Tro natur drwy’r coed Glan Faenol
Dewch i ddarganfod y goedwig o fewn y muriau yng Nglan Faenol. Efallai y gwelwch chi forloi yn y Fenai neu beth am gyfrif faint o wahanol fathau o adar y medrwch chi eu hadnabod o’r cuddfannau adar a’r llwyfannau gwylio?
Darganfod cyfoeth bywyd môr Afon Menai
Dewch i ddarganfod y coed brodorol a’r parcdir hynafol gyda’u golygfeydd hyfryd ar draws y Fenai tuag at dŷ a gerddi Plas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Dechrau:
Ardal bicnic Glan Faenol, cyfeirnod grid: SH532698
1
Anelwch at waelod yr ardal bicnic ac ewch drwy’r giât mochyn. Daliwch i fynd yn syth i lawr y cae (gan gofio rhoi cŵn ar dennyn) tuag at Afon Menai.
Golygfa dros y Fenai
Fe fyddwch yn gallu gwerthfawrogi ysblander ac urddas cartref Ardalydd Môn dros y dŵr ym Mhlas Newydd o safle Glan Faenol. Ac, os ydych chi yn dod i ymweld â Phlas Newydd ei hun, fe allwch chi fynd am dro drwy’r gerddi taclus a’r coedlannau hardd yno. O Blas Newydd fe allwch chi hefyd edrych nôl am Lan Faenol, lle rydych chi rŵan, a mwynhau golygfeydd godidog o Eryri.
2
Wrth ichi ddod at ymyl y cae fe welwch chi wal fawr y Faenol (sy’n strwythur wedi ei restru ac yn dangos cyfoeth y stad pan oedd yn ei anterth). Dringwch y stepiau i’r guddfan adar a chymerwch gip dros y wal i weld pa fywyd gwyllt welwch chi. Mae piod y môr, y bilidowcar a’r gylfinir yn ymwelwyr cyson â’r glannau yma ac efallai y cewch chi gip ar forlo’n bwydo yn y Fenai. Ar ôl mwynhau’r olygfa, gadewch y guddfan a mynd drwy’r giât i’r coed.
Cuddfannau adar Glan Faenol
Mae’r cuddfannau yn rhoi cyfle ichi edrych dros y wal fawr sy’n amgylchynu holl stad y Faenol. Mae’r wal ei hun wedi ei rhestru fel cofeb a phan gafodd ei chodi hon oedd y strwythur mwyaf o’i fath yng Nghymru. Mi fedrwch chi weld amrywiaeth fawr o adar môr yma neu gael cip ar forlo’n nofio heibio.
3
A dibynnu ar y tymor, mi welwch chi sioe liwgar o flodau’r gwanwyn neu liwiau tawel yr hydref ar y llwybr yma drwy’r coed. Tybed fedrwch chi weld adeilad traddodiadol diddorol yn cuddio yn y coed ar ochr draw i’r Fenai (mae’r fainc uchel yn lle da i weld)? Mae’r adeilad yng Ngerddi Plas Newydd, sy’n lle arall gwych ichi fynd i archwilio ar ôl bod am dro. Dewch allan o’r coed drwy giât fechan arall.
Lliwiau’r goedwig yng Nglan Faenol
Yn y gwanwyn neu’r hydref mae yma wledd o liwiau i’w gweld wrth gerdded o gwmpas Stad Glan Faenol. Fe fydd bob math o flodau lliwgar yn swatio dan ganghennau’r coed yn y gwanwyn ac arogl garlleg gwyllt a blodau melys yn llenwi’r lle. Yn yr hydref mae’r gymysgedd o wahanol goed llydanddail yn creu syrcas o liwiau cynnes.
4
Mi fedrwch chi ddringo’r llwyfan wylio fan hyn i gael cip arall dros y wal ar gartref hanesyddol Marcwis Môn ym Mhlas Newydd. Yna, trowch eich cefn ar y Fenai a cherdded i fyny’r cae rhyw 50 llath (45m) at bont a giât mochyn ar y dde. Ewch drwy’r giât ac i mewn i Goed y Tŷ Cychod.
5
Wrth ddilyn y llwybr drwy’r coed welwch chi’r gwahaniaeth rhwng y coed yma a’r goedwig gynta’? Pa un yw eich ffefryn a pham eu bod nhw’n wahanol? Yn y pen draw fe ddowch chi at bont arall; croeswch hi ac yna mi ddewch chi at lwybr arall. Mi fedrwch chi orffen y daith fan hyn drwy droi i’r dde a dilyn y llwybr nes cyrraedd giatiau gwyrdd. Ewch drwy’r giatiau (sy’n dyddio nôl i gyfnod pan oedd gan y stad lond y lle o anifeiliaid egsotig a cheirw ar gyfer hela). Dilynwch y rhodfa goed at giât arall. Mi fedrwch chi droi i’r chwith fan hyn a mynd nôl i’r maes parcio.
6
Croeswch dros y llwybr ac mi ddowch chi i ardal goediog arall. Faint o wahanol fathau o goed welwch chi wrth ddilyn y llwybr drwy’r goedwig ifanc, naturiol yma? Ar ôl dringo ychydig o stepiau ewch drwy giât mochyn i mewn i gae.
7
Gan gofio cadw cŵn ar dennyn, cerddwch i fyny’r cae gan ddilyn y ffens ar y chwith. Rydych chi rŵan mewn parcdir hynafol iawn a choedwig bob ochr ichi. Arhoswch am eiliad i fwynhau’r harddwch a’r heddwch.
8
Ar ôl cyrraedd top y cae, ewch i mewn i Goed Cefn Gwyn drwy giât mochyn arall. Dilynwch y llwybr heibio i hen goed derw, ynn a masarn nes dod at giât mochyn arall.
9
Drwy’r giât yma dilynwch y ffens ar hyd top y cae at giât mochyn arall. Drwy’r giât yma trowch i’r chwith a cherdded ar draws y cae at giât arall dan y coed.
10
Mi welwch chi giât driongl, sef Giât y Gylfinir. Mae wedi ei gynllunio i adael defaid trwodd ond i stopio gwartheg rhag dod ar y llwybr. Ewch drwy’r giât yma a dilyn y llwybr nes dewch chi at giât mochyn mawr.
11
Ewch drwy’r giât hon a throi i’r chwith a dyna chi wedi cyrraedd ac yn barod am hoe haeddiannol yn yr ardal bicnic.
Diwedd:
Ardal bicnic Glan Faenol, cyfeirnod grid: SH532698