Skip to content

Nadolig yng Ngardd Bodnant

Close-up of a Christmas tree decorated with dried orange slices, cinnamon stick bundles and pine cones among green branches. Warm white fairy lights create a golden glow and soft bokeh in the background.
Step into a Christmas inspired by the beauty of Bodnant Garden, | © Chris Davies

Camwch i mewn i Nadolig tawelach, wedi’i ysbrydoli gan harddwch Gardd Bodnant. Crwydrwch o amgylch coed Nadolig disglair, addurniadau wedi’u hysbrydoli gan y coetir a chyffyrddiadau tymhorol sy’n dod ag ychydig o hud yr ŵyl i mewn dan do.

Nadolig yng Ngardd Bodnant

Y gaeaf hwn, camwch i mewn i Nadolig tawelach, wedi’i ysbrydoli gan harddwch Gardd Bodnant. 

Crwydrwch o amgylch coed Nadolig disglair, addurniadau wedi’u hysbrydoli gan y coetir a chyffyrddiadau tymhorol sy’n dod ag ychydig o hud yr ŵyl i mewn dan do. 

Casglwch o amgylch y tân i dostio malws mely a mwynhau crefftau ymarferol i’r teulu, archebwch ymlaen llaw ar gyfer gweithdai creadigol wedi’u hysbrydoli gan ardd y gaeaf, neu cadwch fwrdd ar gyfer cinio rhost Nadolig. 

Creu torch, addurno basgedi gyda’r plant, neu’n syml, mwynhau amser gyda’ch gilydd, cewch hyd i ddigonedd o ffyrdd i greu atgofion arbennig y gaeaf hwn. 

Digwyddiadau’r gaeaf hwn

Tarwch olwg ar y rhestr ddigwyddiadau cyn ymweld, i gael y diwrnod gorau posib yng Ngardd Bodnant.

Bwyd a diod Nadoligaidd 

Cynheswch gyda diod boeth o’r bwyty, mwynhewch rywbeth i'w fwyta o’r fwydlen dymhorol, neu rhowch wledd i’ch hun gyda gwin cynnes, siocled poeth, malws melys wedi’u tostio (ar ddyddiadau penodol) neu ddarn o gacen i orffen eich ymweliad Nadoligaidd ag Ardd Bodnant.

Dysgwch ragor am yr hyn sydd ar gael.

Siopa Nadolig hawdd 

Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop anrhegion sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau. Rhowch anrheg arbennig i’ch anwyliaid neu i chi'ch hun y Nadolig hwn. 

Dysgwch ragor am siopa yng Ngardd Bodnant.

Cwpl yn mwynhau am dro drwy'r holl blanhigion y gaeaf o'r Ardd Gron

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant

Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Diwrnodau allan i'r teulu yng Ngardd Bodnant 

Gydag 80 acer i’w harchwilio, mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau ychydig o amser tawel gyda’i gilydd yng Ngardd Bodnant, Conwy, gogledd Cymru. Treuliwch ychydig oriau yn mwynhau’r prydferthwch a’r natur mae gwahanol rannau o’r ardd yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.

Visitors walk across a grassy lawn beneath a canopy of mature Japanese maples glowing with autumn colour in Bodnant Garden. Shades of red, orange and gold fill the Acer Glade, creating a vibrant woodland scene in warm sunlight.

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant 

Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn), o ddydd Iau i ddydd Sul o fis Ebrill i fis Medi, a phob dydd o fis Hydref i fis Mawrth. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant.

Dachshund yn gwisgo côt sgwariau porffor, ar dennyn, gyda dail yr hydref ar y glaswellt o’i gwmpas, yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Visitors pause to admire and photograph the vivid autumn foliage in Bodnant Garden's Acer Glade. Japanese maples display striking shades of green, orange and deep crimson, filling the garden with seasonal colour.