Dymuniad Nadolig
Daeth un o’n dymuniadau Nadolig yn wir ar Noswyl Nadolig wrth i ni greu hanes a chroesawu ein 100,000fed ymwelydd yn 2016.
Rhoddodd y staff a’r gwirfoddolwyr eu gwaith i’r naill ochr ac ymgasglu o gwmpas Derbynfa’r Ymwelwyr i groesawu Mr a Mrs O’Riordan i ddathlu’r garreg filltir nodedig hon ag ychydig o siampên a danteithion Nadoligaidd. Teg dweud bod y ddau wedi synnu o gael y fath groeso!
Hudolus
Roedd y cwpl, sy’n byw yn Sussex, yn ymweld â’n tŷ rhestredig Gradd II a’n gardd Edwardaidd restredig Gradd I gyda’u perthnasau Anne ac Isla Sharp. Roeddent yn arbennig o awyddus i weld taith Deuddeg Diwrnod y Nadolig.
Dywedodd Christine O’Riordan: “Dyma’r tro cyntaf i ni fod yng Nghymru dros y Nadolig felly mae hyn yn drît bach arbennig iawn i ni.”
“Mae fy merch yn byw yng Nghaerdydd ac yn ymweld â’r gerddi’n rheolaidd, felly hi argymhellodd i ni ddod yma. Mae’n hudolus bod hyn wedi digwydd ar Noswyl Nadolig.”
Hanes
Gweledigaeth y diwydiannwr John Cory a’i fab Reginald oedd y gerddi, a hynny ar ddechrau’r 20fed ganrif. Cawsant eu dylunio gan y pensaer tirlunio enwog Thomas Mawson.
O 1996 defnyddiwyd yr eiddo fel canolfan gynadledda gan gyngor Bro Morgannwg, a chafodd ei adfer yn helaeth diolch i fwy na £6 miliwn o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Yn 2013 cafodd y trysor hwn, a oedd wedi’i esgeuluso rywfaint, ei roi yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o brydles 50 mlynedd gan gyngor Bro Morgannwg.
Yn dilyn blynyddoedd o ofal, datblygiad a chydnabyddiaeth fel lleoliad mwyaf poblogaidd Cymru yng nghystadleuaeth Lleoedd Arbennig Wales Online, a hynny am ddwy flynedd yn olynol, mae ein hatyniad wedi gallu tyfu a rhagori ar ddisgwyliadau ymwelwyr.