
Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Eleni byddwn yn profi dulliau newydd o rannu stori ddiddorol Tŷ Mawr a dathlu ei arwyddocâd diwylliannol enfawr. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynnig rhaglen gyffrous o ddiwrnodau agored misol, pob un â thema wahanol. Byddwn yn rhannu ein ddiweddariadau yma.
Bydd y ffermdy ar agor bob dydd Mawrth, 12-4pm o 25 Gorffennaf - 26 Medi. A hefyd dydd Sul 10 Medi, 10am-4pm ar gyfer Gwyl Drysau Agored.
Eleni bydd yr ystafell arddangosfa ar agor bob dydd rhwng 2 Ebrill - 1 Hydref, gan roi cyfle i ymwelwyr ddysgu am straeon Tŷ Mawr. Mae croeso hefyd i ymwelwyr fwynhau’r ardd ac archwilio'r llwybrau cyfagos yn ystod eu hymweliad.
Nodwch, bydd y toiledau ar agor pan fydd y ffermdy ar agor.
I gyrraedd Tŷ Mawr ewch i Benmachno a dilyn yr arwyddion brown oddi yno, peidiwch â dilyn sat nav na dod ar hyd yr A470.
Rydym hefyd yn ddathlu stori ac arwyddocâd Tŷ Mawr trwy raglen gyffrous o ddiwrnodau agored misol eleni. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid, gyda thema wahanol bob mis.
Bydd dyddiau agored o Ebrill – Hydref, 11am – 4pm ar ddydd Sul cyntaf pob mis ac maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu. Fel rhan o'r diwrnodau agored fydd y ffermdy ar agor, gyda detholiad o Feiblau i'w gweld.
Sgwrs yng nghwmni Peredur Lynch (Athro mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol ym Mhrifysgol Bangor), Gruffudd Antur (Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) a hanesydd lleol Eryl Owain. Niferoedd cyfynedig, felly mae archebu lle o flaen llaw yn hanfodol. Cysylltwch a ni er mwyn cadw eich lle ar beth sydd yn siwr o fod yn sgwrs ddifyr dros ben.
Ar gyfer ein diwrnod agored misol olaf o'r flwyddyn byddwn yn canolbwyntio ar orffennol mwy diweddar Tŷ Mawr. Gyda arddangosfa hen luniau o’r cyfnod adfer y ffermdy yn yr 80au a chyfle i rannu eich atgofion chi.
Ddaru ni mwynhau gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Ysbyty Ifan a Llanddoged i rannu stori Tŷ Mawr trwy lais y genhedlaeth nesaf. Yn ystod mis Mawrth buom yn hwyluso cyfleoedd cyffrous i’r disgyblion ddysgu sgiliau newydd, wrth roi her iddynt greu llwybr map a recordio synau i'w defnyddio ar gyfer deuluoedd ac ysgolion sy’n ymweld â Thŷ Mawr.
Buom yn rhannu eu gwaith ar y diwrnod agored cyntaf, 2 Ebrill ac ar Ddydd Gwener y Groglith.
Buom yn darganfod dirgelion Wybrnant drwy fynd am daith gyda hanesydd lleol, Eryl Owain. Taith i ymweld â Fedw Deg, cartref disgynyddion Llywelyn Fawr, lle ac iddo hanes hir a chythryblus. Ymlaen at hen ffermdy mawreddog Bwlch-y-maen a hen gapel ac ysgol Gyfyng - canolbwynt bywyd cymdeithasol y fro ers talwm - ac yna’n ôl at Dŷ Mawr.
Cyfle i ddysgu mwy am waith Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a chyfrannu at fap enwau lleoedd.
Prynhawn hyfryd yng nghwmni’r canwr gwerin, Elidyr Glyn, a fydd yn perfformio set acwstig ar y lawnt i dros 60 o ymwelwyr.
Camwch yn ôl mewn amser i ddarganfod sut le fyddai yn y tŷ yn Oes y Tuduriaid, gwrandewch ar seinwedd bu Ysgolion Ysbyty Ifan a Llanddoged yn creu.
Buom ar y Maes gyda sgwrs ddifyr yng nghwmni Peredur Lynch (Athro mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol ym Mhrifysgol Bangor), Gruffudd Antur (Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) a hanesydd lleol Eryl Owain.
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.
Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda dros 140 o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.