Taith gerdded Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn
Mwynhewch olygfeydd godidog o benrhyn Gŵyr a De Sir Benfro, mynd am bicnic i un o draethau mwyaf enwocaf Gŵyr a chael cip ar adfeilion Castell Pennard sy’n edrych fel golygfa allan o un o ffilmiau Hollywood.

Dechrau:
Maes parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874
1
O’r maes parcio ewch tua’r de a dilyn y llwybr wrth iddo ymlwybro ar hyd llethrau’r arfordir. Chwiliwch am y blodau sy’n tyfu yn y pridd calchfaen ac sy’n arddangos eu lliwiau hardd yn y gwanwyn.
Blodau Calchfaen
Edrychwch am flodau fel clustog Fair a seren y Gwanwyn sy’n ffynnu yn y pridd calchfaen.
2
Ewch ymlaen ar hyd yr arfordir wrth i chi adael tai West Cliff y tu ôl i chi, nes i chi ddechrau mynd yn raddol i lawr y rhiw.
3
Yn raddol byddwch yn dod lawr i ardal dywodlyd twyni Bae’r Tri Chlogwyn.
Bae’r Tri Chlogwyn
Mae madfallod yn gorwedd ar y tywod poeth yn yr haf ac yn aml gallwch eu gweld yn dianc yn gyflym wrth i chi agosáu.
4
Ewch i lawr ymhellach nes i chi gyrraedd y gwaelod ac yna mwynhewch eich picnic! Os hoffech fynd am dro ymhellach, ewch ymlaen at yr afon a chroesi’r cerrig llamu.
Cerrig Llamu
Yma cewch weld golygfa wych o Gastell Pennard ar hyd dyffryn yr afon.
Diwedd:
Bae’r Tri Chlogwyn, cyfeirnod grid: SS535879