref i oleudy mawr. Oddi ar y lan, efallai y gwelwch chi lamhidyddion neu ddolffiniaid yn chwarae yn y tonnau.
Adar y clogwyni
Mae amrywiaeth o adar yn nythu ar y clogwyni yma bob haf, o’r hebog tramor i’r gigfran ac o’r wennol ddu i’r frân goesgoch. Mae Penmaen Dewi tua 15 milltir (24km) o Ynys Gwales, un o nythfeydd huganod mwyaf y byd, lle mae 34,000 pâr o huganod yn nythu. Yn aml fe welwch huganod yn bwydo’n agos at Benmaen Dewi, gan blymio fel gwaywffyn gloyw i’r môr wrth hela mecryll.
7
Yn raddol mae’r llwybr hwn yn mynd heibio Coetan Arthur ac yna’n gostwng at gaer arfordirol o Oes yr Haearn ar ben draw’r pentir. Ewch ymlaen ar lwybr yr arfordir, gan ddychwelyd i Borth Melgan. Gallwch ddilyn eich llwybr o’r fan hon yn ôl i draeth Porth Mawr.
Coetan Arthur
Siambr gladdu Neolithig sy’n dyddio o oddeutu 4000CC yw Coetan Arthur. Mae ganddi gapfaen anferth sydd bron i 20tr (6m) o led, sy’n cael ei gynnal gan garreg ochr dros 3tr (1m) o uchder. Dyma sut y codwyd hi, mwy na thebyg, gydag un pen yn gorffwys ar y ddaear, fel megalith daearol. Mae’n efelychu ffurf Carn Llidi y tu ôl iddi. Mae hanes cynhanesyddol cyfoethog i’r arfordir hwn. O’ch cwmpas hefyd mae gweddillion patrymau caeau hynafol, caeau wedi eu hamgáu a llechweddau amddiffynnol.
Diwedd:
Maes parcio traeth Porth Mawr, cyf grid: SM734272