Skip to content

Chwedlau a llên gwerin Cymru

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Cwm Idwal yn Eryri, Cymru | © National Trust Images/Chris Lacey

Dysgwch am y chwedlau sydd wedi siapio tirweddau hynafol Cymru. O darddle ein draig goch enwog yn y gogledd i lyn hudol yn y de, mae ‘na hanesyn hudol i bawb, a chyfoeth o draddodiadau i’w darganfod.

Chwedlau Gogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru’n gartref i rai o chwedlau enwocaf ein gwlad, o stori Dinas Emrys, cartref mynyddig y ddraig a welwch yn cyhwfan ar faner Cymru, i Feddgelert, gorffwysfa ci enwocaf Cymru.

Beddgelert, Eryri
Yn ôl y chwedl, gadawodd Llywelyn Fawr, tywysog o’r 13eg ganrif, ei faban yng ngofal ei hoff gi, Gelert, ond wrth ddychwelyd gwelodd fod ei etifedd ar goll a’r ci yn goch gan waed. Dim ond ar ôl iddo ladd Gelert y darganfu’r tywysog gorff blaidd mawr, a’i fab yn ddiogel y tu ôl iddo. Mae cofeb i’r ci enwog i’w gweld ym Meddgelert hyd heddiw.Darganfyddwch chwedl Beddgelert
Cwm Idwal, Eryri
Mae Cwm Idwal yn gartref i rai o olygfeydd mwyaf trawiadol y DU, ac mae ei straeon yn siŵr o greu cymaint o argraff hefyd. O hanesyn trist am sut y lladdwyd mab tywysog o’r 12fed ganrif gan ei ewythr cenfigennus i gawr y mae ei stori wedi’i cholli i dreigl amser, a stori am sut y plannwyd gwreiddiau’r cyhoeddiad byd-enwog ‘On the Origin of Species’ ym mhen Charles Darwin ar ymweliad ym 1831.Dysgwch am hanes Cwm Idwal
Dinas Emrys, Eryri
Un o chwedlau bythol y Cymry yw stori’r ddraig goch a saif yn falch ar eu baner. Yn ôl y sôn, roedd brenin Celtaidd yn adeiladu castell yn Ninas Emrys, ond bob nos roedd y waliau’n chwalu. Datgelodd y dewin Myrddin fod hyn gan fod dwy ddraig yn cysgu yn y mynydd oddi tano. Deffrowyd y dreigiau ac ymladdasant yn ffyrnig tan i’r ddraig wen ffoi a’r ddraig goch ddychwelyd i’w ffau.Darganfyddwch chwedl dwy ddraig
Ysbyty Ifan, Eryri
Heddiw, mae Ysbyty Ifan yn ystâd brydferth â phentref heddychlon, bryniau di-ben-draw, ffermydd a golygfeydd godidog, ond peidiwch â chael eich twyllo – o dan yr wyneb mae hanes cyffrous am farchogion, pererinion a lladron. Ers talwm roedd yn hafan i herwyr, gan gynnwys yr enwog wylltiaid cochion Mawddwy.Darganfyddwch hanes Ysbyty Ifan
Golygfa o gopa Ysgyryd Fawr yn Sir Fynwy, Cymru
Golygfa o gopa Ysgyryd Fawr yn Sir Fynwy | © National Trust Images/Chris Lacey

Chwedlau De Cymru

Gyda stori’r cawr, Jack O’Kent, ar Ysgyryd Fawr a Chwm Llwch, ynys hudol a ymddangosai bob Gŵyl Fai, mae straeon chwedlonol am greaduriaid rhyfeddol yn frith dros dirwedd y de.

Bannau Brycheiniog, Powys
Gwnaeth stori drasig Tommy Jones, bachgen bach a gollodd ei ffordd ym Mannau Brycheiniog, gyffwrdd â chalonnau cymuned gyfan. Mae ei stori’n dal i gael ei phasio ‘mlaen o genhedlaeth i genhedlaeth ac mae obelisg yn nodi’r fan lle daethpwyd o hyd iddo.Dysgwch am stori Tommy Jones
Cwm Llwch, Powys
Yn swatio o dan fynyddoedd Pen y Fan a Chorn Du, mae’r llyn hwn yn fôr o hanes a chwedl. Un stori sydd wedi’i hadrodd dros ganrifoedd yw honno am ynys hud sydd weithiau i’w gweld o’r lan. Yn ôl y sôn, byddai twnnel yn agor o’r graig i’r ynys ar Ŵyl Fai bob blwyddyn, a byddai’r sawl a oedd yn ddigon dewr i fentro drwyddo yn darganfod gardd brydferth lle’r oedd y tylwyth teg yn byw. Byddent yn chware cerddoriaeth swynol, yn dweud y dyfodol, ac yn rhoi ffrwyth a blodau bendigedig i ymwelwyr. Dywedwyd wrth bob gwestai na ddylai fynd ag unrhyw beth o’r ynys, ond un Ŵyl Fai, rhoddodd ymwelydd barus flodyn yn ei boced. Pan gyrhaeddodd yn ôl i’r lan, diflannodd y blodyn ac fe gollodd ei synhwyrau i gyd. Ers y diwrnod hwnnw, nid yw’r drws i’r ynys byth wedi agor.
Ysgyryd Fawr, Sir Fynwy
Mae chwedl leol yn adrodd hanes cawr, Jack O’Kent, a gafodd ddadl gyda’r Diafol ynghylch pa un oedd fwyaf, Pen-y-fâl neu Fryniau Malvern. Jack oedd yn iawn (Pen-y-fâl sydd fwyaf), ac yn ei ddicter casglodd y Diafol ffedog enfawr o bridd i’w roi ar ben Bryniau Malvern. Wrth iddo groesi Ysgyryd Fawr, torrodd llinynnau’r ffedog, a ffurfiodd y pridd y twmpath sydd i’w weld ar ben gogleddol y mynydd.Darganfyddwch y straeon
Penrhyn Dewi, Sir Benfro
Dyma ddinas leiaf gwledydd Prydain, yn wir, ond mae Tyddewi’n drysorfa o chwedlau. O wreiddiau Celtaidd a chaerau Oes yr Haearn i orffwysfa olaf Dewi, nawddsant Cymru, mae cyfoeth o hanes i’w ddarganfod yma.Darganfyddwch hanes Tyddewi
Llwybr yn arwain heibio i arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhenmaen Dewi yn Sir Benfro, Cymru
Llwybr ym Mhenmaen Dewi yn Sir Benfro | © National Trust Images/Leo Mason

Chwedlau a thraddodiadau Cymru

Dysgwch am rai o draddodiadau enwocaf y wlad, o nawddsant cariadon Cymru i ddathliadau Nos Galan Gaeaf.

Dydd Santes Dwynwen, 25 Ionawr

Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, oedd y brydferthaf o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog. Cwympodd mewn cariad â Thywysog o’r enw Maelon, ond ni allant briodi. Â hithau’n torri’i chalon, erfyniodd ar dduw i’w helpu i anghofio amdano, felly anfonodd angel ati. Rhoddodd yr angel botes iddi a fyddai’n gwneud iddi anghofio am Maelon a’i droi’n floc o iâ.

Yna rhoddodd duw dri dymuniad iddi. Dymunodd y câi Maelon ei ddadmer, na fyddai hi byth yn priodi, ac y byddai dymuniadau a breuddwydion pob cariad yn cael eu gwireddu. Cafodd pob un o’r tri dymuniad eu gwireddu, ac er diolch am hyn, cysegrodd Dwynwen ei bywyd i dduw, gan sefydlu lleiandy ar ynys Llanddwyn, y mae ei adfeilion i’w weld hyd heddiw.

Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth

Mae Cymry ledled y byd yn dathlu Dewi Sant, nawddsant Cymru, ar 1 Mawrth. Gyda chennin Pedr melyn, gwisgoedd traddodiadol lliwgar, gorymdeithiau’r ddraig ac angerdd yr anthem, mae’n un o uchafbwyntiau calendr ein cenedl.

Wedi’i eni yn y 6ed ganrif yn Sir Benfro, Dewi yw unig nawddsant brodorol y DU, ac mae llawer o chwedlau a gwyrthiau’n gysylltiedig â’r gŵr. Byddwch fel y Cymry - ar ddechrau Mawrth, gwisgwch genhinen Bedr neu genhinen, coginiwch wledd Gymreig o gawl neu gacennau cri (neu bice ar y maen), ac ymunwch â gorymdaith neu gyngerdd.

Calan Mai, 1 Mai

Calan Mai oedd dechrau’r haf, ac ar ôl heriau’r gaeaf llwm fe’i cyfarchwyd gyda dawnsio haf a charolau Mai. Byddai pobl yn addurno’r tu allan i’w cartrefi gyda changhennau draenen wen fel symbol o dwf a ffrwythlondeb, a byddent yn rhoi eu hanifeiliaid allan i bori am y tro cyntaf.

Nos Galan Mai oedd un o dair ysbrydnos, pan fyddai’r llen rhyngom ni a byd yr ysbrydion ar ei theneuaf. Roedd pobl yn adeiladu coelcerthi i’w diogelu eu hunain rhag ysbrydion dieflig ac yn cynnal defodau i ddod â lwc iddynt am weddill y flwyddyn, gan gynnwys neidio dros y fflamau deirgwaith, gyrru gwartheg rhwng tanau, a rhoi lludw yn eu sgidiau (tybiwyd bod gan hyn briodoleddau hudol).

Yr Heuldro, 21 Mehefin

Yr Heuldro (neu Alban Hefin) yw diwrnod cyntaf yr haf astronomegol, a diwrnod hira’r flwyddyn. Yn y calendr Cymreig traddodiadol, roedd yn cael ei groesawu gyda dawnsio, rhialtwch a choelcerthi – dathliadau a oedd i gyd yn hanfodol i gynhyrchu cnwd toreithiog.

Roedd Nos Gŵyl Ifan hefyd yn cael ei galw’n Ddiwrnod Casglu, oherwydd credai’r Derwyddon fod planhigion meddyginiaethol a gasglwyd ar y diwrnod hwn yn arbennig o nerthol. Tybiwyd bod uchelwydd, yn arbennig, yn gwella pob salwch, ac yn ôl rhai roedd yn cael ei dorri â phladur aur a’i ddal mewn lliain cyn iddo gwympo i’r ddaear. Yn ôl y chwedl, petai sbrigyn a gasglwyd ar Nos Gŵyl Ifan yn cael ei roi o da glustog rhywun, byddai ei freuddwydion yn rhagweld digwyddiadau’r dyfodol.

Nos Galan Gaeaf, 31 Hydref

Mae Nos Galan Gaeaf yn nodi diwedd y cynhaeaf a dechrau'r gaeaf. Ar y noson hon, byddai pentrefwyr yn dawnsio o amgylch coelcerth cyn gosod cerrig gyda’u henwau wedi’u hysgrifennu arnynt yn y tân. Wrth i'r tân ddechrau diffodd, byddai’r pentrefwyr i gyd yn rhedeg adref er mwyn bod yn ddiogel rhag yr Hwch Ddu Gwta, sef hwch frawychus ddu heb gynffon, a oedd yn crwydro cefn gwlad gyda'r Ladi Wen, gan eu bod yn credu y byddai’n dwyn eu heneidiau petaent yn loetran yn rhy hwyr.

Fodd bynnag, byddai'r pentrefwyr yn dychwelyd at y goelcerth y bore canlynol i archwilio eu cerrig. Os oedd eu carreg wedi'i llosgi'n lân, y gred oedd bod hyn yn lwc dda, ond os oedd eu carreg ar goll, roedd yn cael ei ystyried i fod yn ddrwgargoel o'u marwolaeth arfaethedig.

Mari Lwyd, Canol gaeaf

Gyda phenglog ceffyl, peli addurno fel llygaid, a mwng o addurniadau lliwgar, fyddwch chi byth yn anghofio'r tro cyntaf i chi weld Mari Lwyd. Yn ystod nosweithiau tywyll y gaeaf, yn aml rhwng Dydd Nadolig a Nos Ystwyll, mae Mari a'i chriw yn teithio drwy bentrefi Cymru, gan greu digonedd o ddrygioni ar hyd y ffordd.

Maent yn gofyn i ddod i mewn i bob tŷ drwy gyfres o benillion neu 'bwnco', ac mae’r unigolion sydd y tu mewn yn ymateb gyda'u penillion eu hunain, gan roi esgus pam na all Mari ddod i mewn. A dyna ddechrau brwydr o odlau chwareus. Os yw perchennog tŷ yn caniatau i Mari a'i chriw ddod i mewn, rhoddir bwyd a diod iddynt, a’r gred oedd y byddai’r aelwyd yn cael ei gwobrwyo gyda lwc dda am y flwyddyn

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Tu allan i Gastell Penrhyn ar ddiwrnod braf

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon