Skip to content

Llwybr Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn

Cymru

Golygfa o Southgate gyda blodau yn y blaendir.
Golygfa o Southgate ym Mhenrhyn Gŵyr | © National Trust/Meg Woodhouse

Ar y llwybr cerdded byr hwn, cewch fwynhau golygfeydd godidog dros Benrhyn Gŵyr a De Penfro. Ymlaciwch gyda phicnic ar un o draethau mwyaf eiconig Penrhyn Gŵyr, gyda golygfeydd o adfeilion Castell Pennard.

Man cychwyn

Maes parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Hyd1 awr
Addas i gŵn***
  1. *Taith gerdded gymedrol ar hyd llwybr yr arfordir, gyda rhai dringfeydd serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd. 

  2. **Rhai llwybrau anwastad a bryniau serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad. 

  3. ***Mae croeso i gŵn, ond dylent gael eu cadw ar dennyn gan fod anifeiliaid o gwmpas. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.

  • Cyfanswm y rhannau: 4

    Cyfanswm y rhannau: 4

    Man cychwyn

    Maes parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874

    Rhan 1

    O’r maes parcio, cadwch i’r dde a dilynwch y llwybr wrth iddo droi a throelli ar hyd y clogwyn. Cadwch olwg am y blodau sy’n dwlu ar bridd calch, sy’n creu arddangosfa arbennig yn y gwanwyn.

    Rhan 2

    Dilynwch yr arfordir tan eich bod yn edrych dros Fae’r Tri Chlogwyn.

    Rhan 3

    Byddwch yn disgyn yn raddol drwy dwyni tywod i Fae Pobbles.

    Rhan 4

    Cerddwch yr holl ffordd i’r gwaelod a mwynhewch bicnic. Os ydych chi’n ymweld pan mae’r llanw ar drai, gallwch gyrraedd Bae’r Tri Chlogwyn ar draws y tywod o Fae Pobbles – ond cadwch lygad ar y llanw a byddwch yn ofalus.

    Man gorffen

    Bae’r Tri Chlogwyn, cyfeirnod grid: SS535879

    Map llwybr

    Map o lwybr Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn
    Map o lwybr Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Rhedeg Rhosili 

Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.

Gweithgareddau
Rhedeg
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8) to milltiroedd: 0 (km: 0)
Mwynhewch y llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas traeth Rhosili, Cymru

Cylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili 

Crwydrwch gaeau’r Vile gyda golygfeydd o Fae Rhosili’n gefnlen berffaith. Yn fwrlwm o fywyd gwyllt ac yn enghraifft o ddull ffermio lleiniau canoloesol, maent wedi’u hadfer ac yn cael eu ffermio i greu cynefinoedd newydd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Golygfa o uchder o’r Vile, system o gaeau lleiniog canoloesol islaw pentref Rhosili, Gŵyr, Cymru. Yn y blaendir gellir gweld toeau tai pentref Rhosili, a gellir gweld ymyl y clogwyn a’r môr y tu hwnt yn y pellter.

Llwybr Cefnen Rhosili, Hillend a’r traeth 

Taith gerdded heriol i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd. Mae siambrau claddu, gorsafoedd radar a llongddrylliadau ymysg yr uchafbwyntiau a welwch ar hyd y daith.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5 (km: 8)
Lliw porffor y rhostir gyda chefnlen arfordirol ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Adeilad gwyn siop a chanolfan ymwelwyr Rhosili, yn y pellter gellir gweld ymyl y clogwyn gyda’r môr a’r awyr las yn cwrdd ar y gorwel.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire