Llwybr cylchol crib bedol Bannau Brycheiniog
Rhowch gynnig ar y llwybr ucheldirol cylchol heriol hwn gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng nghalon Bannau Brycheiniog, Cymru. Mwynhewch olygfeydd godidog tua Phen y Fan ac i Gwm Sere. Cadwch olwg am garnedd gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o feysydd tanio milwrol.
Paratowch am dywydd newidiol
Mae map a chwmpawd, dillad gwrth-ddŵr, chwiban a thortsh i gyd yn hanfodol ar gyfer y llwybr hwn, gan fod y tywydd yn newidiol iawn yn y mynyddoedd hyn.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio Taf Fechan, cyfeirnod grid: SO038169
Cam 1
Gan ddechrau o faes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth (cyf. grid SO038169), cerddwch ar hyd y ffordd i’r hen dŷ pwmpio yng Nghronfa Neuadd Isaf (cyf. grid SO033180). Cerddwch ar hyd ochr chwith y gronfa, drwy gât, a dilynwch ddisgynfa serth i grib Graig Fan Ddu.
Cam 2
Ar ôl i chi ddal eich gwynt, trowch i’r dde a dilynwch y grib tuag at Gorn Du. Wrth i chi gerdded tua’r gogledd ar hyd y grib, mae Cribyn, Pen y Fan a Chorn Du i gyd yn dod i’r golwg.
Cam 3
Wrth i chi nesáu at Gorn Du ym Mwlch Duwynt, mae’r llwybr yn arwain i’r dde am Ben y Fan (tra bod y llwybr i’r chwith yn mynd am y Storey Arms. Bydd y llwybr sy’n mynd syth ‘mlaen yn mynd â chi dros ail gopa uchaf y Bannau (873m)). Cerddwch at y garnedd gladdu o’r Oes Efydd.
Cam 4
Gan barhau ar grib Corn Du, disgynnwch i gyfrwy’r mynydd ac yna i fyny i Ben y Fan. Ar y chwith mae Cwm Llwch a Llyn Cwm Llwch.
Cam 5
Ar gopa Pen y Fan, rydych chi’n sefyll ar y pwynt uchaf yn ne gwledydd Prydain. Mae’n hawdd gweld pam mae’r lle hwn mor boblogaidd gyda cherddwyr.
Cam 6
O Ben y Fan, mae ‘na ddisgynfa serth o’r copa tan i chi gyrraedd llwybr pygfaen sy’n mynd â chi i lawr Craig Cwm Sere ac i fyny’r ddringfa serth i gopa Cribyn.
Cam 7
Wrth y garnedd ar fynydd Cribyn, trowch i’r dde a dilynwch y grib ar hyd cefn Cribyn. Mae rhai darnau o’r llwybr hwn braidd yn gorsiog, lle mae’r mawn wedi’i amlygu a dechrau erydu. Mae hyn yn amlwg mewn nifer o lefydd o gwmpas y Bannau.
Cam 8
Ewch i lawr y rhiw tan i chi gyrraedd Ffordd y Bwlch. Hwn oedd y llwybr cyntaf a alluogodd gerbydau a dynnwyd gan geffyl i groesi’r mynyddoedd. Ffordd Rufeinig ydyw, yn ôl y sôn, er nad oes unrhyw dystiolaeth archeolegol wedi’i darganfod eto.
Cam 9
Trowch i’r dde i Ffordd y Bwlch a dilynwch y llwybr hwn yr holl ffordd yn ôl i fyny i’r maes parcio, a’ch man cychwyn.
Man gorffen
Maes parcio Taf Fechan, cyfeirnod grid: SO038169
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du
Dilynwch y llwybr mynyddig cylchol, heriol hwn ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog.
Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech
Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.
Taith Glyn Tarell Uchaf
Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.
Cysylltwch
Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Crwydro Pen y Fan a Chorn Du
Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.
Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech
Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)