Skip to content
Golygfa o Lyn Tarell Uchaf o’r hen Ffordd Gerbydau ar ddiwrnod heulog, Bannau Brycheiniog, Cymru
Glyn Tarell Uchaf, Bannau Brycheiniog | © National Trust/Simon Rutherford
Wales

Taith Glyn Tarell Uchaf

Follow a glaciated valley down the 18th-century metalled track which was once the main road from the Midlands to Cardiff. This circular 5-mile walk follows a section of the Taff trail and is packed with history, passing the remains of farmsteads once inhabited during the heyday of the coach road. Enjoy views of the Brecon Beacons with the soaring cliffs of Craig Cerrig-Gleisiad National Nature Reserve along the way.

Dewch o hyd i goed hynafol

Mae llawer o goed hynafol i’w gweld o’r hen ffordd gerbydau sy’n rhedeg i’r gogledd o’r Storey Arms, gan gynnwys coed gwern, coed bedw, criafolennau a choed derw.

Cyfanswm y camau: 9

Cyfanswm y camau: 9

Man cychwyn

Storey Arms, cyfeirnod grid: SN982203

Cam 1

Dechreuwch eich taith o’r Storey Arms, y ganolfan addysg awyr agored. Cofiwch nad yw’r adeilad at ddefnydd y cyhoedd. Gan wynebu’r ganolfan, dilynwch y trac i’r chwith – hon yw’r hen ffordd gerbydau o Aberhonddu i Ferthyr. Ewch i lawr y dyffryn tuag at Aberhonddu, gan basio drwy gât ger grid gwartheg nes i chi gyrraedd gât ar draws y trac ei hun.

Cam 2

Ewch drwy’r ail gât, i lawr y rhiw ar hyd y ffordd gerbydau, gan gadw golwg am arwydd ar y chwith i’r Hostel Ieuenctid. Ewch drwy gât y cae wrth yr arwydd, gan groesi’r cae yn lletraws i’r chwith, i lawr at Afon Tarell.

Cam 3

Croeswch yr afon dros y bont bren. Ychydig uwchben y bont mae gweddillion siambr gladdu o’r Oes Efydd. Trowch i’r chwith ar unwaith a dilynwch y llwybr, gan gadw’r afon i’r dde ohonoch, nes i chi ddod at gamfa.

Cam 4

Croeswch y gamfa a dringwch lethr serth byr. Rydych chi nawr ar dir Fferm Tŷ Mawr, sy’n cael ei rhedeg gan denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dilynwch y llwybr, gan gadw Afon Tarell i’r dde ohonoch bob amser, am oddeutu 1.5 filltir (2.4km). Byddwch yn croesi sawl camfa, pont a chae, ac ymyl buarth Tŷ Mawr.

Cam 5

Ym mhen pellaf Fferm Tŷ Mawr fe groeswch gamfa drwy glawdd lle mae’r llwybr yn arwain at bont dros Afon Tarell. Ar ôl croesi’r bont, fe ddewch at ffordd darmac. Trowch i’r dde a dringwch i fyny a heibio’r bythynnod gwyn, Old Glanrhyd. Gan barhau’n syth yn eich blaenau, dilynwch y ffordd am tua 300m nes i chi gyrraedd y fynedfa i Goed Carno, gyda bwrdd mynediad i’r dde. Yn y fan hon, yn dilyn camau 6 a 7, mae gennych yr opsiwn i ddilyn llwybr ychwanegol drwy’r coetir lled-hynafol at chwarel segur lle cewch olygfeydd panoramig o Lyn Tarell, ac yna yn ôl i lawr i ailymuno â’r hen ffordd gerbydau. Fel arall, ewch i gam 8.

Cam 6

Hen dafarn a bragdy’n gwasanaethu’r hen ffordd gerbydau yn ôl yn y 18fed ganrif yw bythynnod Glanrhyd. Byddai’r porthmyn yn gadael eu defaid dan ofal eu meibion, yn agos at yr afon (mewn arWrth y fynedfa i Goed Carno, ewch drwy’r gât fechan. Dilynwch drac y coetir sy’n ymdroelli’n raddol i fyny’r bryn tan ei fod yn gwahanu. Ar y pwynt hwn, ewch i’r chwith ac ar ôl 100m croeswch nant fechan sy’n llifo dros y trac. Ewch i’r dde, i fyny’r bryn, a chadwch olwg am yr arwydd sy’n eich cyfeirio at y llwybr sy’n dilyn nant Beddagi. Byddwch yn ofalus ar y rhan hon o’r daith oherwydd mae’r llwybr yn gul, creigiog a llithrig mewn mannau. Mae llwybr y nant yn ailymuno â’r trac ymhellach i fyny. Ar y pwynt hwn, croeswch y trac, gan ddilyn y llwybr yn ôl i’r coetir, dros hen wal gerrig. Dilynwch y llwybr hwn nes i chi groesi ail wal gerrig gyda chamfa’n arwain at fryn agored. dal sydd wedi’i nodi gan gylch o goed pinwydd) ac yn mynd i’r dafarn am y nos.

Cam 7

Ar y pwynt hwn, arhoswch yn y coetir gan ddringo i fyny’r bryn gyda’r wal ffiniol i’r chwith ohonoch. Ar ôl tua 100m byddwch yn dod at y chwarel segur, lle mae golygfeydd panoramig o’r dyffryn. Byddwch yn ofalus – mae llethrau serth yma. O’r chwarel, mae’r llwybr yn dilyn y wal ffiniol, gan groesi’n ôl ac ymlaen sawl gwaith, gan barhau i lawr y rhiw nes cyrraedd camfa sy’n arwain at drac. Croeswch y trac yn ôl i mewn i lyn coediog, gan ddilyn y llwybr i lawr y rhiw, dros y nant nes i chi gyrraedd grisiau pren yn arwain yn ôl i’r hen ffordd gerbydau. Trowch i’r chwith. Nawr dilynwch gam 9, gan anwybyddu cam 8.

Cam 8

Gan basio Coed Carno, ewch ar hyd y ffordd nes i chi gyrraedd Ffermdy Blaenglyn, fferm sy’n cael ei rhedeg gan denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gan gadw adeiladau’r fferm i’r dde ohonoch, fe ddewch at ben y ffordd darmac – cadwch i’r chwith ar y trac cerrig. Wrth i chi ddringo’r trac yn raddol, byddwch yn pasio ail adeilad i’r dde ohonoch – dyma ganolfan ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a byncws Dan y Gyrn, sydd ar gael ar gyfer penwythnosau i ffwrdd a gwyliau gwaith. Yn fuan wedi pasio Dan y Gyrn fe welwch risiau pren i’r chwith. Dyma lle mae cylchdaith Coed Carno yn ailymuno â’r llwybr.

Cam 9

Rydych chi nawr yn ôl ar drac metlin caregog yr hen ffordd gerbydau. Dilynwch y llwybr hwn yr holl ffordd yn ôl i fyny i’r Storey Arms.

Man gorffen

Storey Arms, cyfeirnod grid: SN982203

Map llwybr

Map o daith Glyn Tarell Uchaf, Bannau Brycheiniog, Cymru
Map o daith Glyn Tarell Uchaf | © Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o lethrau Corn Du ym Mannau Brycheiniog yn dangos y llethr serth ac erydiad llwybr troed
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du 

Dilynwch y llwybr mynyddig cylchol, heriol hwn ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 4 (km: 6.4)
Ymwelydd yn tynnu llun o raeadr gyda’i ffôn tra’n sefyll ar glogwyn bach uwchben pwll o ddŵr yn Rhaeadr Henryd ym Mannau Brycheiniog, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech 

Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3.5 (km: 5.6)
Golygfa ar draws y dyffryn o Ben y Fan, Bannau Brycheiniog, Cymru 
Llwybr
Llwybr

Llwybr cylchol crib bedol Bannau Brycheiniog 

Llwybr ucheldirol cylchol heriol sy’n eich tywys i grombil y Bannau a’r golygfeydd gorau. Mwynhewch olygfeydd godidog tua Phen y Fan ac i Gwm Sere, a chadwch olwg am garnedd gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o feysydd tanio milwrol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 10 (km: 16) to milltiroedd: 0 (km: 0)

Cysylltwch

Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Dyfroedd Rhaeadr Henrhyd, Powys, yn tasgu i lawr wyneb y graig i’r pwll oddi tano. Mae canghennau mawr yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech 

Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winters day.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.  (Saesneg yn unig)

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.