Taith gerdded Pen Anglas
Cylchdaith oddi ar lwybr yr arfordir o Wdig ar draws rhostir arfordirol garw, i gyrraedd y ffurfiadau craig folcanig ryfeddol ar bentir Pen Anglas.
Dewch i ddarganfod daeareg drawiadol ar daith arfordirol gyda’r teulu
Gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion a llwybr sy’n bosib ei gerdded yn droednoeth, dyma daith antur wyllt i bob aelod o’r teulu.

Dechrau:
Cylch troi ym Mhentre’r Harbwr, cyf grid: SM948392
1
Dilynwch Lwybr Arfordir Sir Benfro o’r cylchdro ar ben draw’r heol ym Mhentre’r Harbwr. Mae’r llwybr yn cwympo’n serth gyda golygfeydd hyfryd dros Harbwr Abergwaun.
2
Wrth y giât law o bren, trowch i’r chwith ac anelu tua’r gogledd. Cadwch lygad ar agor am gigfrain a hebogiaid tramor.
Bae Abergwaun a Harbwr Wdig
Mae morglawdd Harbwr Wdig yn ymestyn allan am 900m o’r clogwyni islaw. Agorwyd yr harbwr yn 1906 ac am amser byr roedd yn borthladd trawsatlantig.
3
Mae’r llwybr yn cyrraedd giât fochyn gydag arwydd omega’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (‘Pen Anglas’). Peidiwch â mynd drwy’r giât hon – cadwch i’r dde, gan gadw’r postyn a’r ffens weiar ar eich llaw chwith. Dilynwch y llwybr am 325 llath (300m) nes cyrraedd stigill.
4
Ewch dros y stigill i dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dilynwch y llwybr drwy’r grug a’r eithin tuag at Ben Anglas. Mae’r llwybr yn mynd heibio dau gae bychan a amgaewyd gyda chloddiau cerrig sych rhyw 200 mlynedd yn ôl.
Gweundir arfordirol
Mae grug ac eithin y gweundir arfordirol yn cael ei gadw’n fyr gan wynt cryf, heli’r môr, gwartheg yn pori ac ambell dân.
5
Wrth hen bostyn a oedd yn arfer helpu llongau i lywio’u taith yn ddiogel, trowch i’r dde i ddilyn y stribyn atal tân am 300 llath (270m) tuag at y môr
Gweundir arfordirol a thaith droednoeth
Cyfle i ddeffro eich synhwyrau wrth gerdded yn droednoeth ar hyd y stribyn atal tân rhwng Cyfeirbwynt 5 a 6. Mae’r llwybr ar hyd canol y stribyn atal tân wedi ei wisgo’n feddal ac yn fawnog gydag ychydig o lystyfiant isel, gro a brigiadau creigiog. Byddwch yn ofalus a byddwch yn barod i faeddu eich traed. Fe deimlwch chi gysylltiad uniongyrchol gyda naws wyllt yr ardal a byddwch hefyd yn gallu gosod tic wrth ymyl un o’r ‘50 Peth i’w gwneud cyn i chi fod yn 11¾’.
6
Dilynwch y llinell o arwyddion morlywio at bentir Pen Anglas. Tu mewn i’r adeilad bach o frics mae uchelseinydd niwl yr harbwr. Efallai y cewch gipolwg ar forloi llwyd ym mae Pen Anglas, i’r gorllewin.
Y dirwedd folcanig
O amgylch yr uchelseinydd niwl mae creigiau folcanig. Islaw’r obelisg carreg mae ardal o golofnau chweochrog o fasalt sydd yr un fath â’r rhai a welir ar y Giant’s Causeway yng Ngogledd Iwerddon ac ar ynys Staffa, Ynysoedd Heledd.
7
Trowch a dilyn eich llwybr am yn ôl. Ewch yn syth ymlaen heibio’r arwydd morlywio yng Nghyfeirbwynt 4. Ewch ar draws man glaswelltog i ail-ymuno â llwybr Arfordir Sir Benfro cyn dringo’n raddol tua’r tir.
8
Dilynwch lwybr yr arfordir drwy droi i’r chwith wrth weddillion tŷ sydd â llystyfiant drosto (Crincoed). Dilynwch y llwybr glaswelltog am 65 llath (50m) nes cyrraedd Cyfeirbwynt 3, sef y giât mochyn gydag arwydd omega’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (‘Pen Anglas’). Dilynwch eich taith yn ôl i Bentre’r Harbwr.
Diwedd:
Cylch troi ym Mhentre’r Harbwr, cyf grid: SM948392