Skip to content
Golygfa o Raeadr Ddu gyda chenlli gwyn dros gerrig tywyll, gyda choed gwyrdd o’i gwmpas.
Rhaeadr Ddu ac Afon Gamlan | © National Trust Images/John Miller
Wales

Taith Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd

Mae hon yn daith gylchol wych ar hyd afon yn Ne Eryri, gan eich arwain ar hyd Afon Gamlan fyrlymus a heibio rhaeadr ryfeddol Rhaeadr Ddu. Byddant yn edrych yn wahanol bob tro y byddwch yn ymweld, gan ddibynnu ar y glaw, y tywydd a’r golau.

Rhannau creigiog

Byddwch yn ofalus iawn ar rannau creigiog ger y rhaeadr. Fe allant fod yn llithrig.

Cyfanswm y camau: 5

Cyfanswm y camau: 5

Man cychwyn

Maes parcio Dolmelynllyn, Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243

Cam 1

Croeswch y ffordd o’r maes parcio tuag at y neuadd bentref haearn sydd newydd ei hadnewyddu.

Cam 2

Dilynwch y ffordd darmac ar hyd yr afon, ac yna dilynwch yr arwyddion dros y bont garreg, gan anelu am bont bren. Chwiliwch am y garreg sydd wedi ei gorchuddio â chen ac arysgrif Lladin wedi ei gerfio arni.

Cam 3

Croeswch y bont bren a gwyro i’r dde tuag at y rhaeadr. Mae Rhaeadr Ddu yn ddwy raeadr sy’n disgyn dros 60 troedfedd (18m). Byddwch yn ofalus ar y rhan hon gan y gall y creigiau fod yn llithrig.

Golygfa o raeadr yn llifo i bwll mawr tywyll, gyda choed hydrefol o’i gwmpas
Rhaeadr Ddu ar Afon Gamlan | © National Trust/Malcolm Davies

Cam 4

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr gan ddilyn yr arwyddion. Ewch trwy’r giât mochyn ac yn fuan wedyn dilynwch y llwybr i’r chwith, gan ddilyn yr arwyddion i lawr trwy goetir derw agored.

Cam 5

Ar y groesffordd, ewch yn syth ymlaen trwy’r giât bren. Dilynwch y llwybr, trwy ddwy giât arall, i’r briffordd. Trowch i’r chwith yma i fynd yn ôl i faes parcio Ganllwyd.

Golygfa heibio ffens ddu fetel i goetir hydrefol a ffordd oddi tano
Mwynhewch olygfeydd o’r coetir yn y Ganllwyd, De Eryri | © National Trust/Malcolm Davies

Man gorffen

Maes parcio Dolmelynllyn, Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243

Map llwybr

Map o daith gylchol o’r Ganllwyd, i weld Rhaeadr Ddu ac Afon Gamlan
Map o daith gerdded Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Mae’r dŵr yn araf daro traeth llawn cerrig mân Abermaw, Gwynedd, gyda thref Abermaw yn y cefndir a chlogwyni eithinog Dinas Oleu tu hwnt.
Llwybr
Llwybr

Taith Dinas Oleu, Abermaw 

Crwydrwch trwy’r hen dref droellog hyd at Ddinas Oleu eithinog, roddwyd gan Fanny Talbot i bobl Abermaw, yn 1895: y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.2 (km: 1.92)
Llun o Afon Camlan, sy’n llifo’n gyflym trwy goed trwchus yn Nolmelynllyn, Gwynedd, Cymru. Mae ei glannau wedi eu gorchuddio â mwswgl a glaswellt.
Llwybr
Llwybr

Taith Ystâd Dolmelynllyn 

Dewch i weld y Rhaeadr Ddu fyrlymus ac adfeilion trawiadol gwaith aur Cefn Coch ar daith Ystâd Dolmelynllyn yn Ne Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 4 (km: 6.4)
Teulu ifanc a ci yn cerdded o amgylch llyn llonydd gyda choed yr hydref yn cael eu hadlewyrchu yn y llyn
Llwybr
Llwybr

Taith y Llyn Addurnol, Dolmelynllyn 

Mwynhewch daith addas i gadeiriau olwyn a wnaiff i chi ymlacio o gwmpas y llyn a adferwyd yn Nolmelynllyn, sy’n wych i wylio bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 0.6 (km: 0.96)

Cysylltwch

Dolmelynllyn car park, Ganllwyd, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2TF

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A person walking along the South West Coast Path at East Soar, South Devon

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan 

Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.