Skip to content

Ymweliadau grwpiau ac ysgolion â Chastell Penrhyn

Plant yn dysgu am yr eiddo yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd, Cymru
Dewch â’ch grŵp ysgol i Gastell Penrhyn, Cymru | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae Castell Penrhyn yn llawn i’r ymylon o hanes ac o wrthrychau diddorol i’w darganfod. Mae digonedd o gyfrinachau i’w datgelu, llawer â chysylltiadau clos â chymunedau lleol a hanes. Porwch yn hanes y Penrhyn a llenwi meddyliau chwilfrydig sy’n awyddus i ddysgu trwy storïau o’r gorffennol.

Ymweliadau ysgol â’r Penrhyn

Darganfyddwch drysorau Castell Penrhyn gyda’ch grŵp ysgol neu addysgol. Os oes arnoch eisiau amser i archwilio eich hun neu gael eich arwain gan aelod o’r tîm, mae digon i’w weld bob tro y byddwch yn ymweld.

Ymweliadau dan eich arweiniad eich hun

Pam na ddewch chi â’ch dosbarth neu grŵp blwyddyn a gadael iddyn nhw archwilio eu hunain gydag ymweliad dan eich arweiniad eich hun? Trwy grwydro Castell Penrhyn yn eich amser eich hun gallwch archwilio’r ystafelloedd moethus neu fwynhau’r ardd furiog hanesyddol a’r tiroedd. Bydd angen i grwpiau dan eich arweiniad eich hun archebu eich ymweliad ymlaen llaw.

Mae angen archebu ymweliadau o flaen llaw. Mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol.

Plant yn rhedeg ar hyd llwybr trwy redyn yn yr ardd yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd, Cymru
Mwynhewch grwydro’r ardd yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim i arweinwyr grŵp

Os ydych chi’n trefnu ymweliad grŵp, gallwch wneud cais am Docyn Diwydiant Teithio am ddim a gallwch chi a ffrind neu gydweithiwr gael mynediad am ddim i dros 300 o’n lleoliadau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am 12 mis. Dyma’r ffordd berffaith i gynllunio ymweliad llwyddiannus – drwy weld rhywle gyda’ch llygaid eich hun. I dderbyn eich tocyn, ffoniwch 0344 800 2329, neu e-bostiwch ni yn NTTravelTrade@capita.co.uk.

Pwy sy’n gallu cael mynediad am ddim?

Tywyswyr bwrdd twristiaeth cofrestredig (drwy ddangos bathodyn dilys), gyrwyr coetsys ac arweinwyr teithiau sydd â grwpiau o 15 neu fwy. Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn cael mynediad am ddim, felly gallwch ad-dalu’r ffi fynediad i aelodau os ydych wedi’i chynnwys yn eich pecyn yn ôl eich disgresiwn – ni chaiff hon ei had-dalu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhaid i aelodau ddod â’u cardiau aelodaeth gyda nhw i osgoi talu’r gyfradd grŵp lawn. Os hoffai unrhyw aelodau o’ch grŵp ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeiriwch nhw at ein tudalen Ymuno â Ni neu dywedwch wrthynt am ffonio 0344 800 1895.

Cael ysbrydoliaeth yng Nghastell Penrhyn

Wrth i chi grwydro tu mewn i’r castell, gallwch siarad â’n harweinwyr ystafell cyfeillgar, fydd yn barod iawn i rannu eu brwdfrydedd am Gastell Penrhyn a’i hanes.

Mae pob dydd yn llawn o brofiadau dysgu newydd ac ysgogol, gyda darganfyddiadau newydd yn cael eu gwneud gan ein tîm yn y casgliad yn gyson. Tyrchwch yn ddyfnach a chael eich ysbrydoli gan bron i 600 mlynedd o hanes, o’i ddechreuadau cynnar fel maenor gaerog i storïau mwy diweddar a hanes lleol.

Grŵp o ymwelwyr yn yr Amgueddfa Reilffyrdd yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd, Gogledd Cymru
Grŵp o ymwelwyr yn yr Amgueddfa Reilffyrdd yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd | © National Trust Images/Rob Stothard

Archebu eich ymweliad grŵp â Chastell Penrhyn

Er mwyn cadw lle ar gyfer eich ymweliad neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu y byddech yn hoffi cael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost neu ffoniwch ni ar 01248 353084.

Castell Penrhyn a’r Ardd yw’r lle perffaith ar gyfer ymweliad addysgol dan eich arweiniad eich hun. Os hoffech chi gynllunio eich ymweliad, cysylltwch â ni yn penrhyncastle@nationaltrust.org.uk

Tocyn Mynediad Grŵp Addysgol

Gall ysgolion fanteisio ar Docyn Mynediad Grŵp Addysgol, sef aelodaeth flynyddol sy'n rhoi mynediad am ddim i'r grŵp ysgol gyfan i ran fwyaf o lefydd o dan ein gofal am flwyddyn.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

Daffodils blooming in grass in the park at Penrhyn Castle and Garden, Gwynedd, Wales, with bare-branched trees and the castle in the background
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Erthygl
Erthygl

Streic Fawr y Penrhyn 

Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.

Dyfrlliw yn cael ei ddangos fel delwedd ffotograffig ddu a gwyn. Yn nodi’r lleoliad fel Jamaica yn dangos bryniau, palmwydd a chychod. O gasgliad Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Castell Penrhyn a hanes fasnach gaethwasiaeth 

Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant 

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

A close up of a scone covered in cream and jam
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn 

Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.