Llwybr Trwyn Ragwen
Mwynhewch olygfeydd godidog ar draws Bae Caerfyrddin a dysgwch am hanes lleol diddorol ar y daith hon ar hyd y clogwyni at fae anghysbell.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio ym Mhentywyn, cyfeirnod grid: SN234080.
Cam 1
Ewch i lawr i’r traeth o’r maes parcio a throwch i’r dde tuag at y garreg frig gyntaf. Dilynwch y llwybr serth i fyny’r bryn. Pan gyrhaeddwch y copa, gallwch edrych yn ôl dros filltiroedd o dywod euraidd. Mae Traeth Pentywyn yn enwog fel y lleoliad lle torrodd Malcolm Campbell a JG Parry-Thomas record cyflymder tir y byd bum gwaith rhwng 1924 a 1927.
Cam 2
Dilynwch y llwybr rownd i’r chwith, tuag at Drwyn Ragwen. Yn go ddiweddar, roedd yr ardal hon yn fôr o glymog Japan, ond ar ôl gwaith cadwraeth helaeth, mae bellach yn gartref i lawer o flodau gwyllt a phlanhigion brodorol.
Cam 3
Mae’r llwybr yn croesi Trwyn Gilam, lle mae bryngaer o Oes yr Haearn a gweddillion system gaeau ganoloesol.
Cam 4
Dilynwch y llwybr i draeth cerrig bach, Morfa Bychan, lle paratôdd Lluoedd y Cynghreiriaid ar gyfer glaniadau Normandi ym 1944.
Cam 5
Ewch i’r dde lle mae’r llwybr yn gwahanu a dilynwch y llwybr drwy gaeau i’r gyffordd â’r heol.
Cam 6
Trowch i’r dde eto a cherddwch ar hyd y lôn yn ôl i’r maes parcio ym Mhentywyn.
Man gorffen
Maes parcio ym Mhentywyn, cyfeirnod grid: SN234080.
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Dinefwr
Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw tirweddol o'r 18fed ganrif.
Llwybr ‘Capability’ Brown yn Ninefwr
Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.
Llwybr bywyd gwyllt Parc Dinefwr
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
Cysylltwch
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Crwydrwch y parc yn Ninefwr
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)