Walking

Llwybr cerdded

Llwybr syfrdanol Pen Dinas

Llwybr cerdded

Taith gerdded gylchol sy’n cynnwys dringfeydd a disgynfeydd serth er mwyn gallu mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau ar hyd arfordir Sir Benfro. Dyw hon ddim yn daith hir ond bydd hi’n brawf ar eich ffitrwydd ac yn rhoi digon o esgus i chi aros i edmygu’r olygfa bob hyn a hyn.

Golygfa bell o ymyl gorllewinol Pen Dinas

Map

Dinas Island OS map

Dechrau:

Maes parcio Pwllgwaelod. Cyf.grid : SN 005398

1

O draeth Pwllgwaelod, trowch i’r chwith a dringo’r rhiw gan ddilyn arwyddion y Llwybr Arfordir. Wrth y grid gwartheg trowch i’r chwaith trwy giât fochyn.

2

Mae’r llwybr yn dechrau dringo’n serth yn weddol glou, a bydd rhaid i chi fynd lan 40 o stepiau. Byddwch yn cerdded drwy ardaloedd o eithin a grug. Ar ôl dringfa go serth byddwch yn cyrraedd stigill, ac fe fydd y llwybr wedyn yn haws. O’r fan hon fe gewch chi olygfa hyfryd dros Fae Abergwaun.

Darllen mwy

3

Bydd y llwybr yn dechrau mynd yn serth eto ac wrth i chi droi cornel fe welwch chi Ben-y-Fan, sef pwynt uchaf Pen Dinas, o’ch blaen. Bydd Trefdraeth yn dod i’r golwg ar eich ochr dde. Ar eich ochr chwith, tu hwnt i Abergwaun, fe welwch chi Garreg Wastad lle glaniodd y Ffrancwyr yn ystod eu goresgyniad olaf o Brydain yn 1797

4

Arhoswch am sbel wrth Orsaf Trignometreg yr Arolwg Ordnans (Pwynt Trig yr OS) i orffwyso a mwynhau’r golgyfeydd tua’r gogledd a chlogwyni Pen-yr-Afr ac i mewn i’r tir tuag at Fynyddoedd y Preseli. Chwiliwch am gopa garw Carn Ingli uwchben Trefdraeth

Darllen mwy

5

Lawr yr allt yw hi o fan hyn, mwy neu lai – ond mae’r llwybr yn serth. Dilynwch y llwybr i lawr yr allt. Tua 55 llath (50m) ar ôl giât fochyn mae’r llwybr yn rhannu. Mae’r prif Lwybr Arfordir yn mynd i lawr y llethr ar eich llaw chwith – gallwch ei weld e’n dilyn ar hyd pen y clogwyni. Os yw hwn yn edrych dipyn bach yn rhy fentrus i chi gallwch ddilyn llwybr llydan ar hyd y ffens ar eich ochr dde. Mae’r ddau lwybr yn ail-ymuno yn bellach ‘mlaen.

6

Chwiliwch am Garreg y Nodwydd islaw. Mae adar môr yn nythu yma ar ddechrau’r haf.

Darllen mwy

7

Mae bae Cwm-yr-Eglwyd yn dod i’r golwg. Ewch drwy’r giât fochyn sy’n arwain at ddarn cysgodol o lwybr. Ond cymerwch ofal – mae creigiau a gwreiddiau coed yn gwneud y llwybr yn anwastad

8

Mae pont bren fechan yn arwain at y ffordd. Dilynwch hon lawr i Gwm-yr-Eglwys a hebio’r toiledau ar eich ochr dde. Edrychwch ar weddillion yr eglwys a ddinistriwyd yn storm y Siarter Frenhinol yn 1859. Rhwng 25 Hydref (pan gollwyd y Siarter Frenhinol) a 9 Tachwedd fe ddrylliwyd 325 o longau ac fe gollwyd 748 o fywydau mewn stormydd o gwmpas arfordir Prydain

9

Dilynwch y llwybr ar hyd ochr dde’r iard gychod, lle mae arwydd Pwllgwaelod 2/3 milltir. Cerddwch yn syth yn eich blaen a thrwy’r maes parcio, ar hyd ambell garafan ar eich ochr dde. Fe welwch y llwybr wrth ymyl panel o bren solet yn y gornel dde bellaf.

10

Cerddwch drwy’r dyffryn yn ôl i Bwllgwaelod, ar hyd llwybr tarmac. Gyda lefel y môr yn codi bydd Pen Dinas yn ynys rhyw ddydd.

Diwedd:

Maes parcio Pwllgwaelod. Cyf.grid : SN 005398

Rydych wedi cyrraedd

Yn dilyn y daith ar ffôn symudol neu dabled? Rhannwch eich profiad.

Llwybr syfrdanol Pen Dinas

Tirwedd

Cau

LLwybr arfordirol creigiog, serth, yn tynnu lan ac yn disgyn yn serth mewn mannau, gyda stepiau, stigillau a giatiau mochyn

Llwybr syfrdanol Pen Dinas

Cysylltwch â ni

Cau
Llwybr syfrdanol Pen Dinas

Sut i gyrraedd yma

Cau
Cyfeiriad
Dinas Island, Pembrokeshire
Ar drên

Gorsaf Abergwaun ac Wdig 6 milltir (9.6 km), gweler Traveline-Cymru m ragor o wybodaeth.

Ar y ffordd

A487 ffordd Tŷ Ddewi – Abergwaun. Cymerwch y troad i Bwllgwaelod a Bryn-henllan, i’r GogDdn o bentref Dinas. SA42 0SE.

Ar fws

Bws Gwennol Pen Strwmbwl 404, Tŷ Ddewi i Abergwaun, dewch o’r bws ym mhentref Dinas 1 filltir (1.6km) neu edrychwch ar Traveline-Cymru i gael mwy o wybodaeth.

Ar feic

Llwybr 47 NCN Abergwaun 6 milltir (9.6 km) neu Llwybr 82 NCN Aberteifi 6 milltir (9.5km), gweler  Sustrans.

Llwybr syfrdanol Pen Dinas

Cyfleusterau a mynediad

Cau
  • Croeso i gŵn ar dennyn – da byw gerllaw
  • Tafarn, Parcio a Thoiledau ym Mhwllgwaelod (nid ydynt yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  • Parcio a thoiledau yng Nghwm yr Eglwys
  • Lle gwersylla a bythynnod gwyliau ar Fferm Pen Dinas (dan reolaeth tenantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)