Skip to content
Golygfa o lethrau Corn Du ym Mannau Brycheiniog yn dangos y llethr serth ac erydiad llwybr troed
Y llwybr troed rhwng Corn Du a Phen y Fan | © National Trust Images/Paul Harris
Wales

Taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du

Llwybr mynyddig cylchol, heriol ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog. Os yw’r tywydd yn caniatáu, cewch olygfeydd o dref Aberhonddu ac, ar ddiwrnod clir, copa Cader Idris.

Paratowch am dywydd newidiol

Mae map a chwmpawd, dillad gwrth-ddŵr, chwiban a thortsh i gyd yn hanfodol ar gyfer y llwybr hwn, gan fod y tywydd yn newidiol iawn yn y mynyddoedd hyn.

Cyfanswm y camau: 5

Cyfanswm y camau: 5

Man cychwyn

Maes parcio Pont ar Daf, cyfeirnod grid: SN988199.

Cam 1

Dilynwch y llwybr troed ar ochr ddeheuol y maes parcio, ewch drwy’r gât mochyn a chroeswch y bont bren dros yr afon. O’r fan yma, dilynwch y llwybr i fyny’r rhiw tuag at Fwlch Duwynt.

Cam 2

Ar ôl i chi gyrraedd Bwlch Duwynt, dilynwch y llwybr troed (sy’n pwyntio’n fras i gyfeiriad 11 o’r gloch) sy’n arwain ar draws llethr deheuol Corn Du. Cyn pen dim, fe gyrhaeddwch y cyfrwy rhwng Corn Du a Phen y Fan. O’r fan yma, mae golygfeydd trawiadol i’r de, drwy Gwm Neuadd i’r argaeau uwchben Merthyr Tudful. Dilynwch y llwybr i gopa mynydd uchaf de Prydain – Pen y Fan – ar 2,906 troedfedd (886m).

Cerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Cymru.
Cerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Cymru. | © National Trust Images/Paul Harris

Cam 3

Ar ôl i chi orffen edmygu’r olygfa, aildroediwch y llwybr yn ôl i’r cyfrwy rhwng Pen y Fan a Chorn Du, ac ewch i’r dde, gan ddringo’r llwybr meini i gopa Corn Du. Mae’r llwybr i’r chwith ohonoch yn mynd yn ôl i Fwlch Duwynt ac i’r maes parcio. Ar ôl i chi gyrraedd copa Corn Du, dilynwch y llwybr i’r dde, gan ddilyn y grib.

Cam 4

Gadewch Gorn Du o’r pen gogleddol a dringwch i lawr y darn serth i gyrraedd y llwybr meini islaw, sy’n arwain at yr obelisg. Aildroediwch y llwybr yn ôl o’r obelisg, lle mae’r llwybr yn rhannu. Dilynwch y llwybr caniataol i lawr tua’r nant, Blaen Taf Fawr. Ar ôl croesi’r nant, ewch i fyny’r rhiw, gan ddilyn y llwybr i’r gât ar y Gyrn.

Cam 5

Daliwch i ddilyn y llwybr ac ewch i lawr tua’r Storey Arms. Dilynwch y llwybr tarmac o flaen Canolfan Addysg y Storey Arms at gât mochyn, sy’n mynd â chi at drac sy’n arwain yn ôl i’r maes parcio.

Dechrau llwybr Ffordd y Bannau yn mynd o Bont ar Daf tuag at Ben y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymru
Llwybr Ffordd y Bannau o Bont ar Daf | © National Trust Images/Chris Lacey

Man gorffen

Maes parcio Pont ar Daf, cyfeirnod grid: SN988199

Map llwybr

Map taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du, Bannau Brycheiniog
Map taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du, Bannau Brycheiniog | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o Lyn Tarell Uchaf o’r hen Ffordd Gerbydau ar ddiwrnod heulog, Bannau Brycheiniog, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith Glyn Tarell Uchaf 

Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5 (km: 8)
Golygfa ar draws y dyffryn o Ben y Fan, Bannau Brycheiniog, Cymru 
Llwybr
Llwybr

Llwybr cylchol crib bedol Bannau Brycheiniog 

Llwybr ucheldirol cylchol heriol sy’n eich tywys i grombil y Bannau a’r golygfeydd gorau. Mwynhewch olygfeydd godidog tua Phen y Fan ac i Gwm Sere, a chadwch olwg am garnedd gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o feysydd tanio milwrol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 10 (km: 16) to milltiroedd: 0 (km: 0)
Ymwelydd yn tynnu llun o raeadr gyda’i ffôn tra’n sefyll ar glogwyn bach uwchben pwll o ddŵr yn Rhaeadr Henryd ym Mannau Brycheiniog, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech 

Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3.5 (km: 5.6)
Golygfa o’r dirwedd yng Nghomin Abergwesyn, Powys
Llwybr
Llwybr

Llwybr pedol Llanwrthwl 

Mwynhewch olygfeydd panoramig o ‘do Cymru’ ar lwybr pedol heriol ond gwerth chweil Llanwrthwl ym Mhowys.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 10 (km: 16)

Cysylltwch

Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Llyn Ogwen with Glyder Fawr and Y Garn from above Tal y Llyn Ogwen farm with Tryfan dominating the skyline, Carneddau and Glyderau, Snowdonia, Wales
Erthygl
Erthygl

Mynyddoedd yng Nghymru 

Darganfyddwch gopaon trawiadol Cymru, o heriau Tryfan yng ngogledd Eryri i fynyddoedd eiconig Pen y Fan a Phen-y-fâl yn ne Cymru.

A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winters day.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)