
Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i ddarganfod Naws y Nadolig yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd! Dros y Nadolig, camwch i mewn i’r castell hudolus lle mae traddodiad a moethusrwydd yn dod at ei gilydd mewn arddangosfa Nadoligaidd, a darganfyddwch weithgareddau a pherfformiadau fydd yn swyno, diddanu a dod ag anwyliaid at ei gilydd.
Rhwng Dydd Iau a Dydd Sul o 27 Tachwedd tan Ragfyr 21, ac eto rhwng Rhagfyr 21 ac Ionawr 1, bydd Castell Penrhyn yn agor ei ddrysau am gyfnod y Nadolig. Mae digonedd i wneud dros y cyfnod, o edrych ar yr ystafelloedd crand wedi eu haddurno i fwynhau gweithdy creu torch, gwylio perfformiad am hanes lleol i ddarganfod anifeiliaid bach y goedwig yn cuddio yn y castell, gwrando ar sesiwn stori hudolus i fynd ar daith tywys tu ôl i’r llen.
Ewch ar daith o amgylch y castell trawiadol gyda naws Nadoligaidd eleni. Bu’r teulu Pennant, oedd berchen ar Gastell Penrhyn yn ystod yr Oes Fictoraidd, yn treulio ychydig o amser yn eu cartref gwledig yng Ngogledd Cymru dros y Nadolig. Camwch yn ôl mewn amser a mwynhewch y Nadolig yn ei holl ysblennydd Fictoraidd.
Gwelwch y Neuadd Fawr wedi ei droi yn wlad hud y gaeaf gyda choed, goleuadau’n pefrio a cherddoriaeth. Wrth i chi grwydro drwy’r Llyfrgell, y Parlwr a’r Ystafell Eboni, cewch weld yr ystafelloedd moethus wedi eu haddurno’n draddodiadol i adlewyrchi’r traddodiadau Fictoraidd oedd unwaith yn digwydd yn yr ystafelloedd.
Cewch weld y Grisiau Mawr wedi eu haddurno hyd yn oed yn fwy nac arfer wrth i goeden Nadolig ddod yn ganolbwynt. Gallwch gymryd ysbrydoliaeth gan y portreadau a’r paentiadau yn yr Ystafell Frecwast wrth i chi sefyll am lun wedi ei fframio. Yn yr Ystafell Fwyta, mae’r bwrdd wedi ei osod ar gyfer gwledd y Nadolig, tra bod yn y Ceginau Fictoraidd mae’r ystafelloedd yn llawn arogleuon wrth i’r gwaith paratoi gael eu cwblhau ar gyfer y digwyddiad. Mae’r ystafelloedd yma’n anhygoel i’w gweld rhan fwyaf o’r amser, a dros y Nadolig maen nhw’n hyd yn oed yn fwy arbennig.
Fyddwch chi’n ymweld gyda phlant? Edrychwch am anifeiliaid bach y goedwig cafwyd eu gwneud â llaw sydd wedi cyrraedd y castell. Wrth i chi grwydro drwy’r ystafelloedd, cadwch lygaid am y llygod bach, y cwningod a’r draenogod sydd yn mwynhau’r golygfeydd Nadoligaidd.
Ewch draw i Bantri’r Bwtler lle gallwch wneud eich cardiau Nadolig eich hun cyn y diwrnod mawr, neu gerdyn diolch os ydych chi’n ymweld ar ôl Dydd Nadolig.
Wedi’ch ysbrydoli gan y golygfeydd Nadoligaidd? Ymunwch â Floverly mewn sesiynau trefnu blodau yng Nghastell Penrhyn. Paratowch eich tŷ ar gyfer y Nadolig, mae dewis o ddau sesiwn. Ar Ragfyr 12, crëwch dorch Nadoligaidd ar gyfer eich drws, neu ymunwch â'r sesiwn ar Ragfyr 19 i greu canolbwynt blodeuog ar gyfer eich bwrdd bwyta. Mae tocynnau'n £35 y pen, ac mae archebu'n hanfodol.
Archebwch eich lle ar y gweithdy creu torchau yma.
Archebwch eich lle ar y sesiwn canolbwynt blodeuog yma.
Mae hi’n fis Rhagfyr 1901 ac mae’r castell yn ferw o weithgarwch wrth i staff y gegin baratoi ar gyfer dathliadau’r Nadolig. Mae Gwen y forwyn yn brysur wrth ei gwaith ond yn methu peidio a meddwl am ei theulu nôl adref ym Methesda gyfagos. Mae ei brawd, sy’n chwarelwr, ar drothwy ei ail flwyddyn o Streic Fawr y Penrhyn, a bydd Nadolig ei deulu yntau’n wahanol iawn i’r arfer…
Ymunwch â ni am y profiad ymdrochol yma ar Ragfyr 6 gyda’n actor preswyl i ddysgu am draddodiadau’r Nadolig yng Nghastell Penrhyn a’r gymhariaeth gyda chaledi bywyd yn ystod Streic Fawr y Penrhyn 1900-1903, y gweithredu diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Bydd perfformiadau dwyieithog yn y Geginau Fictoraidd drwy’r dydd.
Mae hwn yn brosiect cydweithredol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Lechi Cymru, wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Eisiau ychwanegu hyd yn oed mwy o hud at eich ymweliad? Beth am ymuno â ni dros benwythnos 13 a 14 o Ragfyr i gwrdd â'r hudwr Jay Gatling yn y Llyfrgell? Byddwch yn barod i grafu eich pen wrth i chi wylio'r triciau llaw syfrdanol.
Rydym yn gyffrous i rannu y bydd Siwan Llynor yn dychwelyd i'r Neuadd Fawr eleni ar gyfer sesiynau adrodd straeon hudolus yn dilyn llwyddiant y llynedd.
Ar 12 Rhagfyr, byddwch yn cael eich cludo i fyd tylwyth teg y gaeaf a hud trwy gân a drama. Mae gan Siwan Llynor flynyddoedd o brofiad mewn ymgysylltu cymunedol creadigol a pherfformio i fabanod a phlant ifanc.
Bydd sesiwn yn y bore am 11am ac un arall yn y prynhawn am 1:30pm. Nid oes angen archebu, a bydd y sesiwn wedi'i chynnwys yn y pris mynediad safonol.
Ar ddydd Iau a dydd Sul, mwynhewch daith tu ôl i'r llenni o rai o'r ystafelloedd sydd ddim yn rhan o’r taith ymwelwyr arferol drwy lens bywyd Alice Douglas-Pennant.
Archwiliwch y feithrinfa lle treuliodd ei blynyddoedd cynnar, ac Ystafell Wely'r Brenin lle cafodd ei halltudio pan ddarganfu ei thad ei bod wedi syrthio mewn cariad â garddwr. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weld rhai o'r casgliadau nad ydynt ar ddangos ar hyn o bryd yn y Siop Decstilau a'r Siop Lluniadu.
Amseroedd y teithiau yw:
10:30yb
11:30yb
1:30 yp
2:30yp
Mae'r teithiau'n costio £5 a gellir eu harchebu wrth gyrraedd ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'r teithiau hyn yn ddibynnol ar argaeledd gwirfoddolwyr felly ni allwn warantu lle cyn cyrraedd.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae llawer o ffyrdd o ddathlu'r Nadolig gyda ni eleni. Trefnwch ymweliad gaeafol lleol, dewch o hyd i'r anrheg perffaith a rhowch gynnig ar grefftau. (Saesneg yn unig)
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.