Skip to content
Sgidiau cerdded ar lwybr yr arfordir, Cymru
Ewch am dro o gwmpas Stad Southwood, Sir Benfro | © Crown Copyright (2015) Visit Wales
Wales

Llwybr arfordir i arfordir Stad Southwood

Mwynhewch olygfeydd arfordirol ysgubol, ffermdir sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt a choedwigoedd hudolus ar y gylchdaith 2.5 filltir hon o gwmpas traeth Niwgwl.

Cyfanswm y camau: 10

Cyfanswm y camau: 10

Man cychwyn

Maes Parcio Maidenhall, cyfeirnod grid: SM 85800 20135

Cam 1

Gan ddechrau o faes parcio Maidenhall, croeswch y ffordd a throwch i’r chwith drwy gât y cae, gan ddilyn ymyl y cae. Mae’r ffermdir yma yn cael ei reoli er budd adar ffermdir a phlanhigion âr prin, yn ogystal â chael ei bori gan wartheg a merlod.

Cam 2

Ewch drwy’r gât fetel ac ar hyd ymyl y cae nesaf, gan ddilyn yr arwyddion. Y fferm fawr yn y pellter, i’r dde, yw Fferm Southwood. Yng nghornel waelod y cae hwn mae gât law bren – ewch drwyddi a dilyn ymyl y cae isaf i’r chwith.

Cam 3

Dilynwch yr arwyddion i gyrraedd gât law bren yn y ffens. Mae’r llwybr yn mynd i lawr y gefnen o redyn a chlychau’r gog at bont dros y nant ar y gwaelod. Rydych chi nawr yn cyrraedd Fferm Southwood. Gall gwartheg a merlod fod yn y cae hwn.

Cam 4

Ewch i lawr cefnen fechan a thrwy’r gât ger nant fas, gan fynd i mewn i’r coetir a throi i’r chwith i anelu am y môr. Wrth y man lle byddwch yn croesi’r nant mae onnen drawiadol, wedi’i gorchuddio â mwsogl, rhedyn a chennau. Mae’n un o lawer o goed llawn cymeriad yn y goedwig hon.

Cam 5

Dilynwch yr arwyddion ar draws y cae y tu hwnt i’r coetir, gan groesi dyffryn nant fechan cyn dringo i’r cae nesaf, gan basio drwy ardal gorsiog i gyrraedd gât fetel ar ffin y cae. Mae’r llwybr wedyn yn troi tua’r arfordir, ar hyd coridor wedi’i ffensio.

Cam 6

Wrth i chi groesi i Pinch Hill, rydych chi’n gadael tir sydd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch ar hyd ymyl safle chwarela bach a dilynwch y llwybr i’r gogledd, i’r dde, gan fynd i lawr llethr arfordirol i gyrraedd y maes parcio canol, reit y tu ôl i draeth Niwgwl.

Cam 7

Ewch yn ôl ar hyd y ffordd neu, yn dibynnu ar y llanw, ar hyd y traeth neu’r gefnen garegog.

Cam 8

Manteisiwch ar y caffi a’r tai bach cyhoeddus ym maes parcio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mhen deheuol traeth Niwgwl cyn dringo’r bryn ar y ffordd.

Cam 9

Dilynwch lwybr yr arfordir oddi ar y ffordd hon. Byddwch yn ailymuno â thir sydd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl mynd drwy’r gât law nesaf. Mae’r clogwyni o gwmpas Trwyn Maidenhall yn cael eu pori gan ein merlod a’n gwartheg yn achlysurol i gadw’r llystyfiant arfordirol mewn cyflwr da.

Cam 10

Ewch ar hyd llwybr yr arfordir, gan deithio tua’r de, cyn troi i’r chwith tua’r tir mawr. Mae pantiau bach i’w gweld yma ac acw ar y llwybr arfordirol yma – gweddillion hen waith glo Fictoraidd. Ewch drwy’r gât law bren a chroeswch y ddôl blodau gwyllt i ddychwelyd i faes parcio Maidenhall.

Man gorffen

Maes Parcio Maidenhall, cyfeirnod grid: SM 85800 20135

Map llwybr

Map llwybr arfordir i arfordir Southwood, Sir Benfro
Map llwybr arfordir i arfordir Southwood, Sir Benfro | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfeydd o gefn gwlad a’r môr yn Stad Southwood yn Sir Benfro
Llwybr
Llwybr

Taith bywyd gwyllt Stad Southwood 

Dewch am dro drwy ffermydd Folkeston a Trefrane, yng nghanol y stad, lle mae’r caeau’n cael eu rheoli’n ofalus i gefnogi bioamrywiaeth bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.3 (km: 2.08)
Yr olygfa o Garn Llidi dros Fae Porth Mawr, Sir Benfro, Cymru, gydag Ynys Dewi yn y pellter.
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi 

Dilynwch lwybr ar hyd pentir arfordirol mwyaf dramatig Sir Benfro, dafliad carreg o Dyddewi, i ddarganfod henebion cynhanesyddol ac adar amrywiol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3.75 (km: 6)

Cysylltwch

Newgale, Roch, Pembrokeshire, SA62 6AR

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Erthygl
Erthygl

Sir Benfro 

Mae tirwedd Sir Benfro yn gyfuniad lliwgar o arfordir a chefn gwlad, gyda thraethau eang, gwlyptiroedd toreithiog ac ynysoedd creigiog i chi eu darganfod.

A cushion with a floral decoration and colourful pastel throws
Erthygl
Erthygl

Siopa yn Nhyddewi 

Mae’r siop dan ei sang ag eitemau Cymreig, lleol a chynhyrchion gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Galwch draw i bori drwy’r casgliad neu brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A person walking along the South West Coast Path at East Soar, South Devon

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.