Llwybr Rhedeg Rhosili, Gŵyr
Dyma lwybr rhedeg amrywiol 10km, sy'n dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd ochr Cefnen Rhosili, yn dychwelyd ar hyd 3-milltir o draeth tywod melyn, gyda'r ail hanner yn eich arwain draw at bentir dramatig Pen Pyrod.
Yng nghaeau'r ardal hon gellir gweld un o enghreifftiau gorau'r wlad o'r hen ddull traddodiadol o ffermio ar stribedi o gaeau cul neu leiniau. Rydyn ni'n ffermio yma gan ddefnyddio dulliau sy'n cefnogi bywyd gwyllt, gan greu gweirgloddiau (dolydd gwair) newydd a phlannu cnydau traddodiadol sy'n creu cynefinoedd perffaith ar gyfer planhigion âr, adar a phryfetach sy'n peillio'r cnydau. Mae'r llwybr hwn yn rhan o'n Cyfres Llwybrau Rhedeg, ac mae wedi'i greu drwy gydweithio gyda Jen a Sim Benson, dau anturiaethwr sy'n arbenigwyr ar redeg llwybrau gwledig.

Dechrau:
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, SS 414880
1
Trowch i'r dde wrth adael mynedfa'r maes parcio a dilyn yr heol tua'r dwyrain gan ddefnyddio'r llwybr ar ochr mynwent yr eglwys, cyn ail-ymuno â'r heol ar gyffordd yn y llwybr.
2
Trowch i'r chwith yma ac ymuno â Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) a'i ddilyn tua'r gogledd. Trowch i'r chwith i ddilyn ochr y bryn gan gadw at ochr y môr wrth basio'r tŵr carreg, yna mynd ymlaen nes cyrraedd y ffordd yn Hillend.

3
Trowch i'r chwith, gan gadw at Lwybr yr Arfordir (LlAC), gan ei ddilyn tua'r gorllewin nes cyrraedd y traeth. Gadewch LlAC a throi i'r chwith i draeth Rhosili a rhedeg tua'r de ar hyd tywod cadarn, gwastad yr holl ffordd yn ôl at y llwybr serth islaw pentref Rhosili ar gornel dde-ddwyrain y traeth.

4
Dringwch y llwybr serth nôl at y dechrau, ond trowch i'r dde wrth y maes parcio a dilyn Llwybr Arfordir Cymru, sydd hefyd yn rhan o Lwybr Gŵyr, at Ben Pyrod. Dilynwch y llwybr heibio i'r Hen Gastell gyda'r gweirgloddiau (dolydd) ar y chwith i chi, i gyrraedd gorsaf gwylwyr y glannau.

5
Trowch i'r chwith a dilyn Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) o amgylch y pentir nes cyrraedd cilfach o fôr a chyffordd yn y llwybr. Trowch i'r chwith a gadael LlAC i droi i mewn i'r tir ar hyd ymyl y caeau cul hynafol. Trowch i'r chwith pan gyrhaeddwch y gyffordd nesaf a dilyn y llwybr ar hyd ymyl y caeau nes cyrraedd nôl at y dechrau.
Y Vile
Byddwch chi'n rhedeg drwy'r Vile, ardal rydyn ni'n ei ffermio gan ddefnyddio dulliau gwahanol. Sylwch fod y cnydau yn fôr o wahanol liwiau, ac wedi eu plannu i gynnal bywyd gwyllt. Mae blodau'r gweirgloddiau yn wledd i'r llygaid, ac yn ferw o beillwyr.

Diwedd:
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, SS 414880