Pam rydyn ni’n plannu coed yma?
Dyffryn Mymbyr yw’r “ddolen goll” rhwng y ddau ddyffryn coediog yn ardal Nant Gwynant a Chapel Curig. Trwy blannu coed ar ffridd y fferm, gallwn helpu i gysylltu’r ddwy ardal goediog ar y naill ochr a’r llall, gan roi cyfle i adar a mamaliaid bychan grwydro ymhellach hefyd. Mae’n golygu y bydd coed yn gorchuddio mwy o'r rhan hon o Eryri ac yn rhoi gorchudd mwy cyson.
A oes manteision eraill?
Rydym wedi plannu’r rhan fwyaf o’r coed mewn ceunentydd ac ar lannau nentydd gan mai dyna lle ceir yr amddiffyniad naturiol gorau. Ond gall fod manteision ychwanegol i blannu mewn ceunentydd; mae coed yn helpu i arafu llif y dŵr pan fydd gorlifiadau sydyn a gallant wella ansawdd y dŵr hefyd. Pan fydd yn bwrw glaw yn Nyffryn Mymbyr, mae’r dŵr yn llifo yn y pen draw i afon Conwy, sy’n enwog am orlifo’i glannau. Trwy blannu coed yma, a gwneud gwaith arall fel blocio ffosydd draenio i adfer y fawnog, ein gobaith yw y bydd llai o lifogydd yn nes i lawr yr afon ac y bydd ansawdd y dŵr yn well.
Ar ôl i’r coed gryfhau, gallant weithredu fel lleiniau cysgodi ar gyfer y defaid mynydd. Gall hynny fod yn lles mawr i’r anifeiliaid a gwella cynhyrchiant i’r ffarmwr.
Mae’r math hwn o blannu lawer yn llai costus ac yn cael llai o effaith weledol ar y dirwedd na chodi ffens o gwmpas darn o dir er mwyn plannu coed.
Beth nesaf?
Hyd yma, mae’r prosiect wedi dangos y gellir tyfu coed newydd ar dir sy’n cael ei ffermio heb lawer o gostau a heb golli tir pori. Mae’r manteision i fywyd gwyllt yn amlwg ond mae’r manteision ychwanegol, sef dŵr glân sy’n llifo’n araf a chysgod ar gyfer da byw yn gwneud y syniadau’n arbennig o gyffrous.
Byddwn yn defnyddio’r prosiect hwn i ddangos i ffermwyr, perchnogion tir a cheidwaid eraill beth yw’r manteision posibl. Gobeithio y gwelwn ragor o goed yn cael eu plannu ar ffermydd mynydd ledled y wlad er budd bywyd gwyllt, da byw, dŵr ac efallai, yn fwyaf oll, er budd y coed eu hunain.