
Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Bydd Tŷ Mawr Wybrnant yn ail-agor ar gyfer y tymor newydd ar 20 Ebrill. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r lle arbennig hwn ac i arddangos yr ychwanegiadau newydd cyffrous a fydd yn ehangu profiad ymwelwyr ar y safle.
Diwrnod | Dyddiad | Amser |
Dydd Sul, dydd Llun a dydd Mercher | Ar agor ar y dyddiau yma tan diwedd mis Medi. | 10am tan 4pm |
Mae'r gardd a'r tir ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Nodwch: Bydd y toiledau a'r llyfrgell dim ond ar agor pan fydd y ffermdy ar agor.
I gyrraedd Tŷ Mawr ewch i Benmachno a dilyn yr arwyddion brown oddi yno, peidiwch â dilyn sat nav na dod ar hyd yr A470.
Dewch i gael golwg o gwmpas y ffermdy bychan ond arwyddocol yma o’r 16eg ganrif a oedd yn fan geni’r Esgob William Morgan, a fu wrthi am 10 mlynedd yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac sydd wedi helpu i sicrhau parhad yr iaith.
Bydd aelod o staff wrth law i adrodd ychydig am ei hanes ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae’r ystafell arddangos, a elwir ‘Y Llyfrgell’ bellach, yn sefyll gerllaw’r prif ffermdy ac yn cynnig profiad ymdrochol i ymwelwyr. Yno, mae'r llyfrgell cerdded i mewn hyfryd, a ysbrydolwyd gan y paentiad o Sant Sierôm (cyfieithydd Beibl y Fwlgat Lladin) yn ei Astudfa, wedi cael ei greu er mwyn dathlu cyfieithiad William Morgan o’r Beibl. Mae’r gofod unigryw hwn, sy’n ystafell o fewn ystafell, yn fframio’r weithred o ddarllen a bydd yn gartref i gasgliad o Feiblau mewn gwahanol ieithoedd gan gynnwys rhai y gall ymwelwyr ymdrin â nhw mewn ffyrdd rhyngweithiol.
Cliciwch ar y ddolen i ddarlen mwy am y prosiect yma: Gwelliannau |Tŷ Mawr Wybrnant | Conwy | National Trust
Mae’r ardd Duduraidd fechan yn Tŷ Mawr, sydd yn y broses o gael ei hadnewyddu, wedi’i dylunio i roi’r apêl synhwyraidd fwyaf drwy gydol y flwyddyn tra hefyd yn cynnwys planhigion a gyfeirir atynt gan Shakespeare a’r Beibl – sy’n ffurfio cysylltiad ychwanegol gyda hanes Tŷ Mawr a'i ddeiliaid. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i dyfu planhigion anarferol yn ogystal â rhai mwy cyfarwydd i ennyn diddordeb ymwelwyr, gyda chynaliadwyedd ac egwyddorion amgylcheddol wrth galon y prosiect.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr ardd.
Mae’r daith hon yn eich arwain trwy hanes cymdeithasol a byd natur y cwm hwn yn ucheldir Cymru. Yn ganolog iddo mae Tŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Byddwch yn cerdded trwy dir amaethyddol traddodiadol yr ucheldir, ar hyd ffyrdd coedwig a hen ffordd y porthmyn.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Taith Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant
Taith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a gweddillion coetir hynafol. Fe welwch olygfeydd gwych tua’r Wyddfa a Moel Siabod ar hyd y ffordd, yn ogystal ag amrywiaeth anferth o blanhigion a bywyd gwyllt.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Taith Ty’n y Coed Uchaf a Chwm Eidda
Mae dyddiau agored yn Tŷ Mawr yn cael eu cynnal ar ddydd Sul cyntaf pob mis rhwng 10am a 4pm, gyda phob un yn edrych ar thema wahanol.
Cliciwch ar y ddolen i weld y rhaglen ar gyfer 2025: Diwrnodau Agored | Tŷ Mawr | Conwy | National Trust
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.
Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.