Crwydro Cwm Ivy
Bachwch eich binocwlars a ffwrdd â chi i weld y morfa heli newydd hwn sy’n llawn bywyd gwyllt. Mae’r llwybr yn pasio dwy guddfan adar ac mae digon o gyfle yma i weld bywyd gwyllt diddorol. Chwiliwch am ddyfrgwn, glas y dorlan ac adar y dŵr. Cofiwch fod y llwybr dros y wal fôr wedi cau.

Dechrau:
Maes parcio Cwm Ivy (SA3 1DJ)
1
Dechreuwch o’r maes parcio yng Ngwm Ivy. Trowch i’r dde i fynd ar y ffordd ac ewch i lawr y lôn fechan (cofiwch roi arian yn y blwch gonestrwydd yn gyntaf).
2
Cerddwch drwy’r pentref nes cyrraedd giât yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r arwydd ‘Coed Cwm Ivy’ arni.
3
Ewch trwy’r giât a dilyn y llwybr i lawr yr allt. Mae’n troi i’r dde ac ar eich chwith mae craig Cwm Ivy.
Wrth i chi gerdded i lawr yr allt, edrychwch i’r chwith i weld golygfeydd o’r safle. Fe welwch forfa heli Cwm Ivy ac yna’r wal fôr hynafol, a thu hwnt i hynny fe welwch forfa heli Llanrhidian. Tir comin yw morfa heli Llanrhidian; mae’r defaid sy’n ei bori yn cynhyrchu cig oen y glastraeth.
4
Dilynwch y llwybr wrth iddo wyro i’r dde drwy giât ac arwain ar hyd ymyl planhigfa goed. Byddwch yn mynd heibio Burrows Cottage ar y chwith. Cadwch at y llwybr nes cyrraedd cuddfan adar Montrey ar y dde. Beth am daro mewn, ac efallai cewch chi weld rhai o ryfeddodau bywyd gwyllt Cwm Ivy.
Cafodd y guddfan adar ei henwi ar ôl y coed conwydd cam a throellog sydd ar ymyl y llwybr. Coed conwydd arfordirol, estron yw coed pinwydd Monterey. Chwiliwch am dyllau cnocell y coed yn y coed marw.

5
O’r fan hyn gallwch gario ymlaen at Dwyni Whiteford neu gerdded yn ôl ar y llwybr at bentref Cwm Ivy a’r maes parcio.
6
Ychydig cyn i chi gyrraedd y giât yn ôl i’r pentref, ewch i’r chwith a dilyn y llwybr drwy goedwig llydanddail Cwm Ivy (sy’n cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt) nes cyrraedd cuddfan adar Cheriton.
Nôl yn 2013, caeau pori ffrwythlon oedd yr ardal sydd i’w gweld o’r guddfan. Ychydig iawn o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol oedd yn tyfu ac yn byw yma. Ers bylchu’r wal fôr, mae’r trawsnewid wedi bod yn syfrdanol. Erbyn heddiw, mae’r amrywiaeth gynyddol o blanhigion a physgod yn y pyllau llanw yn denu rhagor o fywyd gwyllt. Os byddwch yn amyneddgar, ac yn ddigon lwcus, efallai y gwelwch chi ddyfrgwn, glas y dorlan a digonedd o adar y dŵr. Mae boda’r gwerni, sy’n aderyn ysglyfaethus prin, yn hela yma hefyd.

7
Cariwch ymlaen i’r dde ar ôl gadael y guddfan adar a dilyn y llwybr drwy’r goedwig llydanddail sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
8
Wrth i chi gyrraedd y pentref, trowch i’r chwith i fynd ar y ffordd ac ewch yn ôl i fyny’r allt at y maes parcio.
Diwedd:
Maes parcio Cwm Ivy (SA3 1DJ)