Llwybr pedol Llanwrthwl
Taith gerdded heriol drwy rostir a thir mawnog, ar ochr ddwyreiniol Comin Abergwesyn yng nghanolbarth Cymru.
Mae’r daith gerdded hon yn cynnig golygfeydd ysblennydd o ‘asgwrn cefn Cymru’ – Mynyddoedd Cambria.

Dechrau:
Eglwys Llanwrthwl, cyf grid: SN977638
1
Gan gychwyn y daith gerdded o’r eglwys yn Llanwrthwl, ewch ar hyd y ffordd fechan sy’n dilyn ochr chwith y fynwent. Dilynwch y ffordd hon am oddeutu 2 filltir (3.5km) nes i chi gyrraedd fforch yn y ffordd. Cymerwch y fforch dde ac ewch drwy’r giât bren.
2
Dilynwch y trac graean am oddeutu 1 filltir (1.5km) ac fe welwch y llwybr ceffyl glaswellt yn torri ar draws y bryn ar eich llaw dde. Ewch ar hyd y llwybr ceffyl hwn hyd nes i chi gyrraedd wal garreg sych a giât ar y top. O’r fan hon, trowch i’r dde ac anelwch am gopa mynydd Trembyd.
3
Ar gopa Trembyd fe welwch bentwr o gerrig a oedd unwaith yn garnedd gladdu. Oddi yma, anelwch tuag at Drum Ddu ar draws y cyfrwy. Os arhoswch ar yr ochr dde, cewch gadw eich traed yn sychach gan fynd heibio dwy garnedd arall. Wedi i chi fynd ar draws y cyfrwy, ewch yn lletraws i fyny’r bryn nes i chi gyrraedd y copa mwy gwastad, a cherddwch ar hyd y llwybr glaswellt at y garnedd yn Drum Ddu. O’r garnedd dilynwch y llwybr ar hyd y grib am oddeutu 440 llath (440m). Fe welwch drac yn anelu tua’r dde ac i lawr y rhiw tuag at Rhos Saith Maen. Ewch ar y trac hwn i lawr y rhiw.
4
Croeswch y trac sy’n rhedeg dros Rhos Saith Maen a dilynwch y llwybr i waelod Y Gamriw. Yna dilynwch y trac sy’n codi tua’r chwith ar draws y bryn, nes cyrraedd hen adeilad ar y brig. Oddi yma, trowch i’r dde ac ewch ar y llwybr i’r copa sy’n mynd o ochr chwith yr adeilad. Mae carnedd y copa ar y dde, ychydig cyn y piler triongli.
5
O’r piler triongli ar Y Gamriw, dilynwch y grib tuag at Lanwrthwl. Fe ewch heibio sawl carnedd ar eich llaw dde ar hyd y grib. Wrth i chi gyrraedd pen draw’r grib bydd angen i chi ddilyn y llwybr igam-ogam sy’n mynd i lawr at, a thrwy goedwig uwchben Fferm Dol Iago. Ar y fferm, dilynwch yr arwyddion sy’n eich arwain i’r dde ac i lawr i’r trac fferm sy’n arwain i’r ffordd. Ar y ffordd trowch i’r chwith ac yna i’r dde yn y gyffordd. Dilynwch y ffordd yn ôl i’r eglwys.
Diwedd:
Eglwys Llanwrthwl, cyf grid: SN977638